Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) wedi cymeradwyo astudiaethau datblygu archwiliadol ar gyfer morlyn llanw yn Aber Hafren, gan nodi cam ymlaen wrth greu un o gyfleoedd ynni adnewyddadwy mwyaf arwyddocaol y DU.
Bydd PRC yn dyrannu hyd at £6.4 miliwn dros y tair blynedd nesaf, gan ddefnyddio cyllid y Fargen Ddinesig, i gefnogi cam sylweddol cyntaf y prosiect. Bydd hyn yn cynnwys astudiaeth archwiliadol gynhwysfawr a fydd yn ymgorffori ystyriaethau amgylcheddol, dylunio peirianneg, modelu ac asesiadau masnachol.
Dywedodd y Cynghorydd Mary-Ann Brocklesby, Cadeirydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: “Mae’r hon yn eiliad a allai fod yn arloesol ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn y DU. Mae gan Aber Hafren un o’r amrediadau llanw uchaf yn y byd, gyda’r potensial i gynhyrchu ynni adnewyddadwy cartref, rhagweladwy sy’n ategu pŵer gwynt a solar presennol.
“Mewn cyfnod pan mae diogeledd ynni wedi dod yn fwyfwy hanfodol, mae’r gallu i gael mynediad at ynni adnewyddadwy dibynadwy a chost-effeithiol i bweru nifer sylweddol o gartrefi, gan osod Cymru ar flaen y gad o ran arloesi mewn sector mor bwysig, yn gyfle unwaith-mewn-cenhedlaeth. Rwy’n falch bod PRC, ynghyd â’n partneriaid, yn mynd â’r prosiect cyffrous hwn yn ei flaen.”
Os bydd yn mynd rhagddo, mae amcangyfrifon cychwynnol yn awgrymu y gallai’r morlyn ddarparu tua 600MW o drydan adnewyddadwy rhagweladwy – digon ar gyfer tua hanner miliwn o gartrefi – a gweithredu am fwy na 120 mlynedd.
Gallai hefyd gynhyrchu tua £3.5bn mewn gwerth economaidd, gan gefnogi miloedd o swyddi a chreu cyfleoedd sylweddol i fusnesau ar hyd a lled y gadwyn gyflenwi. Yn y cyfamser, mae buddion posibl ehangach yn cynnwys amddiffyniad hirdymor rhag codiad yn lefel y môr ar hyd arfordir de Cymru.
Ychwanegodd Adam Price AS, Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: “Ein gweledigaeth yw i Gymru ddod yn arweinydd byd-eang mewn ynni adnewyddadwy morol. Gyda’r ail amrediad llanw mwyaf yn y byd, mae Aber Hafren yn cynnig potensial aruthrol i gynhyrchu ynni adnewyddadwy sylweddol a buddion economaidd i Gymru.
“Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid i sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan y prosiect unigryw hwn wrth iddo fynd rhagddo.”
Bydd y cam nesaf yn defnyddio cyd-ddylunio amgylcheddol a pheirianneg i bennu graddfa a chyfluniad y prosiect, gan sicrhau bod tystiolaeth amgylcheddol, forol ac ecolegol yn helpu i lunio ei ddatblygiad yn y dyfodol wrth gynnal hyfywedd masnachol.
Dywedodd Katie White OBE AS, y Gweinidog dros Drawsnewid Hinsawdd: “Mae Aber Hafren yn un o adnoddau llanw mwyaf arwyddocaol y DU.
“Bydd y prosiect hwn yn ein helpu i ddeall sut y gall technoleg llanw gyfrannu at y newid i ynni glân, mynd i’r afael â newid hinsawdd a chreu swyddi da a glân yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Stephen Kinnock AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mae gan Gymru record ragorol o arloesi a phartneriaeth, ac mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn parhau i fanteisio ar y cryfderau hynny drwy brosiectau sy’n cefnogi twf economaidd, buddsoddiad ac ynni glân.
“Edrychaf ymlaen at ddilyn y datblygiad gyda diddordeb mawr.”
