Pan roddwyd y dasg i sylfaenwyr Coincover ymchwilio i ddyfodol arian yn y Bathdy Brenhinol, cawsant eu trochi’n llwyr ym myd cryptoarian. Gwelodd yr arbenigwr cadwyn atal a seiberddiogelwch y potensial enfawr – ond problem enfawr hefyd: Nid oedd ‘Crypto’ yn ddiogel. Mae’n fyd a dargedir gan hacwyr, lle y gall colli ffôn symudol neu liniadur arwain at arian yn diflannu. Felly yn 2018 crëwyd Coincover, yng Nghaerdydd, i sefydlu safon y diwydiant mewn diogelwch.
Heddiw, Coincover yw Y safon diogelwch byd-eang ar gyfer cryptoarian, felly buom yn siarad â Nadine Beaton, sy’n arwain y swyddogaeth Pobl, am y daith syfrdanol a wnaed hyd yma gan y tîm yn Coincover – a’r weledigaeth uchelgeisiol sy’n gyrru’r hanes llwyddiant technoleg ariannol anhygoel hwn a grëwyd yma ym mhrifddinas Cymru …..
“Rydym yn sicrhau bod cryptoarian yn gynhwysol ac yn hygyrch”
“Gwelodd Coincoverr y cyfle i ddod â chryptoarian i’r bobl, i’w wneud yn hygyrch ac yn gynhwysol – ac ers ei lansio dair blynedd yn ôl rydym wedi mireinio ein hymagwedd i weithio mewn partneriaeth â darparwyr atebion cryptoarian mwyaf blaenllaw’r byd, sy’n golygu y gallwn ddarparu diogelwch a sicrwydd o ran cryptoarian i fuddsoddwyr unigol, rheolwyr cronfeydd, masnachwyr proffesiynol ac i gwsmeriaid corfforaethol. Yn nhermau niferoedd, rydym yn diogelu dros biliwn o ddoleri o arian, ond dim ond rhan o stori fawr iawn yw hynny. Er enghraifft, mae PayPal wedi ymrwymo i dderbyn taliadau cryptoarian yn y misoedd i ddod a fydd yn arwain at ddod ag ef i farchnad dorfol. Rydym eisoes yn cael ein boddi gan gwsmeriaid newydd o ledled y byd, bob dydd – ac mae’n debyg y byddwn wedi treblu main ein tîm erbyn diwedd eleni er mwyn ymdopi â’r galw.”
“Rydym yn diogelu dros biliwn o ddoleri o arian, ond dim ond rhan fach o stori fawr iawn yw hi mewn gwirionedd”
“Ni yw’r brand gorau o ran diogelwch cryptoarian drwy roi tawelwch meddwl i gwsmeriaid – boed trwy warant diogelu blaendaliadau, storio ac adfer allweddol cryptoarian. Rydym hyd yn oed wedi esblygu i ddarparu diogelwch yn erbyn lladrata, felly mae ein taith newydd ddechrau mewn gwirionedd. Rydym yn cael ein rheoleiddio gan Awdurdod Ymddygiad Ariannol y DU, a’n cefnogi gan gyfalaf menter a Banc Datblygu Cymru, felly mae’n ddiogel dweud ein bod eisoes yn rhan sefydledig o gymuned technoleg ariannol y DU a’r byd. Ac rydym digwydd bod yn wirioneddol unigryw – nid oes neb yn gwneud yr hyn rydym ni’n ei wneud.”
“Rydym yn wirioneddol unigryw. Nid oes neb arall yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud yn unman yn y byd.”
Fel un a raddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru – gyda chefndir eang yn D&D, Ymgysylltu â Chyflogeion a CSY – beth ddaeth â Nadine i Coincover? “Yn bendant mae’n ymddangos yn llwybr anghonfensiynol, ond mae actio yn ymwneud â phobl ac mae hynny bob amser yn sail i’m holl rolau corfforaethol. Roeddwn wedi gweithio yn y gorffennol yn Bank of Scotland a GoCompare, yn ogystal ag yn fwyaf diweddar ym Mhrifysgol De Cymru, felly cefais bersbectif hefyd ar sut mae’r gymuned technoleg ariannol yma yn ne-ddwyrain Cymru wedi esblygu, gyda digon o gydweithio rhwng y llywodraeth, y byd academaidd a’r diwydiant ei hun. Ond roeddwn wir yn gweld eisiau’r teimlad hwnnw o wneud gwahaniaeth pendant. Roeddwn yn ysu am ysbryd dechrau busnes newydd a’i gynyddu, yr effaith rydych yn ei chael ar fusnes bob dydd. Ac yn sicr rwyf wedi teimlo’r ddau ddimensiwn hynny yma. Rwy’n dwlu arno.
“Adeiladu tîm cytbwys a chynrychioladol, o’r gwaelod i fyny.”
“Rydym yn dîm sy’n tyfu’n gyflym ac erbyn diwedd 2021 byddwn wedi cynyddu gan bedair gwaith, ac rydym wedi cynllunio i fuddsoddi yn ein timau Llwyddiant Cwsmeriaid, Gwerthiant, Marchnata a Thechnegol – a’r Tîm Pobl ei hun, wrth i ni ffurfio ein diwylliant o gwmpas sgiliau a meddylfryd y bobl mae eu heisiau a’u hangen arnom. Mae’n galonogol bod ein tîm arwain 60% yn fenywod ac rydym yn ymwybodol y byddwn yn adeiladu tîm cytbwys a chynrychiadol. Mae mor braf i allu adeiladu hyn i gyd o’r gwaelod i fyny, i roi’r sylfeini a’r arferion cywir ar waith, ac i edrych ymlaen at weld pawb yn rhannu yn llwyddiant y cwmni, drwy weithio’n hyblyg, opsiynau cyfranddaliadau, ac wrth gwrs, y boddhad o wybod eich bod yn gweithio i gwmni unigryw sy’n arwain y byd o Gaerdydd. Yn wir ein her fwyaf ar hyn o bryd yw sicrhau swyddfa yng Nghaerdydd sy’n cyd-fyd a’n sefyllfa fel brand byd-eang – rhywle hynod i rywbeth sy’n rhyfeddol.”
“Mae’n dangos y gall ein cwmnïau technoleg ariannol arwain y byd o Gymru”
“Cawson ddigonedd o gefnogaeth ar ein taith hyd yn hyn – yn enwedig gan fuddsoddiad a chefnogaeth barhaus Banc Datblygu Cymru. Mae’n wych teimlo’n rhan o rywbeth sydd wedi ei wreiddio yma yn y rhanbarth – egni cadarnhaol arall i fusnes sy’n llwyddo trwy gymryd y straen a’r poeni allan o gadw, defnyddio a chael cryptoarian.”
I Sarah Williams-Gardener, Cadeirydd Fintech Cymru, mae cynnydd anhygoel Coincover i fod yn arwain y byd o fewn tair blynedd yn unig yn wirioneddol ysbrydoledig. “Mae’n dangos y gallwn ei wneud. Mae’n dangos y gallwch fod yn gwmni technoleg ariannol sy’n arwain y byd yma yn ein rhanbarth. Ac mae’n flas o’r hyn sydd i ddod gan dechnoleg ariannol yng Nghymru.