Mae yna dair menter newydd fydd yn defnyddio Data Agored i gyflawni buddion economaidd a chymdeithasol wedi’u cyhoeddi ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR).
Mae pob un o’r deg cyngor yn y rhanbarth wedi cytuno i gyhoeddi’r Drwydded Llywodraeth Agored, ac mae Cynghorau Sir Fynwy a Blaenau Gwent ill dau wedi sicrhau cyllid oddi wrth Gronfa Her GovTech y Llywodraeth Ganolog.
Mae’r Drwydded Llywodraeth Agored yn drwydded hawlfraint ar gyfer gwaith Hawlfraint y Goron a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac a ddatblygwyd ac a gynhelir gan Yr Archifau Gwladol.
I helpu i hyrwyddo ac i alluogi datblygu busnesau, mae deg Cyngor Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i gyd wedi cytuno i gymhwyso’r drwydded i’r wybodaeth y maent yn ei chyhoeddi drwy’u gwefannau.
Golyga’r penderfyniad hwn na fydd ar entrepreneuriaid, datblygwyr ac aelodau’r cyhoedd angen gwneud cais mwyach am drwydded nac i gofrestru er mwyn defnyddio data a gyhoeddir gan y cynghorau.
Fe fyddant yn lle hynny yn gallu defnyddio ac ailddefnyddio gwybodaeth sydd ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i:
- copïo, cyhoeddi, dosbarthu a throsglwyddo’r wybodaeth;
- addasu’r wybodaeth;
- manteisio ar yr wybodaeth yn fasnachol ac yn anfasnachol, er enghraifft, drwy’i chyfuno â gwybodaeth arall, neu drwy’i chynnwys yn eu cynnyrch neu’u cais eu hunain.
Mae’r budd yn ddwbl. Mae’r drwydded newydd yn darparu ffynhonnell bwysig o wybodaeth y gall cwmnïau fanteisio arni i ddatblygu’u busnes a’u cynnyrch; ac mae’n galluogi cwmnïau’r sector preifat i greu datrysiadau i broblemau yn y sector cyhoeddus.
Mae’r Lle Geo-Portal, a ddatblygwyd fel partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, eisoes wedi profi beth y gellir ei gyflawni gyda Data Agored.
A chyda Sir Fynwy a Blaenau Gwent yn sicrhau cyllid oddi wrth Gronfa Her GovTechy Llywodraeth Ganolog, mae yna fwy o brosiectau ar y gweill.
Bydd cyfanswm y gronfa o £2.5 miliwn a gafwyd yn caniatáu i gwmnïau technoleg lleol wneud cynnig i ddarparu datrysiadau arloesol i fynd i’r afael â phroblemau a nodwyd gan y cynlluniau llwyddiannus.
Mae cynllun Sir Fynwy yn ymwneud â rhoi sylw i unigrwydd ac arwahanrwydd yng nghefn gwlad drwy ganfod ffyrdd arloesol o nodi a rhannu capasiti trafnidiaeth o ffynonellau data agored. Dyma fydd un o’r prosiectau blaenllaw y bydd Grŵp Data Agored Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ei ddatblygu.
Mae cynllun Blaenau Gwent, mewn partneriaeth â Durham, yn ystyried sut y gallwn ddefnyddio data i wella cyflenwi gwasanaethau, yn cynnwys perfformiad ailgylchu, troseddau parcio, diffygion mewn cerbytffyrdd a phroblemau seilwaith. Mae’r her yn ymwneud â lleihau costau heb gyfaddawdu ar ansawdd, drwy osod technoleg dal data fyddai’n galluogi preswylwyr a cherbydau i ryngweithio â’r Cyngor yn fwy effeithiol.
Bydd y cystadlaethau’n agored dros yr ychydig fisoedd nesaf. Bydd cwmnïau technoleg a gynigiodd yn llwyddiannus yn gallu denu hyd at £500,000 i weithredu’u prosiectau, naill ai yn Sir Fynwy neu ym Mlaenau Gwent.
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyd-arweinydd ar bortffolio busnes ac arloesi Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: “Mae buddion Data Agored yn lluosog, ac yn amrywio o dwf economaidd cryfach yn y sector preifat, gwell effeithlonrwydd yn y gwasanaethau cyhoeddus, i lesiant cymdeithasol mwy cyffredinol. Mae’r tair menter newydd a gynlluniwyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gynrychiadol o’r amrywiaeth hwn, ac maent yn gyfleoedd bendigedig i Gymru ddatgloi’i photensial arloesi a pherfformio.”
Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy a Dirprwy Gadeirydd Cabinet Rhanbarthol Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: “Bydd yr ychydig flynyddoedd nesaf yn gyfnod trawsnewidiol i Dde-ddwyrain Cymru, ac ni ddylid bychanu’r gwerth o ddefnyddio Data Agored. Bydd rhannu data ledled sectorau yn gwella cydweithredu, cyfranogi ac arloesi cymdeithasol yn y rhanbarth, gan osgoi gwario diangen, ac fe fydd yn cynorthwyo i greu modelau busnes newydd. Croesawn y cyfryw brosiectau â brwdfrydedd mawr, ac fe edrychwn ymlaen at ddarganfod y cwmnïau technoleg a wnaeth gynnig yn llwyddiannus.”
Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn mynd i ddatgloi twf economaidd sylweddol ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cynnwys y deg awdurdod lleol ym Mlaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy, a Thorfaen.
Amcanion Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw creu swyddi a rhoi hwb i lewyrch economaidd drwy wella cynhyrchiant, mynd i’r afael â diweithdra, adeiladu ar sylfeini arloesedd, buddsoddi mewn seilwaith ffisegol a digidol, darparu cymorth i fusnesau, a sicrhau y caiff unrhyw fuddion economaidd o ganlyniad i hynny eu teimlo ledled y rhanbarth.