Rhoi’r Cynllun ar Waith i Ddatgarboneiddio ein Diwydiant

Categorïau:
Sectorau

Pan sicrhaodd Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC) £1.5 miliwn o gyllid i gefnogi datblygiad cynllun datgarboneiddio cynhwysfawr yn dechrau ym mis Chwefror eleni, cydnabuwyd bod yr ail allyrrwr diwydiannol mwyaf yn y DU (mae De Cymru yn rhyddhau’r hyn sy’n cyfateb i 16 miliwn tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn, drwy gynhyrchu diwydiannol ac ynni) yn cymryd camau difrifol ar y ffordd i ddod yn rhanbarth sero-net erbyn 2050.

“De Cymru yw’r ail allyrrwr diwydiannol mwyaf yn y DU”   

Rhoddodd y wobr gan raglen Datgarboneiddio Diwydiannol UKRI y golau gwyrdd i SWIC (partneriaeth rhwng diwydiant Cymru, cyflenwyr ynni, darparwyr seilwaith, sefydliadau’r byd academaidd a’r sector cyhoeddus, gan gynnwys cwmnïau fel ABP, Celsa Steel, Costain, RWE, Siemens, Tarmac, Wales & West Utilities) fapio’r daith ymlaen i gwrdd ag un o heriau datgarboneiddio diwydiannol mwyaf blaenllaw Ewrop.  Yn para 26 mis, bydd y prosiect yn gweithio ar draws yr holl sectorau diwydiannol, gweithgynhyrchu ac ynni i ddatblygu opsiynau datgarboneiddio holistig – a chreu cynllun i helpu i sicrhau bod diwydiant yn ein rhanbarth yn cyflawni’r garreg filltir hanfodol ar gyfer canol y ganrif.

“Cynllun cadarn, cyraeddadwy i ddatgarboneiddio drwy effeithlonrwydd ynni, newid tanwydd a chanolfannau ynni lleol”

Mae’r nod yn uchelgeisiol – creu cynllun cadarn a chyraeddadwy a fydd yn datgarboneiddio diwydiant drwy effeithlonrwydd ynni, newid tanwydd a chreu canolfannau ynni lleol. Bydd hyn yn golygu archwilio llawer o lwybrau, megis cynhyrchu a dosbarthu ynni glân, yn ogystal â defnyddio a storio carbon sy’n cael ei ddal – ac wrth wneud hynny, bydd y cynllun yn paratoi’r ffordd i sicrhau diwydiant trwm a gweithgynhyrchu yng Nghymru am ddegawdau i ddod, yn ogystal â hwyluso datgarboneiddio sectorau eraill fel gwresogi domestig a thrafnidiaeth. Bydd prosiect pennu gweledigaeth uchelgeisiol o’r fath yn cwmpasu derbynioldeb cymdeithasol ac economaidd yr opsiynau sydd ar gael, gan greu map ffordd cam-wrth-gam ar gyfer datgarboneiddio pob diwydiant ar draws ein rhanbarth.

Mae’r prosiect, sy’n cael ei arwain gan CR Plus, o’r enw ‘Cynllun Twf Glân’, i bob pwrpas yn dwyn ynghyd “Dîm Sero Net Cymru”, gan greu cydweithrediad o’r meddyliau gorau ar draws diwydiant de Cymru, y byd academaidd, awdurdodau lleol, mentrau rhanbarthol a llywodraeth ganolog. Mae Dr Chris Williams, sy’n arwain SWIC ar gyfer Diwydiant Cymru, yn nodi:  “Mae’n rhaid i’n diwydiannau wybod bod map ffordd yn cael ei ddatblygu, fel y gallant gynllunio beth i’w wneud yn unigol.  Drwy beidio â datblygu cynllun de Cymru mae perygl i ni golli ein diwydiannau i feysydd eraill sydd yn gwneud hynny – felly dyma ein cyfle i greu diwydiannau newydd cyffrous, yn ogystal ag adfywio a chynnal ein sylfaen bresennol.”

