Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain Cymru, y corff buddsoddi rhanbarthol ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC), yn croesawu polisi newydd Llywodraeth y DU ‘Ailweirio’r Wladwriaeth’ ac yn datgloi potensial ffordd Gymreig ar y cyd.
Mae’r cynlluniau a ddatgelwyd gan Swyddfa’r Cabinet ddydd Gwener yn adlewyrchu ymgyrch ehangach am well penderfyniadau rhanbarthol dros feysydd fel trafnidiaeth, cynllunio defnydd tir a’r economi – cyfrifoldebau statudol cyfredol sydd wedi’u rhoi i bedwar rhanbarth economaidd Cymru.
Mae PRC wedi ymrwymo i weithio gyda llywodraethau a phartneriaid i ddatblygu pecyn o gynigion credadwy er mwyn grymuso rhanbarthau a’r genedl, ac mae’n barod i adeiladu ar ddeng mlynedd o gydweithio i gyflawni de-ddwyrain Cymru gryfach, tecach a gwyrddach.
Gallai’r cynigion hyn weld rhanbarthau Cymru yn cael yr offer a’r dulliau i fynd i’r afael â heriau parhaus ynghylch cyllid craidd, cydraddoldeb pwerau gydag Awdurdodau Strategol Maerol yn Lloegr a sut y gall ail-ddiwydiannu cymunedau wneud gwahaniaeth parhaol.
Dywedodd y Cyng. Mary Ann Brocklesby, Cadeirydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, “Rydym ni’n croesawu’r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ac yn edrych ymlaen at y trafodaethau ar gyfer gwell datganoli. Rydym ni wedi ymrwymo i ddatblygu ffordd Gymreig, gan gydnabod yr anghenion cyfansoddiadol a thwf ar gyfer y genedl. Mae’r symudiad tuag at fwy o ddatganoli rhanbarthol eisoes ar y gweill mewn rhannau helaeth o Loegr, gyda rhanbarthau yn yr Alban bellach yn galw’n agored am bwerau cyfatebol.
“Ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, rydym ni bob amser wedi anelu at ranbartholdeb ac yn parhau i fod yn awyddus i weithio gyda phartneriaid ar bob lefel o lywodraeth, gan barchu setliad datganoli Cymru, i gael gwell canlyniadau i gymunedau, busnesau a ffyniant y rhanbarth.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Dimitri Batrouni, cyd-is-gadeirydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, “Mae angen amodau teg arnom ni ac mae hynny’n golygu cydraddoldeb pwerau a dulliau gweithredu ar draws rhanbarthau’r DU. Ond nid yw hyn yn ymwneud â grymuso rhanbarthau ar draul llywodraeth genedlaethol neu leol. Mae hon yn sefyllfa ble mae pawb ar eu hennill a fydd yn cryfhau’r system gyfan. Rhaid inni weithio gyda’n gilydd i godi’r safon a sicrhau bod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn uchelgeisiol gyda chefnogaeth pecyn cymorth datganoledig cadarn.”
Daeth y Cynghorydd Chris Weaver, cyd-is-gadeirydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i’r casgliad, “Bydd llwyddiant rhanbarthol yn arwain at well canlyniadau i Gymru – mae perfformiad economaidd cenedlaethol wedi’i seilio ar gryfder cyfunol economïau rhanbarthol a lleol. Dylem ni fod yn edrych ar sut y gallwn weithredu gydag uchelgais ar raddfa ranbarthol ar faterion a chyfleoedd, a gwella pob rhan o’n hecosystem, gan ysgogi syniadau, arloesedd a buddsoddiad ledled de-ddwyrain Cymru.”
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn parhau i weithio gyda’r ddwy lywodraeth, ochr yn ochr â’i chymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i fynd i’r afael â’r bwlch grymuso cynyddol ar draws Dinas-Ranbarthau’r DU. Mae’r dull cydweithredol hwn yn sicrhau bod cenhedloedd datganoledig yn cydweithio i sicrhau chwarae teg i bawb ac yn parhau i fod yn gystadleuol yng nghyd-destun y DU a byd-eang.