Y diweddaraf am Sgiliau a Thalent yn ne-ddwyrain Cymru

Categorïau:
Sgiliau

Mae Mehefin wedi dod â rhai penawdau sy’n procio’r meddwl ar draws y parthau Sgiliau a Thalent yn ne-ddwyrain Cymru – gyda Chlwstwr Arloesi chwyldroadol y Labordy Byw yng Nglynebwy yn elwa ar fuddsoddiad o £7 miliwn … dewis Coleg Caerdydd a’r Fro i gynnal Rowndiau Terfynol WorldSkills UK … pedwar athro ysbrydoledig yng Nghymru yn cael eu hanrhydeddu â Gwobr Addysgu Genedlaethol Pearson … data diweddaraf y SYG yn dangos bod BBaChau yn blaenoriaethu sgiliau personol dros brofiad ac addysg wrth asesu ymgeisydd … a People at Work 2022: A Global Workforce View ADP yn dangos bod 50% o weithwyr Cymru yn disgwyl codiad cyflog eleni …

Clwstwr Arloesi Labordy Byw £7m yn agor yng Nglynebwy

Mae’r cwmnïau technoleg gorau a phlant ysgol yn cydweithio ar safle hen waith dur yng Nglynebwy i ymladd hacwyr ledled y byd – gydag agoriad ResilientWorks, campws technoleg newydd yng nghartref y Ganolfan Ecsploetio Ddigidol Genedlaethol (CEDdG) a gyllidir ar y cyd gan y cwmni technoleg byd-eang Thales a rhaglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru, â chyfraniad ymchwil ychwanegol gan Brifysgol Caerdydd.

Mae ResilientWorks yn labordy byw sy’n galluogi cwmnïau technoleg i brofi a datblygu systemau cerbydau a phŵer awtonomaidd, gyda rhaglen ymchwil wyddonol yn dod ag ymchwilwyr prifysgol a chwmnïau blaenllaw ynghyd – mewn cyfleusterau sy’n cynnwys labordai, trac prawf a model gosodiad stryd.

Mae’r fenter yn gweithio ochr yn ochr â rhaglen allgymorth ysgolion a cholegau fawr, gan osod llwybr i’r genhedlaeth nesaf o dalent ennill lle yn y diwydiant seibr.

Bydd ResilientWorks yn ehangu’r campws a grëwyd gan CEDdG, cyd-fuddsoddiad gwerth £20 miliwn a lansiwyd yn 2019 gan Thales, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol De Cymru sydd eisoes yn gweithio gyda chwmnïau rhyngwladol megis EDF a Williams Grand Prix Engineering, a chwmnïau Cymreig sy’n cynnwys Awen Collective a Protecht.

Gyda gweledigaeth i helpu i droi Cymru’n ganolfan ragoriaeth ar gyfer y dechnoleg seiberddiogelwch sy’n hanfodol i’n seilwaith a’n diwydiant cenedlaethol, mae’r datblygiad yng Nglynebwy eisoes yn cyflogi 28 o bobl ac yn cefnogi sylfaen cyflenwyr lleol cynyddol, gan greu PhDs a gradd-brentisiaethau – gan amlygu llwybrau clir i yrfaoedd STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) cynaliadwy sy’n talu’n dda i blant y cymoedd.

Mae Thales yn un o sylfaenwyr y fenter Cyber College Cymru – partneriaeth rhwng colegau addysg bellach a diwydiant sy’n addysgu dros 100 o fyfyrwyr y flwyddyn mewn colegau addysg bellach, gyda rhaglenni allgymorth sy’n cynnwys “Clwb Seiber” wythnosol i fyfyrwyr Blwyddyn 9 yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri, lle mae gweithwyr a graddedigion ymchwil Thales yn gweithio gyda phlant ysgol i ddatblygu eu sgiliau seibr a’u dyheadau gyrfa.

