Mae yna bedair llythyren yn cymell ras trafnidiaeth i ddatgarboneiddio sero net – a’r pedair llythyren hynny yw ULEV.
Mae’n cynrychioli Cerbydau Allyriadau Isel Iawn ac mae’n disgrifio dyfodol trafnidiaeth ffordd i bawb yn ein gwlad – gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd â rôl amhrisiadwy mewn chwyldro ULEV fydd yn trawsnewid teithio fel y gwyddom ni amdano.
Siaradasom ag aelodau o dîm Seilwaith Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ganfod sut mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn creu’r trawsnewidiad hwn – a sut y bydd y daith o’n blaen yn gostwng allyriadau gan ein gwneud yn rhanbarth mwy cysylltiedig yr un pryd …

Rhaglen ULEV Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: carreg sylfaen ar gyfer economi datgarbonedig

“Mae’r rhan fwyaf o’r Cerbydau Allyriadau Isel Iawn ar ffyrdd De-ddwyrain Cymru’n defnyddio ‘tanwyddau amgen’ megis trydan a hydrogen i yrru cerbyd trydan – gyda cheir trydan yn gwefru’u batris drwy gael eu plygio i fannau gwefru penodedig”, eglura Rob O’Dwyer, Pennaeth Seilwaith Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
“Mae rhaglen ULEV Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn creu’r seilwaith fydd yn cynorthwyo ac yn pweru’r cerbydau hynny i fod yn gatalydd dros ddatgarboneiddio a thrawsnewidiad gwyrdd – gan sicrhau ein bod yn cynnig mwy o gyfleoedd i ‘gysylltu’ i bawb sy’n byw ac yn gweithio yn ein rhanbarth.
“Mae’n rhaglen a grëwyd mewn cydweithrediad â Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig – ynghyd â’r 10 Awdurdod Lleol o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – i adeiladu seilwaith ULEV arloesol a hawdd ei gyrchu fydd yn garreg sylfaen allweddol ar gyfer cymdeithas a yrrir gan gerbydau trydan ac economi datgarbonedig.
“Rydym yn awyddus i ddarparu cynifer o gymhelliannau ag y gallwn i bobl dderbyn Cerbydau Allyriadau Isel Iawn yn gynnar – i bobl o bob cefndir ac ym mhob cymuned ledled ein rhanbarth – trwy Seilwaith Gwefru eang o Ddefnydd Cyhoeddus o ULEV, yn ogystal â mentrau sy’n cynnwys ‘Cynllun Profi Cyn Prynu’ Tacsis ULEV.
“Mae effaith ddichonol pob menter ac ymyriad yn anferth. Gyrrwyd 5,960,752,774.40 o filltiroedd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn 2021, gydag ond 1.06% o gyfanswm o 889,476 o gerbydau wedi’u cofrestru fel ‘ ULEV’ – a 0.67% o gerbydau wedi’u cofrestru fel ‘llwyr drydan’.
“Felly bydd datblygu’r sefyllfa tuag at ULEV o hyd yn oed ychydig o bwyntiau canran yn dod â gostyngiad aruthrol fawr mewn allyriadau CO2 ac yn gam mawr ymlaen mewn datgarboneiddio ledled rhanbarth mwyaf poblog Cymru.”
Strategaeth gydgysylltiedig ar gyfer datrysiad drwy’r rhanbarth i gyd …
“Sefydlodd rhaglen ULEV Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ddatrysiad drwy’r rhanbarth i gyd”, medd Clare Cameron, Rheolwr Trafnidiaeth ac Ynni ar gyfer tîm Seilwaith Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, “a bydd hynny’n gwneud gwahaniaeth hanfodol i gyfradd derbyn ULEV ledled De-ddwyrain Cymru.

