Y 7 Mawr sy’n llunio cyflogadwyedd a sgiliau yn ein rhanbarth

Categorïau:
Arwain Agweddau
Sgiliau

Mae De-ddwyrain Cymru ar fin profi’r don fwyaf o sgilio, ailsgilio ac uwchsgilio a welwyd erioed.

Fel y rhan fwyaf o economïau modern eraill, mae cyfuniad o newid demograffig, ras i sero a phedwerydd chwyldro diwydiannol yn rhoi rhai o’r heriau – a chyfleoedd – mwyaf anferthol i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a welwyd ym maes cyfalaf dynol.

Mae ateb yr heriau hynny a bachu ar y cyfleoedd hynny yn hanfodol i greu’r busnesau cystadleuol, y cymunedau cysylltiedig a’r economi cadarn y mae arnom eu hangen.

A dyna pam mae’r cynnydd cryf a wneir gan Bartneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRSP) mor bwysig i bawb yn ein rhanbarth.

Fel y corff strategol sy’n cynhyrchu deallusrwydd craff o’r farchnad lafur sy’n gyson â data economaidd, mae’r CCRSP dros y pedair blynedd diwethaf wedi adolygu’n darpariaeth sgiliau rhanbarthol, mae wedi gweithio gyda chyflogwyr i ddeall eu hanghenion – ac mae wedi cynghori Llywodraeth Cymru ynglŷn â blaenoriaethau’r dyfodol – gyda’r nod o ysgogi dulliau gweithredu arloesol i uchafu effeithiau gweithgareddau a chyllid sgiliau’r dyfodol. 

Daeth lansiad Cynllun Sgiliau CCRSP 2022-2025, ‘Ffyniant drwy Bartneriaeth’, ar ddiwedd ‘llynedd ag egni newydd a ffocws mirain i ddarpariaeth sgiliau – a siaradasom â Leigh Hughes, Cadeirydd yr CCRSP, am y saith brif thema sy’n llunio cyflogadwyedd a’r dirwedd sgiliau yn ein rhanbarth ….

Cyflymu twf economaidd a chynhwysol yn y rhanbarth

“Yn aml, sgiliau yw’r prif fater a blaenoriaeth ar gyfer busnesau”, eglura Leigh, “a drwy gydol datblygiad ein Cynllun, clywsom y neges gyson bod cael marchnad lafur â sgiliau da, sy’n barod am waith i gofleidio diwydiannau’r dyfodol, yn rhaganghenraid i’r rhan fwyaf o fusnesau.

“Ein cenhadaeth yw helpu i nodi ac i ymateb i’r angen hwnnw, gan gynorthwyo Cynllun Diwydiannol ac Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i gyflymu twf economaidd a chynhwysol yn y rhanbarth.  Ac ar y daith o’n cynllun 2019-2022 agoriadol i’n sefyllfa gyfredol, canfuom saith thema allweddol sy’n trawstorri popeth a wnawn ….

1.

Cryfhau addysg ar ôl 16 i ddiwallu anghenion cyflogwyr mewn sectorau blaenoriaethol.

“Roedd sicrhau bod cymwysterau a ariannwyd drwy’r Rhaglen Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn diwallu galwadau diwydiant yn un o gyflawniadau niferus ein cynllun 2019-22  – a bwriadwn yn awr adeiladu ar hyn trwy ddeallusrwydd cadarn o’r farchnad lafur fydd yn ehangu gallu’r Rhaglen Cyfrif Dysgu Personol ledled y rhanbarth.

“Bydd hynny’n golygu datblygu piblinellau sgiliau a doniau drwy fodelau Academi a Gwersyll Hyfforddiant Dwys sy’n hyrwyddo cydweithrediad agosach fyth rhwng diwydiant, addysg, rhanddeiliaid a llywodraeth – yn ogystal â gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) arfaethedig i gyflawni’r uchelgais o ddarparu system addysg a hyfforddiant gydgysylltiedig ar ôl oed addysg orfodol.”  

2.

Ehangu Prentisiaethau a gynigir ar lefelau uwch.

