Sector y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd i elwa ar gyllid o £50m

Categorïau:
Datganiad i'r Wasg – Arall

Mae Bargen Ddinesig Prifddinas- Ranbarth Caerdydd   yn falch iawn o fod yn aelod o gonsortiwm media.cymru sydd wedi ennill cais gwerth £50m i ddatblygu clwstwr fydd yn arwain y byd ar gyfer arloesedd ym maes y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, mae media.cymru yn dod â 24 o sefydliadau o bob rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ynghyd ac yn cynnwys partneriaid sy’n gweithio ym meysydd addysg, darlledu, technoleg, cynhyrchu ym myd y cyfryngau ac arweinyddiaeth leol i yrru twf economaidd cynhwysol a chynaliadwy yn ogystal â £236m yn ychwanegol mewn Gwerth Ychwanegol Gros erbyn 2026.

Daw’r cyllid o gronfa flaenllaw Cryfder mewn Lleoedd y Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) a cheir £3m o arian cyfatebol gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ogystal â £2m gan Lywodraeth Cymru trwy Gymru Greadigol.

Ers 2006, mae cyfradd twf sector y cyfryngau yn y rhanbarth wedi bod ymhlith yr uchaf yn y DU. Mae wedi denu un o bob wyth o’r holl swyddi newydd ym maes ffilm/teledu yn y DU ac mae Sex Education, His Dark Materials, Doctor Who a Dream Horse ymhlith y llwyddiannau byd-eang sydd wedi’u cynhyrchu yma.

Gan ymateb i’r datblygiadau ym maes cynhyrchu o bell a rhithwir yn ystod pandemig COVID-19, bydd media.cymru yn buddsoddi yn seilwaith digidol y rhanbarth, gan ganolbwyntio ar dechnolegau sy’n dod i’r amlwg, cynyddu gallu busnesau bach i arloesi a mynd i’r afael ag anghenion sgiliau.

Dywedodd Kellie Beirne, Cyfarwyddwr, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

“Mae llwyddiant bid SIPF media.cymru, sy’n sicrhau cyllid o £22M fel rhan o becyn buddsoddi ehangach gwerth £50M, yn gydnabyddiaeth aruthrol o’r diwydiant cyfryngau o’r radd flaenaf sydd eisoes wedi’i greu yma yn Ne Ddwyrain Cymru. Mae’n arwydd hefyd o’r potensial enfawr sydd gennym i greu hybiau o’r radd flaenaf sy’n gyrchfannau byd-eang ar gyfer arloesi. Dylid canmol media.cymru am ddod â 24 o bartneriaid o bob rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd at ei gilydd i sbarduno twf economaidd cynhwysol a chynaliadwy. Mae’r buddsoddiad diweddaraf hwn yn dangos gwerth y weledigaeth wreiddiol i greu 2,000 o swyddi o ansawdd uchel a £236 miliwn ychwanegol mewn GYC erbyn 2026.

“Bydd y cyllid allweddol hwn yn galluogi media.cymru i fuddsoddi yn seilwaith digidol a thechnolegau newydd y Rhanbarth, yn ogystal â chreu cyfoeth lleol yn yr economi sylfaenol drwy sector sy’n cyflogi nifer fawr o unig fasnachwyr a gweithwyr llawrydd o bob cefndir economaidd-gymdeithasol ledled y rhanbarth. Yn ogystal â ffocws clir ar dechnoleg, mae cyfleoedd ehangach hefyd ar gyfer safleoedd ac adeiladau yn yr ymgais i gael cyfleusterau stiwdios cynhyrchu – yr ydyn ni’n dechrau gweld rhai ohonynt eisoes yn cael eu datblygu, gyda Dearheart, Dragon Studios, Tiger Bay Studios a llawer o ganolfannau rhagoriaeth cynhyrchu eraill. ”

Bydd cyfres o heriau a arweinir gan ddiwydiant i ymchwilio iddynt, gan gynnwys cynaliadwyedd, cynhyrchu’n ddwyieithog, amrywiaeth a chynhwysiant, twristiaeth a thechnoleg yn gosod sector cyfryngau’r rhanbarth fel mainc arbrofi ar gyfer cynnwys, dulliau a fformatau newydd.

Dywedodd yr Athro Justin Lewis o media.cymru a Chyfarwyddwr Clwstwr yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd: “Ar ôl effaith ddinistriol COVID-19, nid yw’r angen am arloesedd digidol yn y sector creadigol erioed wedi bod mor hanfodol. Felly, rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael yr arian hwn gan y llywodraeth drwy gronfa flaenllaw Cryfder mewn Lleoedd Ymchwil ac Arloesedd y DU.

“Mae’n adeiladu ar lwyddiant cynyddol sector y cyfryngau yng Nghymru. Mae hefyd yn rhoi cyfle inni adeiladu ar nodau rhaglen Clwstwr, sydd eisoes wedi helpu llawer o fusnesau a gweithwyr llawrydd yn yr ardal i dyfu a datblygu.

“Nod rhaglen media.cymru yw gwneud Prifddinas-Ranbarth Prifddinas Caerdydd yn ganolbwynt byd-eang o ran arloesedd a chynhyrchu yn y cyfryngau. Bydd yn rhoi cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig a busnesau newydd sy’n gweithio yn y maes cyffrous hwn gydweithio ac arloesi, gan adeiladu ar ran annatod o’r economi. Ein nod yw datblygu sector cyfryngau o’r radd flaenaf sy’n ysbrydoli.”

Dyma aelodau o Gonsortiwm media.cymru: Alacrity Foundation, BBC, Boom Cymru, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Cyngor Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Cardiff Productions, Prifysgol Caerdydd, Channel 4, Dragon DI, Ffilm Cymru Wales, Gorilla TV, Great Point Media, Nimble Dragon, Object Matrix, Rescape Innovation, Rondo Media, S4C, Shwsh, Town Square Spaces, Prifysgol De Cymru, Unquiet Media, Wales Interactive a Llywodraeth Cymru.

 

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Ymwelodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus David TC Davies, AS, ddoe â phencadlys Jellagen yn Ne Cymru - sef y cwmni biodechneg a sefydlwyd yng Nghaerdydd sy’n arwain y byd mewn meddyginiaethau atgynhyrchiol chwyldroadol, drwy’i ddull radicalaidd o weithredu tuag at harneisio buddion bioddeunyddiau colagen datblygedig a ddeilliwyd yn gynaliadwy o sglefrod môr.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.