Sut mae cynhwysiant yn ysbrydoli arloesi o’r radd flaenaf ar faterion seiber

Categorïau:

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod oedd yn dominyddu’r penawdau ddechrau mis Mawrth, a hynny’n gwbl ddealladwy. Ond mae cynhwysiant yn fwy na chydraddoldeb rhwng y rhywiau – ac yn rhywbeth sy’n ysbrydoli arloesedd bob dydd yn yr Hyb Arloesedd Seiber – fel y gwelsom pan gawsom sgwrs â Dr Yulia Cherdantseva, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Addysg Seiberddiogelwch ym Mhrifysgol Caerdydd, ac Arweinydd y Brifysgol o ran sgiliau yn yr Hyb Arloesedd Seiber…

“Roedd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn achlysur i ni i gyd oedi am eiliad a gwerthfawrogi rôl menywod yn ein cymdeithas,” meddai Yulia. “Mae’n ddiwrnod i ddathlu’r holl lwyddiannau anhygoel a wnaed yn y frwydr yn erbyn gwahaniaethu, anghydraddoldeb a stereoteipiau. Ond mae hefyd yn ddiwrnod i adlewyrchu nad yw menywod yn sefyll ar eu pennau eu hunain – a dim ond rhan o greu cymdeithas wirioneddol gynhwysol a chyfartal yw tegwch i fenywod.”

“Gall modelau rôl fod o unrhyw rywedd”

“Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gwrdd â llawer o bobl wych sydd wedi dylanwadu ar fy mywyd proffesiynol – ac nid yw’n syndod, o ystyried fy maes, bod y rhan fwyaf ohonynt yn ddynion. Rwy’n ystyried fy uwch-gydweithwyr gwrywaidd yn fodelau rôl; maent yn llwyddiannus, yn gefnogol, yn hawdd mynd atynt ac yn gyfeillgar. Mae angen inni wthio’n ôl ychydig yn erbyn y stereoteip bod angen model rôl fenywaidd ar fenyw. Dynion yw’r rhan fwyaf o fy modelau rôl i, ac i mi mae’n arwydd o gydraddoldeb nad yw rhywedd y model rôl yn gwneud unrhyw wahaniaeth.

“Wrth gwrs, mae yna lawer o academyddion benywaidd mewn rolau uwch yr wyf yn eu hedmygu – ac maen nhw’n sicr yn fy ysbrydoli i ac yn ysbrydoliaeth i fy ngyrfa. Mae’r sector seiberddiogelwch yn cefnogi amrywiaeth a chynhwysiant yn llawn, ac yn enwedig felly i fenywod yn y sector. Rwy’n aelod o bwyllgor llywio grŵp “Women in Cyber” CIISec a gweithgor CREST ar Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae’r grwpiau hyn yn gweithio’n rhagweithiol i hyrwyddo modelau rôl benywaidd ym maes seiberddiogelwch, gan ymgysylltu â gwahanol grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mentora arbenigwyr benywaidd ifanc, a mynd i’r afael â llawer o faterion llosg ym maes seiberddiogelwch trwy gynnal gweminarau ar-lein a chyflwyniadau mewn cynadleddau.

“Mae’r pwyslais hwnnw ar ymgysylltu â merched yn rhan o ffocws ehangach ar fod yn gynhwysol ar gyfer sector seiber sydd angen cyrraedd pobl o bob rhyw, cefndir, angerdd a diddordeb. Gwyddom nad oes dim yn rhy fach mewn perthynas â chynhwysiant ac amrywiaeth. Gall hyd yn oed ymadrodd sy’n ymddangos yn ddibwys mewn hysbyseb swydd, neu frawddeg mewn araith gan fodel rôl, gwryw neu fenyw, gael effaith sylweddol, boed hynny’n gadarnhaol neu’n negyddol. Felly ein cyfrifoldeb ni yw ymgysylltu ag unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan faterion seiber – ac mae hynny’n golygu bron pawb.”

“Gallwch weld cynhwysiant ar waith yn ein Rhaglen Her Seiberddiogelwch”

“Dyna pam rwy’n falch iawn o’n gweld yn ehangu’r sgwrs ar faterion seiber drwy fentrau fel y Rhaglen Her a lansiwyd yn ddiweddar gan yr Hyb Arloesedd Seiber yma yng Nghaerdydd.

“Mae’r Rhaglen Her yn agored i arloeswyr o sawl maes gwahanol – unrhyw unigolyn neu dîm bach sydd â syniad am ddatrysiad arloesol i faterion seiber. Gall ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen fod yn godydd, yn arweinydd masnachol neu’n ‘arweinydd’, oherwydd bydd y rhaglen yn ychwanegu at unrhyw fylchau yn eu harbenigedd ac yn sicrhau bod ganddynt yr holl sgiliau i ysgogi datrysiad.

“Mae’n her sydd wedi’i chynllunio i ddiwallu anghenion amrywiol – ceisio adnabod, datblygu a phrofi datrysiadau arloesol yn y pedwar prif faes – amgryptio IoT Diwydiannol, Ymateb i ddigwyddiadau ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh) a Dinasyddion, Technoleg Weithredol, ac Amddiffyn BBaCh a Dinasyddion.

“Felly mae’n fenter wirioneddol gynhwysol, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu ymhellach wrth ddod â mentrau megis sefydliad Alacrity a Tramshed Tech ynghyd i helpu i gyflwyno datrysiad sy’n gweithio i bawb – a bydd hi’n hynod ddiddorol gweld pa ymatebion y byddwn wedi’u derbyn i gwrdd â’r heriau, pan fydd y dyddiad ar gyfer derbyn ceisiadau yn cau ar yr 28ain o Fawrth.

“Mae dod â gwahanol syniadau a safbwyntiau ynghyd – gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl o gefndiroedd gwahanol – yn un o’r prif resymau pam fy mod i’n mwynhau gweithio yn y sector seiber. Mae angen ehangu gorwelion eich gwybodaeth yn barhaus, gan gydio yn y pŵer hwnnw a ddaw o gynhwysiant er mwyn arloesi mewn diwydiant sy’n rhan o wead y byd sydd ohoni.”

Gellir cael rhagor o wybodaeth am Raglen Her yr Hyb Arloesedd Seiber – gan gynnwys cofrestru ar gyfer digwyddiad briffio ar-lein sy’n cael ei gynnal ddydd Iau 23 Mawrth am 14.00-15.00 amser y DU – drwy gysylltu â cyberinnovationhub@cardiff.ac.uk

Mae’r Hyb Arloesedd Seiber yn cael ei ariannu gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Ar draws y DU mae rhesymeg fuddsoddi newydd yn dod i'r amlwg. Un sy'n cydnabod nad yw ynni, gweithgynhyrchu, seilwaith digidol a sgiliau’n bethau ychwanegol dewisol ond yn sylfeini cystadleurwydd cenedlaethol.

Subscribe for updates

Skip to content