Yr wythnos hon oedd dechrau Ramadan, mis mwyaf sanctaidd y flwyddyn i’r 1.9 biliwn o bobl sy’n dilyn y ffydd Islamaidd ledled y byd. Mae’n gyfnod o addoliad a defosiwn a drysorir gan y gymuned Fwslimaidd. Mae hefyd yn gyfle i fyfyrio ar rôl werthfawr y gymuned honno yn natblygiad De-ddwyrain Cymru fel rhanbarth deinamig, eang ei orwelion, wrth lunio dyfodol sy’n parchu pob crefydd a chred, a rhanbarth sydd wedi ymrwymo i hybu cynhwysiant.

Cymunedau hanesyddol, hirsefydlog ein Rhanbarth
Mae gan gymunedau Mwslimaidd ein Rhanbarth hanes hir ac anrhydeddus, gyda phobl wedi teithio o Fangladesh, yr Aifft, Irac, Libanus, Pacistan, Somalia, Yemen a sawl lle arall er mwyn ymsefydlu ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan ddod yn rhan annatod o wead unigryw ardal ‘De-ddwyrain Cymru’.
Mae traddodiad morwrol dwy ddinas PRC yn golygu mai yng Nghaerdydd (33,600) a Chasnewydd (11,200) y mae’r poblogaethau Mwslimaidd mwyaf yng Nghymru – ac efallai nad yw’n gyd-ddigwyddiad bod y dinasoedd hynny’n cael eu hystyried heddiw yn ddwy o’r cytrefi mwyaf deinamig ac eang eu gorwelion yng Nghymru, gydag awydd cryf i barhau i fod yn ‘berthnasol’ ac i gymryd eu lle yn y byd modern.
Mae’r foderniaeth honno’n cael ei chymell gan gefndiroedd, credoau, agweddau a safbwyntiau amrywiol, a phobl o bob ffydd a chefndir yn gwneud eu marc ar wasanaethau cyhoeddus, proffesiynau ac ym myd academaidd ein Rhanbarth – felly nid yw’n syndod bod rhai o drigolion amlycaf De Cymru heddiw yn cydnabod bod eu ffydd Fwslimaidd yn allweddol i’w llwyddiant.
Ffydd a fu’n gymorth i arwain rhai o’n trigolion amlycaf
Cafodd Jason Mohammad, sy’n siaradwr Cymraeg ac yn un o brif gyflwynwyr teledu a chwaraeon y BBC, ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd – ac mae’n falch o gydnabod rôl ei ffydd Fwslimaidd wrth iddo feithrin y ddisgyblaeth a’r agwedd tuag at waith sy’n angenrheidiol er mwyn cyrraedd y brig yn niwydiant hynod gystadleuol y cyfryngau.
Wrth dderbyn ei radd doethuriaeth er anrhydedd o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd yng Nghanolfan y Mileniwm yn haf 2022, roedd araith emosiynol Jason, a aned yn Nhrelái, yn tynnu sylw at gyfraniad amhrisiadwy y gymuned Fwslimaidd yn ei fywyd.
Ac nid Jason yw’r unig un sy’n cydnabod hynny.
Y bardd Iraci-Gymreig Hanan Issa yw’r unigolyn Mwslimaidd cyntaf i gael ei dewis yn Fardd Cenedlaethol Cymru. Cafodd ei magu yng Nghaerdydd ymhlith pobl sy’n siarad amryw o ieithoedd, gan gynnwys ei pherthnasau o Irac a oedd yn siarad Arabeg a’i mam-gu a’i thad-cu a oedd yn siarad Cymraeg.
Mae rhagflaenydd Hanan, Ifor ap Glyn, yn disgrifio Issa fel ‘llais ffres yn y sgwrs genedlaethol… llysgennad gwych i genedl eangfrydig ac amrywiol ei diwylliant” – gan danlinellu natur cynhwysiant sy’n canolbwyntio ar y dyfodol fel grym er daioni yn ein Rhanbarth.
O Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol i’r cae pêl-droed...
Mae Jason a Hanan ill dau yn dangos bod ein Rhanbarth yn gallu arwain drwy ehangu’r cyfleoedd i bobl o bob cymuned a chefndir – ac ar sawl ystyr, mae Cymru gyfan yn agor cwysi arloesol drwy lunio dyfodol cynhwysol, addas i bawb.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, y gyntaf o’i bath yn y byd, yn ymgorffori goddefgarwch a pharch at bob cred a chymuned. Ond a wyddech chi mai Cymdeithas Bêl-droed Cymru oedd y corff pêl-droed cyntaf i lofnodi’r Siarter Athletwyr Mwslimaidd, a Chymru, o ganlyniad, yn arwain y byd o ran cynhwysiant ym myd chwaraeon o safbwynt ffydd hefyd?
Mae’r addewid hwnnw’n ymrwymiad i gydnabod anghenion Mwslimaidd chwaraewyr pêl-droed, staff a gwylwyr sy’n mynychu gemau – drwy greu amgylchedd a diwylliant sy’n cefnogi pob ffydd yn y gymuned bêl-droed drwyddi draw yng Nghymru, a chryfhau ymhellach y ffaith na chaiff unrhyw fath o wahaniaethu ei oddef.
#GorauChwaraeCydChwarae yw cred y gymuned chwaraeon Gymreig ac mae yna rywbeth arbennig o addas yn y ffordd y mae cynhwysiant yn cael ei hyrwyddo gan y gymuned honno â’i hetiau bwced amryliw a ddaliodd sylw’r byd.
Ac rydyn ninnau’n rhannu’r gred honno yn llwyr yma ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, drwy ei gweithredu mewn mentrau fel Canllaw Cyflogwyr i Barchu Ramadan a luniwyd gan ein hwb Venture – Sgiliau a Thalent (y gallwch ei lawrlwytho yma); a thrwy ein gwaith cyffredinol yn hyrwyddo cynhwysiant o bob math.
Mae’r cynhwysiant hwnnw’n allweddol os ydym am ffynnu gyda’n gilydd ac adeiladu dyfodol llewyrchus i bob cymuned ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd – a dyna pam yr ydym yn dathlu Ramadan a’r holl wyliau sanctaidd mewn Rhanbarth sy’n benderfynol o sicrhau na fydd neb yn cael ei adael ar ôl.