Mae trawsnewid ein seilwaith, ein cysylltedd a’n dull o deithio yn gwbl hanfodol i gynaliadwyedd a llwyddiant De-ddwyrain Cymru yn y dyfodol – ac yn y diweddariad treiddgar hwn, mae’r Cynghorydd Huw David, Cadeirydd Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn ein goleuo ar yr ‘gwaith caled’ sydd wedi’i wneud, y cerrig milltir a gyrhaeddwyd eisoes; a’r hyn sydd ar ddod …
“Mewn sawl ffordd mae’r cynnydd a wnaed gan ein Hawdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol (ATRh) yn adlewyrchu cynnydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ei hun. Dim ond ychydig dros bum mlynedd yn ôl y daith deg awdurdod unedol De-ddwyrain Cymru at ei gilydd i lunio rhanbarth newydd wedi’i adeiladu ar gyd-ymddiriedaeth a gweledigaeth gyffredin – gan greu diwylliant â phwrpas go iawn yn waelodol iddo. Rwyf wedi gweld esblygiad tebyg yn ein ATRh dros y 12 mis diwethaf – lle mae deg o arweinwyr Trafnidiaeth mewn Cabinetau wedi cydweithio i wneud cynnydd aruthrol drwy bartneriaeth strategol gref a chydweithredol.
“Mae’r cerrig milltir a gyrhaeddwyd a’r allbynnau a gyflawnwyd eisoes yn drawiadol. Rydym wedi bod yn cynghori Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar y llu o faterion niferus sy’n effeithio ar gynllunio trafnidiaeth, seilwaith a buddsoddi ar hyd a lled ein rhanbarth, gan gynnwys prosiectau pwysig fel Metro De Cymru. Rydym yn gweithredu’n brydlon ar gynllun ar gyfer nifer o brosiectau ‘buddsoddi cymeradwy’ fel Metro+, Metro Canolog a Cherbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV) – y mae pob un ohonynt yn drawsnewidiol yn eu rhinwedd eu hunain; a gyda’i gilydd byddant yn llunio rhanbarth wedi’i drawsnewid yn llwyr, yn ymestyn o Sir Fynwy i Ben-y-bont ar Ogwr, o’r Cymoedd i’r arfordir.
“Gwnaeth yr ysbryd hwnnw o gydweithio ein Gweledigaeth Rheilffyrdd Teithwyr chwyldroadol a gyhoeddwyd y llynedd yn bosibl. Fyddai ddim wedi bod yn bosibl cael gweledigaeth o’r fath cyn i ddeg awdurdod lleol ddod ynghyd ag un nod cyffredin. Mae’n golygu ein bod yn rhanbarth sydd bellach wedi’i adeiladu – ac yn adeiladu – ar ymddiriedaeth. Ac mae ymddiriedaeth ynon ni hefyd – i ni chwarae rôl hysbysu ehangach ar gyfer pethau allweddol fydd yn llywio’r dyfodol fel Comisiwn Burns, Adolygiad Hendy ac agenda Codi’r Gwastad.”
“Adeiladu ar ein llwyddiannau hyd yma, drwy fwy o ffocws strategol”
“Rwy’n credu ei bod yn bosibl bod y gorau eto i ddod. Ydyn, rydyn ni wedi gallu cyrraedd ein cerrig milltir a chael dylanwad enfawr ar fentrau fel prosiectau’r Gronfa Her sydd â’r nod o gyflwyno fflyd sero-garbon, ond weithiau mae wedi bod yn rhwystredig nad oedd gan yr ATRh “wir” gylch gwaith trafnidiaeth rhanbarthol. Felly, roeddem yn croesawu’n fawr y foment pan ddiwygiodd Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-ranbarth Caerdydd gylch gorchwyl yr ATRh – gan ein galluogi i ganolbwyntio’n strategol yn y ffordd orau bosibl a’n halinio hyd yn oed yn nes â phwerau esblygol y Cyd-bwyllgor Corfforaethol (CBC). Mae’r esblygiad hwnnw wedi dod â gofyniad – ‘dyletswydd cychwyn yn syth’ – i’r P-RC gynhyrchu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Am y tro cyntaf erioed, mae gan ein rhanbarth ddyletswydd statudol mewn perthynas â chynllunio trafnidiaeth: gan gynnig cyfle pwysig iawn i ni fynd â’n syniadau cydgysylltiedig i’r lefel nesaf.
“Ar un ystyr, ni fydd yn anodd mynd â’n strategaeth yn ehangach ac yn ddyfnach, gan fod cymaint o waith eisoes wedi’i wneud. Yn sicr, nid oes diffyg gweledigaeth ar gyfer y dyfodol cysylltiedig, cynaliadwy a llewyrchus yr ydym am ei greu – ac mewn sawl ffordd rydym wedi bod ar flaen y gad yn ein cynlluniau parthed system drafnidiaeth aml-foddol a hynod gynaliadwy gydag uchelgais ddi-garbon wedi’i wreiddio ynddi.