“Mae’r ffaith bod gennym dariff hollgyffredinol a chyfres o weithdrefnau gweithredol cyson ledled pob un o’r deg awdurdod lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn golygu bod gennym ddull cydgysylltiedig o weithredu a all gyflawni buddion drwy’r rhwydwaith i gyd.
“Galluogodd hynny inni roi ar waith y rhaglen drafnidiaeth sero net fwyaf effeithlon a mesuradwy – ledled ardal sy’n cynhyrchu 50% o allbwn economaidd Cymru, ac sy’n gartref i bron hanner poblogaeth Cymru.
“Mae’r strategaeth gydgysylltiedig hon a gweithredoedd integredig yn cynnwys ein seilwaith Tacsis ULEV arloesol a Chynllun ‘Profi Cyn Prynu’ Tacsis ULEV, ein Strwythur ULEV Defnydd Cyhoeddus, a mentrau arloesol Partneriaid Cyflenwi ULEV.
“Ymhellach na hynny, mae ein rhaglen hefyd yn cynnwys cyfle i harneisio buddion Clwb E-Geir sy’n alluog i gynorthwyo Cynllun Ceir Trydan Rhanbarthol. Byddai hyn yn gostwng allyriadau CO2, yn ogystal â’r angen am ‘ail geir’ mewn teuluoedd – gan helpu i gymell y pontio i gerbydau ULEV drwy gynnig y cyfle i dreialu cerbydau trydan, a sicrhau bod trafnidiaeth fforddiadwy’n hygyrch i bob defnyddiwr.”
Taith ULEV sy’n dechrau cyflymu …

“Dengys pob wythnos fod y rhaglen yn cymell lefel uwch o bobl yn derbyn ULEV ledled ein rhanbarth”, medd Charlotte Davidson, Swyddog Ynni gyda Thîm Seilwaith Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
“Caiff Seilwaith Tacsis ULEV ei gyflenwi, ei reoli a’i gynnal drwy gontract â Swarco, sy’n darparu 34 o wefryddion mewn 31 o safleoedd drwy Dde-ddwyrain Cymru i gyd – ac ers i’r gwefrydd cyntaf ddod yn weithredol ym mis Hydref 2021, mae yna gyfanswm o 4068 o sesiynau wedi bod, gyda’r data’n dangos Cyfanswm Defnydd o 78,901.45 kWh, sy’n gyfartal â chyfwerth o 231,181 o filltiroedd, gan gyflawni arbedion CO2 o 44.6 tunnell fetrig.
“Mae hynny’n gyfwerth â chael 268 o goed ychwanegol sy’n cyfrannu tuag at aer glân ein rhanbarth – ac oherwydd bod gennym gynllun cyfranddaliadau elw y cytunwyd arno, mae hefyd yn cynhyrchu enillion bytholwyrdd uniongyrchol ar fuddsoddiad i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.
“Mae’r Prosiect Peilot tair blynedd i ddarparu Tacsis ULEV trwy ‘Gynllun Profi Cyn Prynu’ hefyd yn cyflawni canlyniadau. Ariannodd bryniant 44 o gerbydau trydan sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn – ac mae’r ymateb gan yrwyr wedi bod yn eithriadol o gadarnhaol, gydag adroddiadau bod y cyhoedd yn fodlon cael y dewis o dacsis ULEV.
“Mae ein Seilwaith Gwefru Defnydd Cyhoeddus hefyd wedi profi’n llwyddiannus iawn – gyda Connected Kerb dan gontract i gyflenwi, i gynnal ac i reoli seilwaith a dyfodd yn gyflym ers y ffigurau sengl blaenorol.
“Golyga’r cynnydd a wnaed bod gennym yn awr 261 o wefryddion deuol gyda 522 o socedi ledled 212 o safleoedd – gyda’r fantais ychwanegol o fod yn annatod i gynlluniau Metro a Mwy mewn lleoliadau sy’n cynnwys Cyfnewidfa Dociau’r Barri, Pont-y-pŵl & New Inn, a Chyffordd Twnnel Hafren.
“Mae’r cyflwyniad fesul cam hefyd wedi creu 25 o swyddi hyd yn hyn – ac mae’n rhoi cipolwg ar sut mae ein rhaglen ULEV yn ein gwneud yn rhanbarth mwy cynaliadwy, cysylltiedig, cystadleuol a chadarnach.”
‘Diolch yn Fawr’ iawn i dîm Seilwaith Prifddinas-Ranbarth Caerdydd am eu hadroddiad cynnydd ynglŷn â rhaglen ULEV sy’n trawsnewid y ffordd y mae pobl yn teithio yn Ne-ddwyrain Cymru.
Gyda chymaint yn digwydd mor gyflym, cadwch eich llygaid yn agored am ein diweddariadau am fannau gwefru cerbydau trydan sydd ar y gweill ledled y rhanbarth …
#cystadleuol #cysylltiedig #cadarn