Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) wedi ailbenodi CBRE yn Gynghorydd Cronfa i’r Gronfa Safleoedd Strategol, gan ymestyn partneriaeth sydd wedi cefnogi’r defnydd o ddyraniad cychwynnol y Gronfa o £50 miliwn ar draws de-ddwyrain Cymru.
Ers ei sefydlu yn 2022, mae’r Gronfa Strategol wedi buddsoddi mewn saith prosiect ar hyd a lled y rhanbarth; Rhif 1 Stryd John yng Nghaerdydd, Central Park ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cyfleuster ailgylchu uwch Pulse Plastics ym Mlaenau Gwent, Cyfleuster Storio Batri Aber-wysg yng Nghasnewydd, Ystâd Ddiwydiannol y Goron, Tredegar, Stiwdios Seren a Thŷ Casnewydd.
Gyda’i gilydd, mae’r buddsoddiadau hyn wedi cefnogi 710,000 troedfedd sgwâr o ofod cyflogaeth, wedi denu mwy na £116 miliwn o fuddsoddiad gan y sector preifat ac wedi cynhyrchu £119 miliwn o werth datblygu.
Bydd CBRE yn parhau i gynghori PRC ar darddiad buddsoddiadau, diwydrwydd dyladwy, strwythuro trafodion a rheoli portffolio wrth i’r Gronfa gychwyn ar ei cham nesaf, gan gefnogi cyfleoedd buddsoddi sy’n cyd-fynd â chyflymu arwynebedd llawr masnachol ar draws ardal Blaenau’r Cymoedd yn ne-ddwyrain Cymru a dangos y cyfleoedd sydd ar gael ar hyd yr A465.
Enwyd y Gronfa yn Ariannwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Eiddo Cymru 2025 i gydnabod ei chyfraniad at ddatblygiad a buddsoddiad ar draws y rhanbarth.
Dywedodd Mike Brough, Cyfarwyddwr Strategol Twf Rhanbarthol, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: “Mae llwyddiant y Gronfa Safleoedd Strategol yn ystod ei defnydd cychwynnol yn dyst i’r cydweithio rhwng PRC a CBRE, felly mae’n bleser gennym eu hailbenodi fel ein Rheolwyr Cronfa am bum mlynedd arall. Bydd yn gyffrous gweld sut mae’r Gronfa’n esblygu yn ystod y cyfnod hwn a sut y gallwn barhau i gefnogi cwmnïau, datblygwyr a buddsoddwyr i weld de-ddwyrain Cymru fel cyfle i adeiladu eu portffolio eiddo.”
Dywedodd George Richards, Uwch Gyfarwyddwr, Benthyca, CBRE: “Mae’r Gronfa Safleoedd Strategol wedi helpu i ddatgloi prosiectau ledled de-ddwyrain Cymru yn ystod cyfnod heriol o ran cyllid datblygu. Rydym ni’n falch o’r hyn a gyflawnwyd mewn partneriaeth â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd ac yn edrych ymlaen at gefnogi cam nesaf twf y Gronfa.”
I gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa Safleoedd Strategol, ewch i www.cardiffcapitalregion.gov.uk.