Y diweddaraf am Sgiliau a Thalent yn ne-ddwyrain Cymru

Categorïau:
Sgiliau

Nid oes arwydd o arafu dros yr haf o ran sgiliau a thalent, gyda lansiad Hyb Seiber Coleg Gwent yng Nglynebwy yn dod â dyfodol digidol i fyfyrwyr lleol … Academi Codio Technoleg Ariannol arloesol yn hyfforddi 30 Datblygwyr i fod yn barod am waith mewn dim ond 10 wythnos … ClwstwrVerse yn dathlu’r dalent orau sy’n siapio dyfodol ein diwydiannau creadigol … Ysgol Gynradd Gwaelod y Garth a Redrow yn lansio Partneriaeth STEM arloesol … a CIPD Cymru yn gwahodd ceisiadau am wobrau 2023 …

 

Hyb Seiber Coleg Gwent yn dod â dyfodol digidol i fyfyrwyr lleol

Mae lansiad Hyb Seiber newydd clodwiw Coleg Gwent ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent yng Nglynebwy am gryfhau enw da diogelwch seiber De-ddwyrain Cymru, sydd eisoes o safon fyd-eang.

Mae’r hyb newydd yn rhan annatod o Cyber College Cymru: cydweithrediad arloesol rhwng nifer o bartneriaid sylfaenol sydd wedi ymrwymo i ddiffinio rhaglen sgiliau seiberddiogelwch o’r radd flaenaf i gefnogi colegau addysg bellach a myfyrwyr yng Nghymru.

Bwriad y rhaglen arloesol yw helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer gyrfa mewn seiberddiogelwch – a mynd i’r afael ag ofnau o ran y bwlch sgiliau lleol – drwy bartneriaeth unigryw sydd wedi gweld Admiral, Fujitsu, Thales a Dŵr Cymru yn buddsoddi mewn cyfleusterau sy’n arwain y sector, gan gynnwys y gallu hanfodol i fyfyrwyr weithio oddi-ar-y-rhwydwaith.

Bydd yr hwb newydd yn darparu profiadau addysgu a dysgu eithriadol, gan roi’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc Glynebwy a’r cyffiniau i fwynhau gyrfaoedd mewn diwydiannau digidol gwerth-uchel – gan ddarparu llwybrau i swyddi sy’n talu’n dda mewn sector sy’n tyfu’n gyflym sy’n cynnig prentisiaeth llawr daear a chyfleoedd graddedig i bobl o bob cefndir.

 

30 Datblygwr yn ‘barod i weithio’ diolch i Academi Codio Technoleg Ariannol 10 wythnos

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cwblhau peilot Sector Skills Academy, a allai fod yn drawsnewidiol, gyda FinTech Wales a’u haelod-bartneriaid, Admiral, Deloitte, Hodge Bank a’r Principality – gan sicrhau canlyniadau eithriadol ar draws dwy raglen hyfforddi llwybr-carlam unigryw a gynlluniwyd i fodloni’r gofynion sgiliau sy’n tyfu’n gyflym yn ecosystem Technoleg Ariannol Cymru.

Mae’r peilot wedi gweld 30 o fyfyrwyr rhwng 21 a 62 oed, sydd â chefndiroedd gyrfa amrywiol, yn dechrau ar Academi Godio 10-wythnos ddwys, wedi’i hariannu’n llawn gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU drwy P-RC – gan gynhyrchu 15 datblygwr ôl-brosesu a 15 datblygwr blaen-brosesu sy’n ‘barod i weithio’, gydag un o’r gweithwyr proffesiynol a hyfforddwyd eisoes wedi sicrhau rôl fel Datblygwr Academi; a llawer mwy yn paratoi ar gyfer cyfweliadau.

Roedd cwricwlwm yr academïau peilot cychwynnol yn canolbwyntio’n benodol ar ddarparu ieithoedd rhaglennu, sgiliau gwasanaeth cwmwl a dulliau rheoli prosiectau i fodloni gofynion lefel-mynediad cymuned cyflogwyr technoleg ariannol Cymru – i gyd wedi’u sefydlu’n arbenigol ar draws y 10 wythnos gan iungo Solutions, The Knowledge Academy, risual Limited a Gaia Ines Fassò.

Mae’r model Sector Skills Academy hwn, gyda throsiant o bedwar mis o genhedliad i gyflawni, yn dangos pa mor ystwyth, ymatebol a chynhwysol y gallwn fod wrth uwchsgilio ein sectorau blaenoriaeth ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – ac yn argoeli’n dda ar gyfer creu piblinellau talent cynaliadwy sy’n llawn pobl o bob oed a chefndir.       

 

ClwstwrVerse yn dathlu talent greadigol o’r radd flaenaf yng Nghymru

Yn nigwyddiad ClwstwrVerse ar 4 Gorffennaf, gwelwyd rhaglen hynod ddiddorol o weithdai rhyngweithiol, demos, sgyrsiau a phrofiadau – gan arddangos yr ystod eang o dalent a sgiliau sy’n siapio dyfodol y cyfryngau, diwylliant a’r celfyddydau ar draws ein rhanbarth.