“Creu diwydiannau newydd cyffrous yn ogystal ag adfywio a chynnal ein sylfaen bresennol”

Mae SWIC hefyd wedi cael cyllid ‘Cam Dau’ o bron i £20m gan UKRI ar gyfer ei brosiect Lleoli Her Datgarboneiddio Diwydiannol, ac mae’r prosiect hefyd yn cynnwys £17.6m o gyfraniadau gan bartneriaid diwydiant y prosiect. Mae’r cyllid yn dilyn cwblhau asesiadau cam un llwyddiannus yn edrych ar gynlluniau datgarboneiddio a’r seilwaith sydd ei angen ar gyfer economi hydrogen yn ne Cymru; mae Cam Dau y prosiect yn archwilio’r llwybrau at ddatgarboneiddio, gan gynnwys defnyddio a chynhyrchu cyflenwad hydrogen, defnyddio a storio carbon sydd wedi’i ddal (CCS) a morgludo CO2 o dde Cymru – yr hyn fyddai’r diwydiant morgludo CO2 cyntaf yn y DU gyfan, gan greu diwydiant newydd sbon ar gyfer y rhanbarth. Mae hyn yn cyd-fynd yn sylweddol â chynllun deg pwynt Llywodraeth y DU ar gyfer chwyldro diwydiannol gwyrdd – gan fynd y tu hwnt i ymrwymiad ‘yn unig’ i leihau allyriadau carbon a gwella gallu’r DU i weithgynhyrchu cynnyrch sment a dur carbon sero-net neu garbon-isel yn lleol, gan helpu i sbarduno dyfodol carbon-isel i adeiladu yn y DU a sectorau eraill.

“Angerdd a brwdfrydedd enfawr i Gymru arwain y ffordd”

Mae David Jukes, Cyfarwyddwr Datblygu Rhaglenni Costain ac arweinydd Prosiect Lleoli SWIC yn pwysleisio:

“Mae angerdd a brwdfrydedd enfawr i Gymru arwain y byd mewn newid diwydiannol unwaith eto.  Mae’n dal i fod yn rhan o’n meddylfryd yn y rhan hon o Gymru – ac mae hynny wedi helpu i greu dull cydgysylltiedig a holistig rhwng pob un o’r 17 partner yn y prosiect Lleoli SWIC, yn ogystal â’r cydweithwyr rydym yn gweithio gyda nhw mewn awdurdodau lleol, llywodraeth ranbarthol a llywodraeth Cymru. Mae pawb yn cyd-dynnu i’r un cyfeiriad; ac mae hynny’n wir am ein cymheiriaid ym Mwrdd Uchelgais Gogledd Cymru, Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Bargen Twf Canolbarth Cymru, yr ydym yn sgwrsio â nhw’n barhaus.

“Bydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn chwarae rhan mor bwysig yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud,” pwysleisia David, “nid dim ond oherwydd y crynhoad o ddiwydiant ar draws de-ddwyrain Cymru. Mae P-RC i bob pwrpas yn borth i ganolbarth Lloegr, i Wlad yr Haf a Chaerloyw – ac mor bell i’r gorllewin â Reading.  Dychmygwch fyd wedi’i ddatgarboneiddio lle mae’r holl ardaloedd hynny’n cael eu sbarduno gan ein rhanbarth. Mae hynny’n gyraeddadwy – ac mae’n rhoi syniad o’r cryfder economaidd y gall datgarboneiddio ei gynnig.  Ond – ac mae’n ‘ond’ mawr – mae’n rhaid i ni ddechrau gwireddu’r senario hwnnw nawr.