 

Dewis Coleg Caerdydd a’r Fro i gynnal Rowndiau Terfynol WorldSkills UK

Dewiswyd Coleg Caerdydd a’r Fro (CCF) – yr unig goleg yng Nghymru i gael yr anrhydedd – i gynnal Rowndiau Terfynol Genedlaethol WorldSkills UK ym mis Tachwedd – gan gynnal mwy o gystadlaethau nag unrhyw goleg arall yn y DU.

Mae chwe lleoliad wedi’u dewis ledled y DU i arddangos y rowndiau terfynol – gyda CCF wedi’i dewis ar gyfer 14 o’r 62 cystadleuaeth – wrth i fyfyrwyr a phrentisiaid gorau’r wlad ddod at ei gilydd i gystadlu ar draws ystod eang o ddisgyblaethau.

Mae cystadlaethau WorldSkillsUK, a ddyluniwyd gan arbenigwyr o’r diwydiant, yn helpu pobl ifanc i dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol drwy ddatblygu eu sgiliau technegol a chyflogadwyedd – gydag enillwyr medalau yn mwynhau’r cyfle i gynrychioli Tîm y DU yn Rowndiau Terfynol Rhyngwladol Worldskills, a elwir y ‘Y Gemau Olympaidd Sgiliau’ a gynhelir yn Ffrainc yn 2024.

Mae rowndiau terfynol CCF yn cwmpasu ystod eang o feysydd sgiliau, gan gynnwys Cynnal a Chadw Awyrennau, Atgyweirio’r Corff Modurol, Ailddiffinio Modurol, Technoleg Fodurol, Arlwyo, Cynhyrchu Cyfryngau Digidol, Trin Gwallt, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Peirianneg Cerbydau Trwm, Datrysiadau Meddalwedd TG ar gyfer Busnes, y Cyfryngau, Cerbydau Modur a Gwasanaethau Bwyty.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi gan Steph McGovern mewn sioe fedalau fyw arbennig o’i stiwdio Packed Lunch ar 25 Tachwedd.

 

Athrawon ysbrydoledig o Gymru’n cael eu hanrhydeddu mewn dathliad o Addysgu yn y DU

Mae pedwar athro a phennaeth o Gymru wedi’u henwi’n enillwyr Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson – gyda phob enillydd yn derbyn Gwobr Arian am eu hymrwymiad eithriadol i newid bywydau’r plant y maent yn gweithio gyda nhw bob dydd. Enillwyr Cymreig y gwobrau mawreddog hyn yw:

  • Steven Brown, Ysgol Gynradd Gymunedol Clwyd, Abertawe – gwobr Pennaeth y Flwyddyn mewn Ysgol Gynradd.
  • Nicola Richards, Ysgol Gynradd Caegarw, Rhondda Cynon Taf – gwobr Athro’r Flwyddyn mewn Ysgol Gynradd.
  • John Weir, Ysgol Treffynnon, Sir y Fflint – gwobr Pennaeth y Flwyddyn mewn Ysgol Uwchradd.
  • Ann Webb, Ysgol John Bright, Llandudno – gwobr Pennaeth y Flwyddyn mewn Ysgol Uwchradd.

Mae enillwyr y Wobr Arian wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o 16 Gwobr Aur yn ddiweddarach yn y flwyddyn – mewn seremoni i’w darlledu ar The One Show y BBC fel rhan o ddathliad addysgu wythnos o hyd.

Mae Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson yn ddathliad blynyddol o ragoriaeth mewn addysg, a sefydlwyd ym 1998 gan yr Arglwydd Puttnam i gydnabod yr effaith drawsnewidiol y gall athro ysbrydoledig ei chael ar fywydau’r bobl ifanc y mae’n gweithio gyda nhw.

 

Sgiliau personol yn curo profiad ac addysg ar gyfer swyddi BBaCh

Mae data SYG sydd newydd ei ryddhau yn datgelu bod swyddi gwag BBaCh ledled y DU wedi cyrraedd 575,000 – 72% yn uwch na’r un cyfnod y llynedd, sy’n syfrdanol.

