Sut y creodd Gwyddor Data Dynol oes newydd mewn gwybodaeth iechyd cyhoeddus

Categorïau:
Buddsoddiadau
Sectorau

Pan ddadlennodd Gwyddor Data Dynol (HDS) eu gwefan chwyldroadol www.PrevalenceUK.com yn ddiwedd mis Gorffennaf, gwnaeth fwy na rhoi manylion am amledd pob afiechyd yn y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf erioed.

Mae’r adnodd ar-lein hwn sy’n torri tir newydd yn golygu cam aruthrol fawr ar gyfer dadansoddi gwybodaeth am iechyd byd-eang – gan yn uniongyrchol rymuso gwyddonwyr ymchwil a chwmnïau fferyllol i ddeall baich afiechyd ac anghenion iechyd y boblogaeth yn well ac yn gyflymach nag erioed o’r blaen.

Sut y gwnaeth y fenter ryfeddol hon a leolir yng Nghaerdydd y fath arloesedd syfrdanol – sy’n gallu cyflawni mewn munudau y math o ddata oedd gynt yn cymryd blynyddoedd?

Siaradasom ag aelodau o dîm Gwyddor Data Dynol i ganfod mwy o wybodaeth….

Cam aruthrol fawr dros ddadansoddi gwybodaeth am iechyd byd-eang

“Mae ein gwefan www.PrevalenceUK.com yn drobwynt i ddadansoddi iechyd byd-eang, eglura Rhiannon Thomason, Prif Swyddog Gweithredol Gwyddor Data Dynol, “ac yn garreg filltir fawr yn y daith tuag at well gwybodaeth am iechyd cyhoeddus.

“Cyhoeddodd y llwyfan newydd hwn gyffredinolrwydd yr holl afiechydon yn y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf erioed – gan rymuso gweithwyr meddygol proffesiynol, ymchwilwyr a’r cyhoedd â’r gallu i gael at a deall amledd a digwyddiadau pob afiechyd ymysg poblogaeth y Deyrnas Unedig.

“Derbyniasom ymateb anhygoel o gadarnhaol gan arbenigwyr ledled y diwydiant data iechyd – sy’n cadarnhau drachefn natur chwyldroadol ein peiriant dadansoddol, Livingstone, a bwerodd y torri tir newydd arloesol hwn, gan ddod â’r gallu i ddadansoddi data gofal iechyd yn arferol mewn amser real agos.

“Rwyf yn anhygoel falch o dîm Gwyddor Data Dynol a agorodd y drws i oes newydd o ymchwil gofal iechyd a chynhyrchu tystiolaeth byd go iawn yn gyflymach nag a welwyd erioed o’r blaen.”

Gwefan hawdd ei defnyddio sy’n gwella deilliannau iechyd yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang

“O ganlyniad i’r awtomeiddio a’r arloesi dadansoddol hynod hyn, mae gwefan PrevalenceUK.com yn cynnig rhyngwyneb sy’n hawdd ei ddefnyddio sy’n galluogi defnyddwyr i hidlo data cyffredinolrwydd fesul afiechyd.

“Drwy gynnig mynediad parod at ddadansoddiad epidemiolegol hanfodol, mae Livingstone yn ein helpu i gyflawni’n hamcanion o wella deilliannau gofal iechyd yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd – drwy wefan hawdd ei defnyddio sy’n galluogi pawb i hidlo data cyffredinolrwydd fesul afiechyd.

“P’un a ydych yn lluniwr polisi, yn ymchwilydd, yn ddarparwr gofal iechyd neu’n aelod o’r cyhoedd, bydd y llwyfan chwyldroadol hwn yn eich helpu i ddeall epidemioleg afiechydon ledled y byd – ac yn ein galluogi ninnau i hysbysu strategaethau triniaethau mwy effeithiol, mentrau iechyd cyhoeddus a mesurau ataliol.”

Arloesedd ysbrydoledig arall gan sector Technoleg Feddygol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Canmolodd Rhys Thomas, Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Dros Dro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, arbenigedd a dyfeisgarwch tîm Gwyddor Data Dynol:

“Dengys y chwyldro a grëir gan PrevalenceUK pam rydym wedi bod mor llawn cyffro ac ymrwymedig i gefnogi Gwyddor Data Dynol.  Mae’n eglur inni fod y cwmni hwn wedi’i adeiladu i gyflawni uchelgais safon byd – gan gael effaith fawr ar ein Rhanbarth a ledled y byd.

“Ers buddsoddi yng ngweledigaeth Gwyddor Data Dynol, gwelsom eu tîm yn mwy na dyblu mewn nerth, yn cyflwyno’r llwyfan Livingstone chwyldroadol, ac yn awr yn lansio adnodd PrevalenceUK cyntaf y byd.

 

“Dyna berfformiad – a dyna dîm!”

Nododd Gavin Powell, Pennaeth Arloesi a Chlystyrau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, sut mae taflwybr esgynnol Gwyddor Data Dynol yn argoeli’n dda i Dechnoleg Feddygol a’r sectorau blaenoriaethol eraill yn y rhanbarth:

“Mae yna ffrwd o arloesi’n llifo’n ddwfn ac yn chwim drwy sectorau blaenoriaethol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i gyd ar hyn o bryd.

“Mae ein clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yng nghanol strategaeth y Deyrnas Unedig, ac mae Media.Cymru a’r Ganolfan Arloesi Seiber yn llunio dyfodol ein diwydiannau Creadigol a Seiber, ac mae Technoleg Ariannol yn parhau i dyfu o nerth i nerth drwy FinTech Cymru – ac mae ein sector Technoleg Feddygol yn gwneud argraff ar raddfa fyd-eang, diolch i’r timau yn Creo Medical, Jellagen ac yma yn Gwyddor Data Dynol.

“Mae Rhiannon a’i thîm yn haeddu’r holl glod am yr hyn y maent eisoes wedi’i gyflawni – ac rwyf yn sicr bod yna lawer mwy i ddod gan y fenter eithriadol hon.”

#cysylltiedig #cystadleuol #cadarn

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Gwelodd 2023 y Ganolfan Arloesi Seiber (CIH) yn cyrraedd cerrig milltir trawiadol – ac wrth inni ddynesu at hanner ffordd drwy 2023, siaradasom â’r Athro Pete Burnap am y cynnydd trawiadol sydd eisoes wedi’i gyflawni gan y tîm ysbrydoledig hwn …

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.