Dros y bythefnos ddiwethaf gwelwyd nifer o fentrau sgiliau newydd ac arloesol yn cael eu datgelu ym mhrifysgolion, colegau, ysgolion – a hyd yn oed feithrinfeydd – ein rhanbarth, gyda Met Caerdydd yn lansio gradd hedfanaeth o’r radd flaenaf … PDC yn cyhoeddi Deorfa arloesol ar ei gampws yng Nghasnewydd … Kier yn ffurfio partneriaeth â Think Air ar raglen allgymorth STEM effaith-uchel … y feithrinfa Gymraeg Si-Lwli yng Nghaerdydd yn darparu prentisiaethau dwyieithog i’w gweithwyr … ac, ymhellach i’r gorllewin, Coleg Sir Benfro yn cydweithio â chwmnïau ynni byd-eang i ddarparu taith gyrfa ynni lân …
Gradd hedfanaeth Met Caerdydd yn anelu am yr entrychion
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn lansio Gradd Rheoli Hedfanaeth flaenllaw newydd, sydd wedi’i hadeiladu o gwmpas partneriaeth newydd gyffrous gyda maes awyr rhyngwladol a phrifysgol fyd-eang adnabyddus.
Gan ddechrau ym mis Medi 2022, mae’r rhaglen BA (Anrh) Rheoli Hedfanaeth yn gymhwyster hedfanaeth penodol a gyflwynir ar y cyd â’r staff arbenigol ym Maes Awyr Caerdydd (CWL) a Phrifysgol Awyrennol Embry-Riddle – Worldwide yn Fflorida.
Bydd myfyrwyr ar y cwrs tair blynedd, llawn-amser yn astudio’r damcaniaethau, systemau ac arferion rheoli hedfanaeth diweddaraf – ynghyd â’r sgiliau Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd sy’n cael eu darparu gan EDGE Met Caerdydd: dull unigryw o gyflwyno’r cwricwlwm sy’n sicrhau bod gan raddedigion y sgiliau a’r profiad craidd sydd eu hangen ym marchnadoedd cyflogaeth eithriadol o gystadleuol y byd sydd ohoni.
Bydd y cwrs, sy’n derbyn ceisiadau trwy UCAS ar hyn o bryd, yn darparu dealltwriaeth ddigyffelyb o bob agwedd ar gyfraith hedfanaeth, rheolaeth strategol, diogelwch, rheoli awyrennau a’r materion cyflogaeth sy’n ymwneud â’r diwydiant hedfanaeth – gan wella Cymru ymhellach fel cyrchfan ar gyfer astudiaethau Hedfanaeth ac Awyrofod.
Bydd myfyrwyr Met Caerdydd yn elwa ar fodiwlau a lleoliadau a ddatblygwyd ochr yn ochr â staff arbenigol ym Maes Awyr Caerdydd, gan greu cynigion ymchwil ac ymgynghori a grëwyd gan CWL y gall myfyrwyr y cwrs fynd i’r afael â hwy – yn ogystal â mwynhau datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth drwy weithio gydag ystod eang o arbenigwyr hedfanaeth ac awyrofod yn Embry Riddle, sy’n addysgu dros 22,000 o fyfyrwyr ar-lein ar fwy na 110 campws byd-eang.
PDC yn agor Deorfa’r Stiwdio ar gampws Casnewydd
Mae Prifysgol De Cymru wedi agor ei hail ddeorfa graddedigion – Y Stiwdio Dechrau Busnes – ar gampws PDC Casnewydd, sy’n ehangu’n gyflym.
Mae’r cyfleuster newydd hwn yn cynnig gofod gwaith gwych i raddedigion Prifysgol De Cymru sy’n dechrau eu busnesau eu hunain – gan roi llwyfan i gyn-fyfyrwyr arddangos y sgiliau maent wedi’u hennill wrth astudio yn PDC, yn ogystal â darparu amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys rhaglen cymorth busnes bwrpasol, cymorth ag eiddo deallusol, mynediad at ddigwyddiadau rhwydwaith a chymorth arbenigol mewn ystod o feysydd eraill.
Mae PDC eisoes wedi sefydlu un Stiwdio ar ei champws yng Nghaerdydd – yn arbenigo mewn cefnogi graddedigion yn y diwydiannau creadigol (un o bum sector blaenoriaeth P-RC) – ac mae disgwyl i Stiwdio arall agor ar Gampws Trefforest PDC yn ddiweddarach yn yr haf i gefnogi myfyrwyr gwyddoniaeth a pheirianneg sydd eisiau dechrau eu busnes eu hunain.
Hyd yma, mae Stiwdio Dechrau Busnes PDC wedi cefnogi 65 o entrepreneuriaid graddedig – ac mae tri busnes newydd eisoes wedi’u lleoli yn yr hyb, ar ffurf NDT South Wales (cwmni peirianneg profion anninistriol), C Bloc Productions (arbenigwyr fideos cerddoriaeth) a Talking Reality (sy’n gwneud podlediadau sy’n canolbwyntio ar les).