Mae’r prosiect wedi dod o waith ar y cyd rhwng PRC a’r West of England Mayoral Combined Authority (WECA), yn dilyn argymhellion gan Gomisiwn annibynnol Aber Hafren ar gyfer prosiect arddangos masnachol, gydag Aberddawan a’r cyffiniau’n cael ei nodi fel darpar leoliad ar gyfer y morlyn.
Ychwanegodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae de Cymru, ac Aberddawan yn enwedig, wedi chwarae rhan bwysig yn stori ynni’r DU ers tro byd, ac mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfle i’r safle helpu i arwain y newid i ddyfodol carbon isel. Mae’r potensial i gynhyrchu ynni adnewyddadwy glân a dibynadwy, ochr yn ochr â chreu swyddi, denu buddsoddiad a chefnogi cadwyni cyflenwi lleol, yn gwneud hwn yn bosibilrwydd cyffrous i’r Fro a’r rhanbarth ehangach. Edrychwn ymlaen at weithio gyda phartneriaid wrth i’r gwaith dichonoldeb fynd rhagddo.”
Sefydlwyd y Comisiwn i archwilio ynni llanw yn Aber Hafren, ac i nodi’r ffordd fwyaf effeithiol ac amgylcheddol gyfrifol o ddatgloi ei botensial.
Dywedodd Dr. Andrew Garrad CBE FREng: “Mae gan Aber Hafren botensial ynni aruthrol a daeth y Comisiwn i’r casgliad bod achos cryf dros ddefnyddio’r potensial hwnnw. Yn yr un modd, rhaid ei wneud yn y ffordd gywir – gydag amgylchedd unigryw a rhyngwladol bwysig yr Aber yn parhau i fod wrth wraidd sut mae’r prosiect yn cael ei gynllunio a’i ddatblygu.
Rwy’n falch iawn o weld Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn bwrw ymlaen ag argymhelliad y Comisiwn ar gyfer prosiect arddangos masnachol. Mae’r buddsoddiad hwn yn gam nesaf pwysig wrth adeiladu’r dystiolaeth, gweithio’n agos gyda sefydliadau amgylcheddol, a dangos sut y gall amrediad llanw ddarparu ynni glân, economaidd ar raddfa fawr wrth barchu amgylchedd naturiol eithriadol Afon Hafren.”
Dywedodd Helen Godwin, Maer y West of England Combined Authority (WECA): “Mae Aber Hafren yn ased naturiol eithriadol a nawr yw’r amser i adael i’n llanw bweru swyddi a thwf newydd yng Nghymru a Lloegr. Gan adeiladu ar argymhellion y Comisiwn, rydym ni wedi gweithio’n agos gyda Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i nodi safle allweddol yng Nghymru fel y prosiect cywir i arwain ag ef, gan sicrhau bod amgylchedd unigryw ein harfordir yn parhau i fod wrth galon y cynlluniau.
“Mae buddsoddiad heddiw gan ein cymdogion yng Nghymru yn newyddion cyffrous i bawb, ac yn tanlinellu eto sut y gall potensial aruthrol ynni’r llanw ddatgloi biliynau i’n heconomi, creu swyddi newydd, cyfleoedd sgiliau a chadwyni cyflenwi ledled Gorllewin Lloegr, Cymru a’r DU. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i helpu i wireddu’r cyfle ynni glân cenedlaethol mawr hwn, yma yng nghartref naturiol swyddi gwyrdd newydd.”
Bwriad Aberddawan, fel y safle dewisol, a’r prosiect arddangos yw sefydlu’r cynsail ar gyfer yr hyn a allai ddilyn. Bydd yn cynnig y dystiolaeth sy’n dangos y gall amrediad llanw ar y raddfa hon fod yn gyfrifol yn amgylcheddol, yn dechnegol gyflawnadwy ac yn gystadleuol yn fasnachol, a datgloi cyfres ehangach o forlynnoedd ar hyd a lled Afon Hafren.
Am ragor o wybodaeth am brosiect morlyn llanw Aberddawan, ewch i