“Yr her yw alinio’r uchelgeisiau hynny ag amcanion economaidd a defnydd tir: sicrhau bod fframweithiau strategol allweddol ein rhanbarth – fel y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a’r cynlluniau Cynaliadwyedd Economaidd, Diwydiannol, Cymdeithasol ac ehangach – i gyd yn siarad â’i gilydd ac yn ategu ei gilydd. Bydd y broses hon o aeddfedu’n cael ei helpu’n fawr gan yr ATRh yn esblygu’n is-bwyllgor ffurfiol o CBC, gyda’i gasgliad ei hun o swyddogaethau a phwerau.”
“Mae Metro+ yn cysylltu ac yn integreiddio ar raddfa na welwyd erioed o’r blaen”
“Mae Metro+ yn cymryd camau breision i gysylltu ac integreiddio ein rhanbarth mewn ffordd na welwyd erioed o’r blaen, drwy ddeg cynllun mawr – un ym mhob awdurdod lleol – gan ddod â’r diweddaraf mewn seilwaith cynaliadwy ar gyfer yr 21ain ganrif. Bydd chwech o’r cynlluniau hynny’n cael eu cyflawni erbyn diwedd mis Mawrth 2023, gyda phedwar cynllun datblygu pellach – a mwy o faint – ar fin dod â manteision ehangach fyth i’n cymunedau.
“Mae disgwyl i elfen Metro+ project Blaenoriaeth Bws Dwyrain Caerdydd gael ei chwblhau erbyn dechrau’r Gaeaf eleni, gan ffurfio rhan o raglen drafnidiaeth strategol ehangach Caerdydd Canolog sy’n werth £10m; ac mae hefyd yn wych gweld llinell amser debyg yn cael ei chyflawni gyda Chyfnewidfa Porth, lle mae’r orsaf fysiau newydd wedi’i hintegreiddio â’r safle rheilffordd cyfagos fel rhan o raglen adfywio ehangach ar gyfer y dref. Bydd dechrau’r gaeaf hefyd yn gweld cwblhau Parcio a Theithio Pont-y-pŵl a New Inn, sy’n cynnig hyd at 250 o fannau parcio, gan wneud gwir wahaniaeth i’r tagfeydd presennol ar y ffyrdd a lleihau teithiau un person mewn car yn yr ardal.
“Mewn mannau eraill o’n rhanbarth, bydd Parcio a Theithio Twnnel Hafren yn darparu 200 o leoedd, opsiwn pont ychwanegol ac yn uwchraddio’r orsaf, gyda’r nod o’i gwblhau erbyn y Gaeaf y flwyddyn nesaf – llinell amser debyg i’r Derfynell Bws Porthcawl, sydd eto’n rhan allweddol o gynllun adfywio ehangach. Ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf hefyd dylid gweld cwblhau Cyfnewidfa Drafnidiaeth Dociau’r Barri a fydd yn integreiddio gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau ac yn sbardun allweddol i’r hyn sydd eisoes yn dod yn adfywiad mawr yn y dref hon sy’n tyfu’n gyflym.
“Y tu hwnt i’r prosiectau trawsnewidiol hynny, mae cynllun datblygu Cyfnewidfa Caerffili, estyniad Cyfnewidfa Abertyleri i reilffordd Glynebwy, Blaenoriaeth Bws Casnewydd-Caerdydd a rhaglen ddatblygu Gorsaf Drenau Merthyr i gyd yn ddatblygiadau allweddol sydd ar y gorwel – gyda phob un yn addo gwelliant mawr yn y ffordd rydym yn byw, yn gweithio ac yn chwarae.
“Rydym yn arwain y ffordd o ran ULEV”
“Mae ULEV wedi’i wreiddio ym mhob un o’r rhaglenni trafnidiaeth yr ydw i eisoes wedi’u crybwyll ac erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2021/22 byddwn wedi gosod 34 o wefrwyr tacsis 50kw deuol mewn 31 o safleoedd ledled y rhanbarth – yn ogystal â phrynu 44 o dacsis cwbl drydan fel rhan o’n hymgyrch i annog gyrwyr tacsis i fabwysiadu cerbydau trydan. Mae’r cynlluniau peilot cynnar wedi bod yn brofiadau dysgu defnyddiol iawn – a chyda 159 o wefrwyr deuol 22kw at ddefnydd y cyhoedd ar ein strydoedd ac mewn meysydd parcio cyhoeddus, rydym bellach yn symud ymlaen o Gam 1, ac yn bwriadu cynyddu’r ddarpariaeth o wefrwyr dros y pedair blynedd nesaf.
“Bydd yr esblygiad cyflym hwnnw’n cynnwys datblygu ein Rhaglen Clwb Ceir i annog aelwydydd i symud i ffwrdd o berchnogaeth ail gar, yn ogystal â threialu pellach ar gerbydau cludo trydan i ysgolion a’r cyhoedd – ac rydym ar hyn o bryd hyd yn oed yn ystyried darparu grantiau i helpu gyrwyr tacsi i brynu cerbydau trydan.
“O ystyried popeth, rydym wedi dod yn bell mewn cyfnod byr – ac mae gennym beth ffordd i fynd – ond mae’n daith sy’n sicr o drawsnewid trafnidiaeth yn ein rhanbarth a rhoi pob cyfle i ni gael ffyniant cynhwysol a llwyddiant cynaliadwy yn y blynyddoedd i ddod.”