Roedd y digwyddiad allweddol hwn yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd yn benllanw tair blynedd o Ymchwil a Datblygu arloesol i ddyfodol sector creadigol sydd eisoes wedi dangos y gallu i arwain y byd – gan amlygu talent greadigol mentrau mor amrywiol â BBC MakerBox, Ffilm Cymru Wales, Hijinx Theatre, Painting Practice a Yello Brick.

Roedd y ‘set sgiliau ddatblygiadol’ a welwyd yn cynnwys cynhyrchu rhithwir, yr omni-fydysawd a modelau darparu newyddion y dyfodol – gan gynnig cyfle i gwrdd â’r bobl greadigol y tu ôl i fwy na 100 o brosiectau Clwstwr sy’n gyrru arloesedd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Ers 2019, mae Clwstwr – sy’n rhan o Rhaglen Clystyrau’r Diwydiannau Creadigol ac a ariennir gan y Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol – wedi buddsoddi mewn dros 100 o arloesiadau ar draws ein sectorau sgrin a newyddion, gyda’r uchelgais o dyfu’r dalent a fydd yn cadarnhau lle Cymru fel arweinydd byd-eang ym maes arloesi yn y cyfryngau.

 

Ysgol Gynradd Gwaelod y Garth a Redrow yn lansio Partneriaeth STEM  

Mae Ysgol Gynradd Gwaelod y Garth yng ngogledd Caerdydd wedi lansio partneriaeth arloesol newydd ag adeiladwr tai sydd â’i bencadlys yng Nghymru, Redrow, i feithrin ac annog diddordeb disgyblion mewn pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).

Bydd pob disgybl 4-11 yn rhan o’r gwaith o ddarparu a defnyddio stryd thema-STEM wedi’i lleoli ar dir yr ysgol, gan gynnig llu o gyfleoedd dysgu i bawb sy’n cymryd rhan – gan ddod â phrofiad go iawn o sut mae pynciau STEM yn ymwneud â chynlluniau meistr cymunedau, o gartrefi i strydoedd, ysgolion, siopau a mannau gwyrdd.

Bydd un o’r tri phrosiect a gynlluniwyd ar gyfer y disgyblion wedi’i seilio ar y synhwyrau er mwyn sicrhau bod y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn gallu cymryd rhan lawn hefyd – gan danlinellu’r ffocws enfawr sy’n cael ei roi ar y pynciau STEM sy’n cael eu dysgu mewn ysgol sy’n cynnig addysg gynradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg i 280 o ddisgyblion.

 

Gwobrau CIPD Cymru ar agor ar gyfer 2023

Mae CIPD Cymru, y corff proffesiynol ar gyfer adnoddau dynol a datblygu pobl, wedi cyhoeddi bod y cyfnod ymgeisio bellach ‘ar agor’ ar gyfer ei wobrau blynyddol mawreddog, wrth i’r digwyddiad ddychwelyd wyneb-yn-wyneb ar gyfer 2023.

Mae’r gwobrau’n dathlu’r gorau mewn adnoddau dynol a datblygu pobl ledled Cymru, ar ôl dwy flynedd ddigynsail sydd wedi gweld anghenion gweithwyr a natur gwaith yn newid yn ddramatig.

Bydd y seremoni’n cael ei chynnal yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ddydd Gwener 3 Mawrth, gan gyhoeddi’r enillwyr mewn 12 categori:

  1. Cynllun Prentisiaeth Gorau
  2. Menter Gweithio Hybrid/Hyblyg Orau
  3. Menter Amrywiaeth a Chynhwysiant Orau
  4. Menter Iechyd a Lles Orau
  5. Ymgynghorydd / Ymgynghoriaeth AD Orau
  6. Menter Dysgu a Datblygu / Datblygu Sefydliadol Orau
  7. Tîm Mewnol Gorau
  8. Menter Darparu Adnoddau a Rheoli Talent Orau
  9. Myfyriwr AD Gorau
  10. Seren y Dyfodol y Proffesiwn Pobl
  11. Rhagoriaeth mewn Arweinyddiaeth AD
  12. Cyfraniad Eithriadol ym Maes Datblygu Pobl yng Nghymru

Mae Gwobrau CIPD Cymru yn flaenorol wedi cydnabod rhai o fusnesau a sefydliadau pobl gorau Cymru, gan gynnwys Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Circle IT, Tŷ’r Cwmnïau, Conduit Global, Dŵr Cymru, Target Group ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

 

I weld yr holl straeon diweddaraf am sgiliau a thalent ledled de-ddwyrain Cymru a thu hwnt, ewch i www.venturewales.org/cy/

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Am wythnos ar gyfer Sgiliau a Thalent yn ne-ddwyrain Cymru, gyda Gyrfa Cymru yn mynd i bartneriaeth gydag Age at Work i lunio gweithle sy'n gynhwysol i bobl hŷn .... wyth cyflogwr P-RC yn cael eu hanrhydeddu â statws Aur Gwobr Cydnabyddiaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn….Academi hyfforddi arloesol Persimmon Homes yn sicrhau'r Gwobr Partneriaeth Coleg Pen-y-bont ar Ogwr ... tri chwmni arloesol yn dod i'r amlwg o Academi Haf Cwmnïau Cychwynnol Tramshed Tech ... a chwyldro mewn hyfforddiant ar gyfer gweithwyr meddygol proffesiynol gan CEMET a Goggleminds ...

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.