Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) wedi lansio ei Strategaeth Lles Plant gyntaf heddiw, gan nodi ymrwymiad hirdymor i wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd ledled de-ddwyrain Cymru drwy fynd i’r afael รข’r ffactorau economaidd a chymdeithasol sy’n llunio eu bywydau.
Mae’r strategaeth bum mlynedd, Tyfu i Fyny’n Dda ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd: Dechrau Tecach, Dyfodol Cryfach, yn rhoi lles plant wrth wraidd gweledigaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) ar gyfer economi a rhanbarth sy’n gryfach, yn decach ac yn wyrddach. Er bod de-ddwyrain Cymru yn gartref i gryfderau a chyfleoedd economaidd sylweddol, mae’r strategaeth yn cydnabod bod gormod o blant yn parhau i wynebu rhwystrau sy’n eu hatal rhag cyrraedd eu llawn botensial, gyda thlodi plant yn parhau i fod yn her sylweddol ledled y rhanbarth.
Mae’r strategaeth yn atgyfnerthu uchelgais ehangach PRC i greu rhanbarth lle gall pob plentyn a pherson ifanc fwynhau rhagolygon tecach, a thyfu i fyny gydag optimistiaeth am eu dyfodol yn ne-ddwyrain Cymru.
Er bod nifer o’r heriau sy’n wynebu plant a theuluoedd yn gofyn am weithredu ar draws nifer o sefydliadau, dywedodd Kellie Beirne, Prif Weithredwr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, fod gan y rhanbarth rรดl unigryw i’w chwarae wrth greu’r amodau sy’n galluogi plant i ffynnu:
โRydym niโn gwybod bod cyfleoedd bywyd plant yn cael eu llunio gan lawer mwy na’r gwasanaethau maen nhwโ n eu defnyddio. Mae’n ymwneud รข’r gallu i sicrhau a dod o hyd i swyddi ar bob cam o fywyd โ boed yn waith rhan-amser, profiad gwaith, mentora neu swydd lawn-amser. Mae hefyd yn cynnwys deall pa gyfleoedd sydd ar gael, pa fusnesau a sectorau diwydiannol sydd yma, yn ogystal รข chael mynediad at drafnidiaeth ddibynadwy a diogel ledled y rhanbarth. Mae hyn oll yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd i gael gobaith ar gyfer y dyfodol, ac i weld de-ddwyrain Cymru fel lle sy’n cynnig cyfleoedd a posibiliadau gwirioneddol.
โDydyn ni ddim yn ceisio dyblygu’r gwaith pwysig sydd eisoes yn cael ei wneud gan awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus. Yn hytrach, rydym niโn canolbwyntio ar ble gall Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ychwanegu’r gwerth mwyaf, drwy ein cyfrifoldebau dros ddatblygu economaidd, trafnidiaeth ranbarthol a buddsoddiad strategol. Nod hyn yw helpu i fynd i’r afael รข rhai o achosion sylfaenol tlodi ac anghydraddoldeb, a chreu cyfleoedd tecach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Wedi’i datblygu ar y cyd ag awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, partneriaid addysg, busnesau a’r sector gwirfoddol, mae’r strategaeth yn amlinellu sut y bydd PRC yn defnyddio ei rรดl fel corff datblygu economaidd y rhanbarth i helpu i greu’r amodau sy’n galluogi plant a phobl ifanc i ffynnu.
Fel arweinydd awdurdod lleol a Chadeirydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby fod mynd i’r afael รข thlodi plant a gwella cyfleoedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn gofyn am weithredu ar y cyd ledled y rhanbarth:
โMae pob plentyn yn haeddu cyfle i ffynnu, waeth ble mae’n byw na’r amgylchiadau y cafodd ei eni iddynt. Ac eto, i ormod o deuluoedd ar hyd a lled de-ddwyrain Cymru, mae tlodiโn parhau i gyfyngu ar gyfleoedd ac effeithio ar les.”
“Mae’r strategaeth hon yn adlewyrchu ein penderfyniad i sicrhau bod lles plant yn cael ei ystyried ym mhopeth a wnawn. Drwy greu cyfleoedd gwirioneddol i bawb, gwella ymwybyddiaeth a mynediad at sgiliau a swyddi, a sicrhau bod buddion buddsoddiโn cael eu teimlo ar draws ein holl gymunedau, gallwn helpu i adeiladu dyfodol mwy disglair ar gyfer y genhedlaeth nesaf.โ
Fel rhan o’i lansiad, trefnodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd weithdy ‘Arweinwyr y Dyfodol’ yng Ngholeg Merthyr Tudful. Yn ystod y sesiwn, rhannodd aelodau o Gynghorau Ieuenctid o bob cwr o’r rhanbarth eu heriau bywyd go iawn, yn ogystal รข’r hyn maen nhw’n ei hoffi am fyw ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Roedd yr heriau hyn yn cynnwys anawsterau wrth geisio cael swydd, ennill profiad a chael cyflog. Dywedodd Alona Mary Anil, 16 oed, o Ferthyr Tudful, a fynychodd y sesiwn:
โRoedd heddiwโn fwy defnyddiol nag yr oeddwn i wedi’i ddisgwyl. Cefais drosolwg o’r hyn mae pobl ifanc eraill o wahanol rannau o dde-ddwyrain Cymru yn ei feddwl a’r anawsterau maen nhw’n eu hwynebu, ond hefyd yr hyn sy’n dda am y lleoedd maen nhw’n byw.
โRwy’n credu y bydd y Strategaeth Lles Plant yn creu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc yn y dyfodol, gan y bydd yn helpu pobl i ddeall pa gymorth ac adnoddau sydd ar gael ledled Cymru. Gallai hyn arwain at greu mwy o weithgareddau, rhaglenni a gwasanaethau i gwrdd ag anghenion pobl ifanc, yn ogystal รข mwy o gyfleoedd mewn addysg, swyddi a chymorth iechyd meddwl. Gallai hefyd helpu pobl ifanc i ddarganfod cyfleoedd nad oedden nhw efallai’n gwybod amdanyn nhw o’r blaen, a fydd yn rhoi gwell cyfle iddyn nhw adeiladu dyfodol cadarnhaol.โ