“Buom yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i greu 125,000 o brentisiaethau dros dymor y Senedd – gan gynyddu cyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir gynyddu siawnsis bywyd a datblygu sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer y gweithle.

“Mae hi wedi bod yn wych mapio’r Prentisiaethau Gradd a gynigir, a dylanwadu ar gynnwys Fframweithiau Prentisiaethau a adnewyddwyd.  Yn awr, gwthiwn ymlaen gan ddefnyddio tystiolaeth bendant i ddatblygu Fframweithiau Prentisiaethau newydd ar bob lefel – gan gynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan ledled sectorau blaenoriaethol ac adeiladu ar fodelau llwyddiannus Prentisiaethau ar y Cyd Aspire, Y Prentis a Sgil Cymru.” 

3.

Dod â chyflogadwyedd i bobl sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur.

“Rydym yn llwyr ymwybodol o effaith ddichonol Brexit – a cholli arian yr UE – ar brosiectau a rhaglenni sy’n cynorthwyo cyflogadwyedd a sgiliau ledled y rhanbarth.  A dyna pam rydym yn canolbwyntio ar weithio gyda’r llywodraeth, Yr Adran Gwaith a Phensiynau a rhanddeiliaid allweddol i wella’r rhagolygon cyflogaeth ar gyfer pobl sy’n economaidd segur, drwy fentrau megis y prosiect CELT, sydd wedi’u cyflawni’n llwyddiannus ledled y rhanbarth, sy’n cefnogi unigolion yn uniongyrchol i weithio mewn sector blaenoriaethol.

“Gan symud ymlaen, bwriadwn ddylanwadu ar gyfeiriad gweithgareddau’r Gronfa Ffyniant Cyffredin – yn enwedig y rheiny sy’n ymwneud â ‘Pobl a Sgiliau’ – ledled De-ddwyrain Cymru, gan gynhyrchu Deallusrwydd Marchnad Lafur cadarn sy’n hysbysu datblygiad prosiectau a rhaglenni sy’n dechrau ymddangos; yn ogystal â chefnogi’r Gwarant i Bobl Ifanc sy’n rhoi’r cymorth i bawb ieuengach na 25 oed y mae arnynt ei angen i symud i waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth.”    

4.

Hyrwyddo technoleg ddigidol fel ‘sector sy’n galluogi’ allweddol – gan greu gweithlu sydd â’r hyder digidol i ragori.

“Mae’r diwydiant technoleg ddigidol yn chwyldroi’r ffordd y mae pobl yn byw ac yn gweithio – ac mae CCRSP wedi helpu i gynhyrchu deunyddiau marchnata i hyrwyddo’r datblygiadau sylweddol yn y sector hwn, i helpu i ddenu mewnfuddsoddiad, ac i wthio gweledigaethau megis Sefydliad Technoleg Cenedlaethol dan arweiniad cyflogwyr ar gyfer ein rhanbarth.    

“Bydd yr ymrwymiad hwnnw’n parhau, gan ddatblygu rhagor ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol i sicrhau bod cymwysterau galwedigaethol yn cyd-fynd ag anghenion diwydiant, a rhoi sylw i brinderau sgiliau hanfodol a hyrwyddo darpariaeth hyfforddiant i werthwyr drwy’r rhaglen Cyfrif Dysgu Personol – a chynyddu’r nifer sy’n gwneud Prentisiaethau ar bob lefel.” 

5.

Datblygu sgiliau i gynorthwyo’r pontio i economi carbon isel.

“Rydym wedi gweithio’n ddeallus ac yn gydweithredol i helpu i nodi swyddi ‘gwyrdd’ sy’n dechrau ymddangos ac i asesu unrhyw fylchau a diffygion sgiliau – gyda’n canfyddiadau cychwynnol yn awgrymu bod yna ystod eang o heriau yn ymwneud â’r chwyldro gwyrdd, yn cynnwys diffiniadau anghyson a blaenoriaethau sy’n ddichonol yn cystadlu.

