Y Diweddaraf am Sgiliau a Thalent yn ne-ddwyrain Cymru

Categorïau:
Sectorau

Yr wythnos diwethaf daeth newyddion da am estyniad cyllid gwerth £6 miliwn ar gyfer Cymunedau Digidol Cymru (CDC): rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n canolbwyntio ar wella sgiliau digidol a lleihau allgáu digidol yng Nghymru.

Wedi’i lansio ym mis Gorffennaf 2019 ac wedi’i gyflwyno gan Ganolfan Cydweithredol Cymru mewn partneriaeth â’r Good Things Foundation a Phrifysgol Abertawe, mae CDC eisoes wedi cefnogi dros 1,600 o sefydliadau, gan rymuso mwy na 76,000 o bobl i gael gwaith a’i gadw yn ogystal â gwella eu llesiant cyffredinol.

Mae’r estyniad tair blynedd hwn i’r rhaglen tan 2025 yn tanlinellu ei rôl allweddol o ran helpu i gyflawni gweledigaeth, nodau ac amcanion Strategaeth Ddigidol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru – gyda 4,215 o staff wedi’u hyfforddi i wella eu sgiliau digidol wrth helpu eraill i ddatblygu eu sgiliau eu hunain; 2,119 o wirfoddolwyr wedi’u recriwtio a’u lleoli ledled Cymru; a 15,518 o bobl eisoes yn elwa o fenthyciadau cit digidol.

 

Gwasanaeth Recriwtio Graddedigion Am Ddim Venture ar gyfer de-ddwyrain Cymru

 

Roedd Venture, Canolfan Sgiliau a Thalent Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, hefyd yn y newyddion gyda lansiad ei garfan Recriwtio Graddedigion gyntaf ar gyfer 2022. Mae’r gwasanaeth hollol rad ac am ddim hwn ar gael i unrhyw fusnes yn ne-ddwyrain Cymru, beth bynnag y bo’r maint neu’r sector – gan ddarparu ateb cyflogi arbenigol ar gyfer unrhyw fenter a all gynnig cyfle gyrfa gwerth chweil i dalent graddedigion o safon uchel.

Mae’r gwasanaeth recriwtio unigryw hwn eisoes wedi lleoli dros 100 o raddedigion mewn sefydliadau ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – gydag 85% o’r graddedigion yn dal i weithio yn y cwmnïau hynny heddiw, sy’n dyst i’r technegau cadarn i ddenu talent ac asesu ymgeiswyr a ddefnyddir gan Dîm Recriwtio Graddedigion profiadol Venture.

Mae’r cynllun (https://www.venturewales.org/cy/) yn annog cyflogwyr i gyflwyno swyddi gwag erbyn 21 Chwefror, gyda’r rolau’n cael eu hysbysebu rhwng 25 Chwefror a 20 Mawrth, gan alluogi Tîm Recriwtio Graddedigion ymroddedig Venture i asesu ceisiadau graddedigion dros bedair wythnos, gan baru’r swyddi gwag a diwylliant y cwmni â’r graddedigion ‘cywir’ – a llunio rhestr fer o ymgeiswyr o safon uchel ar gyfer pob rôl benodol, gyda phob un yn cael ei reoli am ddim i unrhyw sefydliad yn ne-ddwyrain Cymru.

 

Siambrau Cymru yn datblygu sgiliau busnesau i ddatrys problemau yn y gadwyn gyflenwi

 

Gan ganolbwyntio’n fwy byd-eang, mae Siambrau De-ddwyrain Cymru, y De-orllewin a’r Canolbarth wedi lansio cyfres o gyrsiau hyfforddi masnach ryngwladol i ddatblygu’r setiau sgiliau a fydd yn helpu busnesau Cymru i oresgyn problemau sy’n ymwneud â’r gadwyn gyflenwi. Mae’r Siambr yn adnabyddus am guradu cysylltedd y gadwyn gyflenwi o’r dechrau i’r diwedd ar draws marchnadoedd byd-eang – ac mae bellach wedi dylunio cyrsiau a fydd yn rhoi’r sgiliau a’r hyder i fusnesau ddelio â phrosesau a dogfennau masnach sylfaenol, gan helpu cwmnïau ym mhob sector i allforio a mewnforio’n llwyddiannus yng ngoleuni’r rheolaethau a rheoliadau Tollau newydd a gyflwynwyd y mis hwn.

