Sut mae sector Addysg Bellach Cymru yn gwneud ei ran yn yr argyfwng

Categorïau:
Arwain Agweddau

 

“Nid naïf yw bod yn gadarnhaol mewn sefyllfa negyddol…..arweinyddiaeth ydyw”. 

- Ralph Marston

Mae’r haint COVID-19 wedi rhoi llawer o heriau inni oll ond mae sector Addysg Bellach Cymru wedi dangos ei allu i ymateb ac i addasu’n gyflym a chyda hyblygrwydd yn ystod yr argyfwng cyfredol.  Mae’r pandemig yn sefyllfa erchyll ac mae wedi costio bywydau gwerthfawr ond fel sydd bob amser yn digwydd mewn amgylchiadau ofnadwy, mae bodau dynol yn dangos eu gwytnwch a’u creadigrwydd.

Yn aml, mae yna gamddealltwriaeth ynglŷn â’r hyn rydym yn ei wneud fel colegau Addysg Bellach.  Mae’r cyhoedd yn gwybod beth rydym yn ei olygu drwy “ysgol” neu “brifysgol”, ond mae yna lai o ddealltwriaeth am Addysg Bellach ac efallai mai’r rheswm am hynny yw oherwydd ein bod yn darparu’r fath ystod eang o gyfleoedd addysgol i ystod eang o ddysgwyr, yn amrywio o blant 14-16 mlwydd oed sy’n dilyn rhaglen brentisiaeth iau i fyfyrwyr sy’n astudio ar lefel ôl-raddedig.  Ystadegyn sy’n syndod yw bod mwy na hanner dysgwyr ôl-16 oed Cymru yn cael eu haddysgu yn ein 13 o golegau Addysg Bellach.

Mae’r sector wedi siarad llawer yn y blynyddoedd diwethaf am droi tuag at ddysgu mwy cyfunol, gyda mwy o gyflenwi digidol, ac rydym wedi symud fesul cam i’r cyfeiriad hwnnw.  Ond o fewn ychydig ddyddiau fis Mawrth hwn, roeddem wedi gweddnewid ein hunain.  Mae pob coleg wedi symud i ryw fath o addysgu ar-lein mewn cyfnod mor fyr o amser.  Nid wyf yn credu y gallem fod wedi cyflawni hyn ar yr un cyflymdra a chyda’r un ymdeimlad o frys cyn yr haint COVID-19.  Mae hi wedi bod yn wirioneddol hynod gweld yr arloesedd a’r cadernid yn staff y sector Addysg Bellach wrth iddynt fynd i’r afael â ffordd newydd o weithio.

Yn union fel mewn sectorau eraill, mae’r pandemig wedi gwneud inni oll feddwl am sut rydym yn gweithredu a sut y gallwn wneud pethau’n wahanol.  Er enghraifft, yn ddiweddar fe gawsom ein rhith-ddiwrnod agored cyntaf yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr.  Gweithiodd y dechnoleg yn wirioneddol dda gyda lefelau gwych o gysylltiad gan y cyhoedd, darpar fyfyrwyr a llawer o adborth cadarnhaol.  Pan ddychwelwn i’r “normal newydd,” a wnawn ddychwelyd i’r hen ffyrdd o weithio â’r arddull draddodiadol o ddiwrnod agored?  Neu ddull mwy cyfunol o weithredu gan ddefnyddio’r gorau o’r traddodiadol a’r newydd?  Rydym oll yn gofyn y mathau hyn o gwestiynau ledled ein holl weithrediadau.

Yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr, fel llawer o sefydliadau, rydym wedi bod yn gwneud llawer o waith yn ymwneud â chynaliadwyedd.  Rydym wedi’n hymrwymo i wneud gostyngiadau sylweddol i’n hôl troed carbon.  Rydym yn awr yn cwestiynu’r cyfarfodydd wyneb yn wyneb “hanfodol” hynny.  A oes arnom oll angen teithio’r pellteroedd hynny i leoliad canolog?  Ledled y byd, rydym yn gweld y gostyngiad mewn allyriadau carbon.  Rwyf fel arfer yn treulio o leiaf ddeg awr yr wythnos yn teithio i’r gwaith ac oddi yno yn y car.  Nid yn unig rwyf yn fwy cynhyrchiol ond rwyf hefyd yn gwneud fy rhan i leihau allyriadau carbon.  Lluoswch hynny â 700 o staff yn y Coleg, ac mae hynny’n gyfraniad sylweddol.