“Rydym wedi cynyddu cyfaint y cymwysterau a ariannir i rymuso cyflogwyr yn eu gwaith pontio tuag at economi carbon isel – ac rydym yn ailddyblu’n hymdrechion i ddatblygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol sy’n adlewyrchu rolau newydd ac sy’n dechrau ymddangos, gan adrodd am y rhwystrau rhag bodloni gofynion sero net, yn ogystal ag archwilio cyfleoedd i ddatblygu cymwysterau newydd mewn cydweithrediad agos â Chlwstwr Diwydiannol De Cymru a TUC Cymru.”  

6.

Sicrhau bod cymwysterau sy’n dechrau ymddangos yn diwallu anghenion diwydiant.

“Rydym wedi cefnogi ystod eang o adolygiadau o sectorau a wnaed gan Cymwysterau yng Nghymru – yn cynnwys y rheiny sy’n canolbwyntio ar Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig, Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch, yn ogystal â Theithio, Twristiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo.  Mae’r gwaith hwnnw wedi’n helpu i ddod yn eiriolwyr gwybodus dros ddatblygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol newydd ac wedi’u hadnewyddu, sy’n gallu bod yn feini adeiladu ar gyfer cymwysterau galwedigaethol sy’n canolbwyntio ar sectorau.

“Ein ffocws yn awr yw gweithio gyda Cymwysterau yng Nghymru trwy’u hadolygiadau o sectorau a chynorthwyo gyda’r prosesau gweithredu – gan ddylanwadu ar Golegau Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a darparwyr hyfforddiant i sicrhau bod gan ymarferwyr y sgiliau addas i gyflawni yn erbyn gofynion newydd; yn ogystal ag ymgysylltu â ‘Cymwys ar gyfer y Dyfodol’ i ail-lunio’r dirwedd gymwysterau a defnyddio grwpiau clwstwr sectorau blaenoriaethol drwy’r Cwricwlwm i Gymru newydd.” 

7.

Hyrwyddo’r sectorau allweddol fel dewisiadau dichonadwy ar gyfer gyrfa.

“Gan weithio’n agos gyda Gyrfa Cymru, rydym eisoes wedi mapio gweithgareddau Addysg, Gwybodaeth, Cynghorion a Chanllawiau ynglŷn â Gyrfaoedd a gyfarwyddir gan gyflogwyr ledled sectorau blaenoriaethol rhanbarthol – ac mae’r canfyddiadau hynny’n hysbysu Cynllun Gweithredu ar y cyd rhwng Gyrfa Cymru /CCRSP. 

“Gan symud ymlaen, byddwn yn hyrwyddo mentrau sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd megis cynllun Venture Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, rhaglenni awdurdodau lleol megis menter Ymrwymiad Caerdydd – a rhaglenni cenedlaethol sy’n cynnwys y Fenter Cyfnewidfa Busnes Addysg a Phartneriaid Gwerthfawr – yn ogystal ag yn ysbrydoli busnesau i ymgysylltu ag ysgolion fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru newydd a thema Gyrfaoedd a Phrofiadau Byd Gwaith sy’n trawstorri.”

“Mae’r cynllun 2022-2025 hwn yn dilyn y fersiwn gyntaf lwyddiannus a fodlonodd ei holl dargedau mawrion er gwaethaf yr ysgytiad gan bandemig.  Fe’i hadeiladwyd ar gydweithredu agos â busnesau, addysg a darparwyr hyfforddiant, yn ogystal â Llywodraeth Cymru.  Ac mae’n cael ei weithredu ar hyn o bryd i wneud De-ddwyrain Cymru y gorau y gall fod fel man lle y caiff gweithluoedd medrus eu llunio ar gyfer llwyddiant; mewn rhanbarth lle na chefnir ar neb.” 

#cystadleuol #cysylltiedig #cadarn

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Ar hyn o bryd mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn recriwtio dwy swydd uwch – Dirprwy Brif Weithredwr, a Chyfarwyddwr Strategol – Adnoddau (Swyddog adran 151).

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.

Skip to content