Syniad yr Athro Dylan Jones-Evans, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Menter yn PDC, yw’r rhaglen ddeori ysbrydoledig hon. Mae’n ystyried yr hyb yn gatalydd a hwylusydd ar gyfer cynyddu gweithgarwch entrepreneuraidd ar draws ein rhanbarth – ac mae’n dod ar adeg pan fo Casnewydd yn croesawu entrepreneuriaeth newydd yr Alacrity Foundation, a chyda Tramshed Tech yn hawlio’i le ym marchnad Casnewydd, a adnewyddwyd yn ddiweddar.
Mabwysiadu ‘Pecyn Ysgolion Think Air’ ar gyfer rhaglen allgymorth STEM
Mae Kier Western & Wales wedi ffurfio partneriaeth â busnes technoleg newydd yn ne Cymru, Think Air, gan ddod â rhaglen STEM y grŵp adeiladu i ysgolion ledled De Cymru, i agor llygaid a meddyliau’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr a gwyddonwyr.
Bydd y bartneriaeth newydd yn gweld Kier yn mabwysiadu TASK (Pecyn Ysgolion Think Air) – pecyn ansawdd aer cyntaf y DU a ddyluniwyd ar gyfer plant a phobl ifanc yn eu harddegau – i ddarparu rhaglen STEM oleuedig i ysgolion cynradd ac uwchradd ledled De Cymru, fel rhan o’u cenhadaeth CCC.
Yn dilyn peilot llwyddiannus yn Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd, bydd y rhaglen yn defnyddio TASK i helpu disgyblion o ysgolion enwebedig Kier i feithrin sgiliau STEM trosglwyddadwy, gan hefyd ddatblygu sgiliau llythrennedd digidol gwerthfawr ac agor meddyliau i’r gwahanol swyddi y gall STEM arwain atynt yn ddiweddarach mewn bywyd.
Gan ganolbwyntio ar ddysgu drwy wneud, mae profiadau rhyngweithiol TASK yn helpu i ddatblygu sgiliau STEM tra hefyd yn codi ymwybyddiaeth o lygredd aer a’r amgylchedd – meysydd y mae Kier wedi ymrwymo i yrru newid ynddynt.
Gyda’r dysgu rhyngweithiol hwn wrth ei wraidd, bydd TASK yn helpu Kier i gyflwyno arbrofion ymarferol sy’n datblygu sgiliau codio, ymchwil a dadansoddol sylfaenol – gan annog disgyblion i ddarganfod ffyrdd o wneud ystafelloedd dosbarth, ysgolion ac amgylcheddau’r cartref yn iachach ac yn fwy cynaliadwy, gan ddefnyddio llwyfan sydd wedi’i ddylunio i sicrhau bod gwybodaeth yn drosglwyddadwy i ddysgu uwch a gweithgareddau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
Meithrinfa yn hyrwyddo’r Gymraeg a Phrentisiaethau Dwyieithog
Mae meithrinfa ddydd glodwiw yng ngogledd Caerdydd yn llawn angerdd am ddarparu cyfleoedd dysgu a chefnogaeth sgiliau yn y Gymraeg – i’w staff, plant a rhieni.
Mae gan Si-Lwli yn yr Eglwys Newydd, Meithrinfa’r Flwyddyn Cymru yn 2018, 21 aelod o staff yn gofalu am 105 o blant rhwng chwe mis a phedair oed.
Fel rhan o’i hymrwymiad i’r Gymraeg, mae’r feithrinfa wedi cefnogi hanner ei gweithlu i gyflawni prentisiaethau dwyieithog ar lefelau’n amrywio o 2 i 5, gyda’r cymwysterau City & Guilds yn cael eu darparu gan y darparwr hyfforddiant Educ8 Training o Gaerffili.
Mae un aelod o dîm y feithrinfa wrthi’n gweithio tuag at Brentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant – tra bod tri chydweithiwr yn canolbwyntio ar gyflawni’r cymhwyster craidd Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2.
Mae Si-Lwli wedi cael ei dathlu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (FfHCC) fel pencampwr dwyieithrwydd yn y gweithle – dwy deyrnged werthfawr, gan fod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn arwain datblygiad hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol ar draws ein rhanbarth, tra bod FfHCC yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.
Cydweithrediad gyda diwydiant yn ysbrydoli myfyrwyr o Gymru ar gyfer swyddi Ynni Glân
Mae cwrs newydd sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer marchnad swyddi ynni adnewyddadwy’r dyfodol wedi cael ei lansio gan Goleg Sir Benfro.
Mae dau gwmni ynni gwyrdd byd-eang – EDF Renewables UK a DP Energy – wedi ymuno â darparwr addysg ôl-16 mwyaf y sir i ddylunio rhaglen a fydd yn codi ymwybyddiaeth, trosglwyddo gwybodaeth byd go iawn a llywio teithiau gyrfa i bobl ifanc 16-18 oed.
Bydd y cwrs dwy flynedd – Destination Renewables – yn addysgu dysgwyr am dechnolegau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys tonnau, llanw, solar, gwynt a’r prosesau rheoli prosiect sy’n mynd gyda nhw.
Nod y cydweithrediad cyffrous hwn â diwydiant yw pontio’r bwlch sgiliau, gan arddangos yr ystod amrywiol o yrfaoedd o fewn y sector – a helpu Cymru i gwrdd â’i thargedau sero net – mewn sir sy’n prysur ddod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Sgiliau a Thalent ledled de-ddwyrain Cymru a thu hwnt, ewch i www.venturewales.org/cy/