Heddiw, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) wedi cyhoeddi buddsoddiad o £30m gan UKRI mewn 16 prosiect arloesi cydweithredol. Bydd y rhain yn helpu i ysgogi twf economaidd, creu swyddi â gwerth uchel, a chryfhau safle de-ddwyrain Cymru fel arweinydd mewn dau o’i sectorau pwysicaf: y diwydiannau creadigol a lled-ddargludyddion cyfansawdd.
Wedi’u hariannu drwy Gronfa Partneriaethau Arloesi Lleol UKRI, mae’r prosiectau’n ffurfio portffolio gwerth miliynau o bunnoedd sy’n dod â busnesau, prifysgolion, sefydliadau ymchwil a phartneriaid arloesi ynghyd. Nod hyn yw datblygu technolegau, cynhyrchion a gwasanaethau newydd, tra’n cryfhau ecosystem arloesi’r rhanbarth.
Mae’r cyllid yn cefnogi portffolios blaenllaw mewn sectorau lle mae de-ddwyrain Cymru eisoes yn rhagori: CREATE, sy’n cefnogi deg prosiect o fewn y diwydiannau creadigol, cyfryngau a digidol; a CSconnected 2030, sy’n cefnogi chwe phrosiect sy’n adeiladu ar enw da byd-eang y rhanbarth ym maes ymchwil lled-ddargludyddion cyfansawdd a gweithgynhyrchu uwch.
Dywedodd Kanishka Narayan AS, y Gweinidog dros Ddeallusrwydd Artiffisial: “Wrth i AI a thechnolegau uwch eraill ddatblygu, bydd cyfleoedd enfawr i’r sectorau lled-ddargludyddion a gweithgynhyrchu uwch – meysydd lle mae gan dde Cymru gryfderau gwirioneddol eisoes.
“Rydym ni’n cefnogi arweinwyr lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd i helpu arloeswyr yn y meysydd hyn, sy’n tyfu’n gyflym, i droi eu syniadau’n fusnesau a chynhyrchion. Mae hyn yn creu swyddi â gwerth uchel ac yn ysgogi twf cadarnhaol.”
Ychwanegodd Chris McDonald AS, y Gweinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Buddsoddi: “O led-ddargludyddion i’r sector creadigol, mae’r prosiectau hyn yn dangos pa mor eang yw’r dalent a’r rhagoriaeth dechnegol sydd yma yng Nghaerdydd a’r cyffiniau.
“Nid creu technolegau newydd yn unig mae arloesi’n ei wneud; mae hefyd yn sbarduno busnesau a swyddi newydd sy’n ysgogi twf cadarnhaol. Mae gennym ni’r holl gynhwysion angenrheidiol i adeiladu canolfannau arloesi ledled y wlad. Y cam cyntaf yw sicrhau ein bod yn ariannu cryfderau rhanbarthol, fel y gallwn sicrhau bod manteision arloesi’n cael eu teimlo ledled y wlad – yng Nghaerdydd a thu hwnt.”
Dan arweiniad sefydliadau gan gynnwys CSconnected Ltd, Media Cymru, Tramshed Tech, Whisper TV, Vishay, Microchip Technology, IQE a KLA, mae’r prosiectau’n amlygu ehangder arloesi ar draws y rhanbarth – o dechnolegau creadigol a chynhyrchu cynnwys digidol i led-ddargludyddion uwch sy’n pweru cerbydau trydan, ynni adnewyddadwy a chyfrifiadura perfformiad uchel.
Mae PRC yn cefnogi cydweithrediadau uchelgeisiol sydd â’r potensial i gynnig buddion hirdymor i fusnesau, cymunedau a’r economi ehangach ledled de-ddwyrain Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Cadeirydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a deiliad y portffolio arloesi: “Yn y pen draw, caiff llwyddiant ein rhanbarth ei fesur yn ôl y cyfleoedd sydd ar gael i’r bobl sy’n byw yma. Drwy fuddsoddi mewn sectorau lle mae gennym ni eisoes gryfderau sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol, rydym ni’n helpu i drawsnewid syniadau arloesol yn gynhyrchion, gwasanaethau a chyfleoedd newydd ar gyfer busnesau ledled y rhanbarth.
“O dechnolegau creadigol i led-ddargludyddion cyfansawdd, bydd y cydweithio hwn yn helpu i ddod ag arloesi i’r farchnad yn gyflymach, cryfhau cadwyni cyflenwi, denu buddsoddiad, a chadarnhau safle de-ddwyrain Cymru fel lle sy’n gystadleuol yn fyd-eang ar gyfer gwneud busnes. Drwy fuddsoddi mewn arloesi heddiw, rydym ni’n helpu i greu dyfodol cryfach a mwy llewyrchus i gymunedau ar hyd a lled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.”
Dywedodd Prif Weithredwr UKRI, yr Athro Syr Ian Chapman: “Mae’r prosiectau hyn yn ne-ddwyrain Cymru i gyd yn enghreifftiau rhagorol o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd ymchwilwyr blaenllaw yn y byd, busnesau arloesol a phartneriaid rhanbarthol yn dod at ei gilydd ag uchelgais ar y cyd.
“Gan adeiladu ar gryfderau lleol a buddsoddiad blaenorol gan UKRI, byddan nhw’n creu swyddi o ansawdd uchel, yn denu buddsoddiad ac yn darparu buddion pendant i bobl a chymunedau ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
“Trwy’r Gronfa Partneriaethau Arloesi Lleol, mae UKRI yn cefnogi partneriaethau ledled y DU i adeiladu ar eu cryfderau nodedig, gan drosi arloesedd yn effaith sy’n hyrwyddo gwybodaeth, yn gwella bywydau ac yn sbarduno twf.”
