Cafodd Prosbectws Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – ‘Ffyniant i’n Lle’ – ei gyhoeddi’n ddiweddar gan amlinellu chwe chynnig clwstwr craidd a phum cynnig seilwaith ‘galluogi’ allweddol ynghyd â chyfres o ‘gynigion mwy’ ar gyfer y tymor hwy megis creu canolfannau hydrogen ac ynni’r llanw.
Mae’r fframwaith a gynigir yn cynrychioli cais am £4.2bn ar ffurf Ymchwil a Datblygu, “Codi’r Gwastad” a Chyllid Her y Strategaeth Ddiwydiannol, a allai drawsnewid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Yn y Drafodaeth Ddigidol hon, mae’r cyn Brif Weinidog Carwyn Jones yn siarad â phanel o arbenigwyr am yr hyn y gallai fframwaith y Prosbectws Buddsoddi ei olygu i economi a chymunedau De-ddwyrain Cymru, yn ogystal â datblygiad Bargen Ddinesig P-RC.
Mae panel y digwyddiad hwn yn cynnwys Kellie Beirne (Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig P-RC), Frank Holmes, (Partner Cyllid Corfforaethol Gambit a Chadeirydd y Bartneriaeth Twf Economaidd a’r Panel Buddsoddi), Gill Bristow, (Athro Daearyddiaeth Economaidd Prifysgol Caerdydd) a Kevin Gardiner (Aelod o Fwrdd Partneriaeth Twf Economaidd a Strategydd Buddsoddi Byd-eang Rheoli Cyfoeth Rothschild) mewn trafodaeth graff am y gweithgareddau, yr effeithiau a’r canlyniadau arfaethedig a ragwelir yn y prosbectws.