“Gallwn naill ai reidio’r don ddatgarboneiddio a mwynhau buddsoddiad o £2bn-£4bn bob blwyddyn am 29 mlynedd – neu ei cholli”

“Mae ton fyd-eang ar fin torri ac mae gan Gymru gyfle i reidio’r don honno. Os collwn ni hi, byddwn yn colli’r cyfle i fwynhau’r manteision o rhwng £2bn a £4bn o fuddsoddiad ychwanegol yn ne Cymru bob blwyddyn, am y 29 mlynedd nesaf.  Dyma’n cyfle ni i greu sgiliau cynaliadwy a swyddi uchelgeisiol â chyflogau uchel a all fod yn gatalydd i drawsnewid Cymru, yn gymdeithasol ac yn economaidd.  Mae gennym eisoes bobl o’r radd flaenaf sy’n gweithio fel arbenigwyr datgarboneiddio a hydrogen yn ein prifysgolion – a chyfleusterau o’r radd flaenaf fel Canolfan Ymchwil Tyrbinau Nwy Prifysgol Caerdydd ym Mhort Talbot a Chanolfan Ymchwil Hydrogen Prifysgol De Cymru dan arweiniad John Maddy.  Gallwn naill ai gymryd rheolaeth o’n datgarboneiddio neu bydd yn cael ei wneud i ni, gyda rhywun arall yn mwynhau’r manteision cysylltiedig.  Mae’n ras i sero, mewn cymaint o ffyrdd.”

“Mae angen i ni ddod â phobl gyda ni – er mwyn iddyn nhw ein dwyn i gyfrif”

“Hefyd, mae angen i ni ddod â phob dinesydd gyda ni,” pwysleisia David. “Bydd llawer yn digwydd yn ystod y blynyddoedd nesaf – fel ein gwaith gyda Gorsaf Bŵer Aber-wysg, a fydd yn cynhyrchu pŵer drwy losgi pelenni tanwydd sy’n deillio o wastraff a’n hastudiaethau dichonoldeb ar gyfer adeiladu Canolfan Twf Glân hydrogen yn un o’n porthladdoedd lleol – ond ni fydd llawer o newid gweladwy am gryn amser. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae angen i ni sicrhau ein bod yn ymgysylltu â phob cymuned fel ei bod yn gwybod beth sy’n digwydd o’i chwmpas – a’i rhan ynddo.  Dyna un o’r rhesymau pam ein bod wedi meithrin perthynas mor gadarnhaol â Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yma yng Nghymru.  Mae hyn i gyd yn ymwneud ag adeiladu dyfodol newydd – a bydd Grŵp Arweinwyr y Dyfodol SWIC (wedi’i fodelu ar raglen ‘Arweinwyr sy’n Dod i’r Amlwg’ Sophie) yn dod â’r genhedlaeth newydd honno o arweinwyr drwodd – byddant yn byw gydag effaith y camau a gymerwn heddiw ac mae’n rhaid iddyn nhw allu ein dwyn i gyfrif.

“Dim ond drwy weithio gyda’n gilydd y gallwn ni ddal y don honno”

“Mae partneriaid SWIC wedi enwebu carfan gyntaf Grŵp Arweinwyr y Dyfodol SWIC – a bydd ganddynt waith go iawn i’w wneud, gan ymchwilio a chynghori sut y gallwn fanteisio i’r eithaf ar COP26, Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, a gynhelir yn Glasgow ym mis Tachwedd. Y nod cyffredinol yw creu ‘Cynghorwyr Gwybodus’,” esbonia David, “pobl sy’n deall sut mae eu cwmnïau eu hunain yn gweithio, sut mae’r dirwedd wleidyddol yn effeithio ar y gwaith hwnnw; ac yn y pen draw beth sydd angen ei gyfleu i bob cymuned, i’w hysbrydoli i gymryd rhan ac i barhau i ymgysylltu.  Mae hynny’n hollbwysig, gan fod hyn ar gyfer pawb – a dim ond drwy weithio gyda’n gilydd y gallwn ddal y don honno ac adeiladu dyfodol gwell.”

 

Rhannu:

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin

Newyddion Cysylltiedig

Gyda chwyldro digidol yn newid wyneb mentergarwch ym mhob sector masnachol, mae'n hawdd anghofio bod ein sector cyhoeddus wedi bod yn ail-lunio'r gwasanaethau rheng flaen y dibynna poblogaeth gyfan arnynt - a thrwy hynny arwain lefel o arloesi digidol na ellid fod wedi ei ddychmygu ond ychydig yn ôl.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi’r profiad gorau ichi fel defnyddiwr. Os dewiswch barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.