Mae’r portffolio’n rhan o ymrwymiad ehangach PRC i gefnogi twf sy’n cael ei yrru gan arloesi, ac i sicrhau bod y rhanbarth yn sicrhau mwy o werth economaidd o ddiwydiannau sy’n dod i’r amlwg, rhagoriaeth mewn ymchwil, a chyfleoedd masnachol.
Bydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – ochr yn ochr â Media Cymru (dan arweiniad Prifysgol Caerdydd a phartneriaid diwydiant) a Tramshed Tech – yn gyrru’r portffolio CREATE a’r 10 prosiect sydd ynddo ymlaen. Dywedodd yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Media Cymru: “Mae’r buddsoddiad hwn yn ein galluogi i adeiladu ar lwyddiant sylweddol gweithgareddau Cronfa Cryfder Mewn Lleoedd Media Cymru, a’n galluogodd i ddatblygu ecosystem arloesi ffyniannus a rhyng-gysylltiedig ar gyfer y diwydiannau creadigol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
“Trwy’r Gronfa Partneriaethau Arloesi Lleol, byddwn yn parhau i gynnal cystadlaethau ariannu ymchwil a datblygu gyda ffocws penodol ar arloesi mewn meysydd cryf fel ffilm, teledu, cerddoriaeth a gemau. Mae angen i ni hefyd nodi a chefnogi busnesau creadigol sydd â photensial twf uchel. Rydym ni’n edrych ymlaen at weithio gyda chyllidwyr, partneriaid, diwydiant a llunwyr polisi i gefnogi twf parhaus economi greadigol ddeinamig a hynod arloesol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.”
Cefnogwyd hyn gan Louise Harris MBE, cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Tramshed Tech, a ddywedodd: “Mae de-ddwyrain Cymru eisoes yn gartref i grynodiad rhyfeddol o dalent greadigol, arbenigedd technegol a gallu cynhyrchu o’r radd flaenaf. Mae cwmnïau fel Whisper Cymru yn dangos beth sy’n bosibl gan Gymru, wrth iddynt gyflwyno cynyrchiadau rhyngwladol mawr, arloesi technolegau newydd a rhoi ein rhanbarth yn gadarn ar y map creadigol byd-eang. Ochr yn ochr â chlwstwr uchelgeisiol cynyddol o fusnesau creadigol, mae gennym ni’r dalent, y seilwaith a’r arbenigedd i gystadlu â’r gorau.
“Mae CREATE yn fwy na chefnogi prosiectau unigol. Mae’n ymwneud â sefydlu de-ddwyrain Cymru fel canolfan sy’n cael ei chydnabod yn fyd-eang ar gyfer arloesi technoleg greadigol, lle mae cynnwys o’r radd flaenaf, technolegau sy’n dod i’r amlwg ac uchelgais entrepreneuraidd yn dod at ei gilydd i lunio dyfodol y diwydiant.”
Bydd CSconnected Ltd, y sefydliad dielw sy’n gyrru clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd yn ne Cymru, yn cyflawni rhaglen 2030, gan weithio ochr yn ochr â PRC a’r chwe phrosiect pwrpasol sydd wedi’u lleoli yng Nghasnewydd a’r cyffiniau.
Ychwanegodd Wyn Meredith, Cadeirydd CSconnected Ltd: “Bydd y buddsoddiad hwn yn ‘CSconnected 2030’ yn adeiladu ymhellach ar sylfeini cryf clwstwr de Cymru. Bydd ymchwil a datblygu dan arweiniad diwydiant mewn meysydd hanfodol fel carbid silicon, nitrid galiwm a phecynnu uwch sglodion yn mynd law yn llaw â chefnogaeth i’r gadwyn gyflenwi ehangach, o’r cyflenwyr busnesau bach a chanolig sy’n bwydo’r clwstwr i’r cwmnïau newydd sy’n deillio ohono a byddant yn parhau i feithrin y sgiliau a’r dalent sydd eu hangen arnom. Gyda’i gilydd, bydd y gweithgarwch hwn yn cyflymu cam nesaf twf economaidd y clwstwr er budd cymunedau ledled de Cymru.”
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn un o 10 dinas a rhanbarth yn y DU sydd wedi cael cefnogaeth gan gronfa arloesi leol gwerth £500 miliwn, ochr yn ochr â Dinas-Ranbarth Glasgow, Belfast-Derry/Londonderry, Dinas-Ranbarth Lerpwl a Manceinion Fawr.
Mae’r Gronfa Partneriaethau Arloesi Lleol yn rhaglen flaenllaw gan Lywodraeth y DU, a gyflwynir drwy Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI), sy’n buddsoddi £500 miliwn i gryfhau economïau arloesi rhanbarthol ledled y wlad.
Mae’r Gronfa yn elfen ganolog o ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau twf ym mhob cod post. Mae’n dod ag arweinwyr lleol, busnesau a sefydliadau ymchwil at ei gilydd i adeiladu ar gryfderau rhanbarthol, er mwyn creu swyddi newydd, hybu cynhyrchiant sy’n cael ei yrru gan arloesi, a denu buddsoddiad pellach o’r sectorau cyhoeddus a phreifat i gymunedau ledled y DU.