Mae naw cwrs wedi’u hachredu gan Siambrau Masnach Prydain a rhoddir tystysgrif i bob cyfranogwr llwyddiannus i ddangos ei gymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant. Trwy gwblhau chwe chwrs, gall cyfranogwyr ennill Gwobr Sylfaen mewn Masnach Ryngwladol, gyda chyrsiau arbenigol ychwanegol hefyd yn cynnwys canllawiau i fasnachu gyda Gogledd Iwerddon a’r UE ar ôl Brexit.

Mae’r cyrsiau hefyd yn cyd-fynd â Chyllid a Thollau EM, gan roi’r sgiliau a’r ddealltwriaeth i fusnesau i sicrhau bod eu busnes yn cydymffurfio ac yn barod ar gyfer archwiliadau. Gan y gallai peidio â chydymffurfio â’r rheoliadau tollau newydd arwain o bosibl at gosbau a dirwyon ariannol sylweddol, gall y cyrsiau gynorthwyo busnesau i liniaru eu risg – a gall busnesau fod yn gymwys i gael cyllid gan Raglen Sgiliau Hyblyg Llywodraeth Cymru ar gyfer Hyfforddiant Allforio.

 

Business in Focus a Tramshed Tech yn dod â sgiliau i’r gymuned

 

Yr wythnos diwethaf adroddwyd hefyd am ddyfarnu contract Cronfa Adfywio Cymunedol y DU i Busnes mewn Ffocws (BmFf). Mae’r Gronfa yn cefnogi pobl a chymunedau sydd â’r angen mwyaf, gan dreialu dulliau newydd o ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd a meithrin yr hyder i ystyried hunangyflogaeth. Mae BmFf eisoes yn helpu miloedd o bobl ledled Cymru i ddechrau hunangyflogaeth neu gychwyn eu busnes eu hunain – ac erbyn hyn mae’r cylch gwaith newydd hwn ganddo i ddod ag arbenigedd ac ymagwedd BmFf i gymunedau ar draws 13 awdurdod lleol.

Mae endid cymunedol Cymreig arall – Tramshed Tech – yn parhau i adeiladu ei ecosystem sgiliau a chydweithio ryfeddol, gyda’r newyddion yr wythnos diwethaf am gysylltiad ffurfiol â’r Goodsheds yn y Barri. Mae’r gofod cydweithredol mawr ei fri hwn yn ymuno â lleoliadau nodedig ‘TT’ yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe fel canolfan lle gall entrepreneuriaid a busnesau newydd fagu sgiliau, tyfu a manteisio i’r eithaf ar eu potensial: cam trawiadol arall yn nhaith pum mlynedd Tramshed Tech – a thalentau de-ddwyrain Cymru yn gyffredinol – gyda llawer mwy yn sicr i ddod.

I gael mwy o ddiweddariadau am Sgiliau a Thalent, ewch i ganolfan Venture yn (https://www.venturewales.org/cy/)

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Ganol mis Ebrill lansiwyd rhaglenni sgiliau a swyddi newydd mawr - dadorchuddiodd CIPD Wales ei ymgyrch arloesol Hidden In Plain Sight i helpu miloedd o bobl ddifreintiedig i gael gwaith, addawodd Llywodraeth Cymru £13 miliwn i undebau llafur i roi cymorth dysgu ac uwchsgilio a chyflwynodd Daikin a Robert Price gwrs hyfforddi sgiliau undydd arloesol ar y gosodiadau pwmp gwres sy'n helpu i yrru ein chwyldro gwresogi gwyrdd.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.