Felly, mae yna yn sicr wersi i’w dysgu o’r profiad hwn, ac fe fyddem yn wirion yn peidio â manteisio arnynt ar gyfer y dyfodol.  Mae yna rai pethau sy’n gweithio’n dda iawn yn ddigidol ac mae yna rai pethau nad ydynt yn gweithio cystal; ac mae arnom angen datblygu’r wers honno yn ein hymagwedd tuag at ddysgu cyfunol.  Mae rhai dysgwyr yn fwy cyfforddus yn ddigidol nag wyneb yn wyneb oherwydd dyna’u holl arddull dysgu, ac mae eraill yn llai cyfforddus; rydym wedi gweld dysgwyr anodd eu cyrraedd sy’n cysylltu’n llawer mwy drwy lwyfannau digidol.

Ar hyn o bryd, mae un o’r heriau mwyaf yn ymwneud ag asesu cymwysterau.  Mae yna lawer o siarad wedi bod yn y cyfryngau am sut y bydd myfyrwyr TGAU a Safon Uwch yn derbyn graddau a amcangyfrifwyd oherwydd nad ydynt yn gallu sefyll eu harholiadau yr haf hwn.  Rhywbeth a gaiff lai o sylw, ond sydd yr un mor bwysig, yw’r hyn sy’n digwydd i’r dysgwyr hynny sy’n dilyn cymwysterau galwedigaethol neu sy’n dilyn rhaglenni prentisiaeth.  Er enghraifft, fe fydd ar yr economi angen plymwyr, wrth inni grafangio o’r dirwasgiad, ond a fyddai arnoch eisiau plymwr i roi gwasanaeth i’ch boeler pe na bai neb wedi sicrhau ei fod ef neu hi’n alwedigaethol gymwys i wneud y gwaith?  Ni allwch “gyfrifo” safon ar gyfer hynny!  Felly, rydym yn ymlafnio â’r mater hwn a sut y gallem ganiatáu i grwpiau bychain o ddysgwyr ddychwelyd i gwblhau asesiadau ymarferol gan sicrhau iechyd a diogelwch staff a dysgwyr, fel ei gilydd.

Bydd hyn, yn ei dro, yn effeithio ar ddysgwyr sy’n cyrraedd y flwyddyn academaidd nesaf, gan y bydd hi’n cymryd mwy o amser i gwblhau’r asesiadau hyn ar gyfer dysgwyr cyfredol wrth inni gadw at gyngor meddygol â grwpiau llai o faint.  Bydd hyn yn rhoi straen enfawr ar adnoddau a chyllidebau.  Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eithriadol o gefnogol i’r sector, ond fel y gwyddom i gyd, fe fydd yna heriau ariannol anferth yn y dyfodol.

Ar yr adeg yr ysgrifennir hyn, mae yna fwy o gwestiynau nag o atebion.  Ond fe fydd y sector Addysg Bellach “gallu gwneud” yn ateb yr her.  Mae angen arweinyddiaeth gadarnhaol a chreadigol ar bob lefel o’n sefydliadau, ac fe allwch fod yn dawel eich meddwl y bydd ein  staff yn wynebu’r heriau hyn â’r ymroddiad, ymrwymiad a hyblygrwydd y gwnaethant eu dangos ar ddechrau’r argyfwng.

Fel y dywedodd Charles Swindoll:

“Fe’n hwynebir ni oll gan gyfres o gyfleoedd gwych, sydd wedi’u cuddio’n gelfydd dan gochl sefyllfaoedd amhosibl.”

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.