Mae’r ffigurau diweddaraf hyn yn arbennig o berthnasol i economi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cael ei ddominyddu gan BBaChau – ac mae’n nhw’n dod i law wrth i iwoca, un o brif fenthycwyr busnesau bach Ewrop, ryddhau arolwg sy’n datgelu beth mae busnesau bach yn chwilio amdano wrth logi gweithwyr newydd.

Mae’r arolwg yn dangos bod BBaChau yn blaenoriaethu rhinweddau personol yn fwy na dim arall – gyda bron i hanner (49%) yn dweud mai gonestrwydd yw’r rhinwedd bwysicaf wrth logi; a 38% yn blaenoriaethu personoliaeth.

Dilynir y rhain gan rinweddau proffesiynol mwy traddodiadol, gan gynnwys setiau sgiliau sy’n cyd-fynd â’r disgrifiad swydd (37%), profiad mewn swydd debyg (37%) a sgiliau cyfathrebu llafar da (34%).

Yn syndod, roedd geirda da gan gyn-gyflogwr (18%) a gradd israddedig (6%) ymhlith y rhinweddau lleiaf pwysig.

Roedd cytundeb cyffredin bod llogi’n hanfodol ar gyfer twf yn y dyfodol, gydag un o bob chwe (15%) BBaCh yn dweud bod llogi gwael yn atal twf; ac un o bob deg (11%) yn cydnabod y gall arwain at lai o werthiant.

Yn ddiddorol, mae’r ymchwil yn awgrymu mai un ffordd o sicrhau bod eich recriwtiaid newydd yn cyrraedd eu potensial yw trwy gynnig cyfle iddynt weithio gartref. O’r rhai sy’n cynnig gweithio hyblyg, dywedodd bron i hanner (42%) fod trefniadau gweithio hyblyg yn cael effaith gadarnhaol ar gynhyrchiant, o gymharu â 7% a ddywedodd eu bod wedi cael effaith negyddol.

Mae perchnogion busnes ‘milflwyddaidd’ yn fwy tebygol o gynnig gweithio gartref na chenedlaethau hŷn, a hynny o wyth pwynt canran (43% o’i gymharu â 35%).

 

Hanner gweithwyr Cymru yn disgwyl codiad cyflog eleni

Mae gan weithwyr Cymru ddisgwyliadau uchel o gael codiad cyflog eleni – ac maen nhw’n barod i wthio’u cyflogwyr i’w gael wrth i gostau byw godi’n sydyn – yn ôl People at Work 2022: A Global Workforce View Sefydliad Ymchwil ADP.

Mae hanner gweithwyr Cymru (50%) yn dweud eu bod yn disgwyl codiad cyflog i’w helpu i ymdopi â chostau byw cynyddol – ac mae’r hanner arall (52%) yn dweud eu bod yn fodlon gofyn am godiad cyflog os ydyn nhw’n teimlo eu bod nhw’n ei haeddu yn ôl yr arolwg o bron i 33,000 o weithwyr mewn 17 gwlad.

Mae’r optimistiaeth ymysg gweithlu Cymru yn amlwg, gyda bron i draean (32%) yn disgwyl dyrchafiad a thri o bob deg (30%) yn disgwyl bonws. Daw hyn ar adeg pan mae 36% yn disgwyl cael mwy o gyfrifoldeb gan reolwyr.

O ran cymhellion cyffredinol, mae gweithwyr yng Nghymru’n dweud mai Cyflog yw’r ffactor bwysicaf iddyn nhw mewn swydd, gyda dros hanner (57%) yn dweud mai dyma’r flaenoriaeth allweddol. Dilynir hyn gan Sicrwydd Swydd (41%), Hyblygrwydd Oriau (36%) a Mwynhad yn y Gwaith (32%).

I gael y newyddion diweddaraf am Sgiliau a Thalent yn ne-ddwyrain Cymru a’r tu hwnt, ewch i www.venturewales.org/cy

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Ar hyn o bryd mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn recriwtio dwy swydd uwch – Dirprwy Brif Weithredwr, a Chyfarwyddwr Strategol – Adnoddau (Swyddog adran 151).

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.

Skip to content