Y diweddaraf mewn Sgiliau a Thalent ar draws De-ddwyrain Cymru

Categorïau:
Sectorau

Mae’r saith diwrnod diwethaf wedi gweld datblygiadau newydd mawr mewn Sgiliau a Thalent ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – a Chymru gyfan – gyda’r newyddion gwych bod Coleg Caerdydd a’r Fro wedi ymuno â Thechnoleg Ariannol Cymru i greu rhaglen hyfforddi llwybr carlam unigryw a chynhwysol… mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £4.5miliwn o gyllid pellach ar gyfer y Rhaglen Sgiliau Hyblyg… Mae Educ8, sydd wedi’i leoli yng Nghaerffili, wedi dod yn gwmni hyfforddi sy’n eiddo i weithwyr yn ogystal ag un sy’n tyfu’n gyflym iawn… ac mae adroddiad Sut Rydym yn Byw calonogol yn datgelu y byddai 52% o weithwyr Cymru yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i “yrfa werddach”…

Coleg Caerdydd a’r Fro yn Ymuno â Thechnoleg Ariannol Cymru

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro (CCF) wedi ymuno â Thechnoleg Ariannol Cymru a chyflogwyr gwasanaethau ariannol lleol blaenllaw i greu rhaglen hyfforddi llwybr carlam unigryw a gynlluniwyd i ddiwallu’r angen cynyddol am bobl fedrus yn y diwydiant Technoleg Ariannol sy’n ffynnu (un o sectorau blaenoriaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd).

Nod y bartneriaeth arloesol newydd hon rhwng CCF a rhai o’r busnesau mwyaf nodedig ym maes technoleg ariannol yn Ne-ddwyrain Cymru yw datblygu’r rhaglenni arloesol a fydd yn datblygu sgiliau, yn gwella sgiliau neu’n ail-sgilio graddedigion uchelgeisiol neu bobl sydd ag angerdd dros TG a chodio – drwy raglenni carlam am ddim sy’n cynnwys lwfans hyfforddi o £150 yr wythnos i bob mynychwr, ynghyd ag ymrwymiad gan Admiral, Deloitte, Banc Hodge a’r Principality i gyfweld â phawb sy’n cwblhau’r modiwlau gofynnol ar gyfer rolau technoleg ariannol yn eu cwmni.

Mae’r rhaglenni hyfforddi yn cynnwys technoleg ariannol ar gyfer datblygwyr pen blaen neu gefn (gan ddarparu gwybodaeth arbenigol mewn amrywiaeth o ieithoedd rhaglennu, gwasanaethau cwmwl a rheoli prosiectau) a Diwydiant 4.0, sy’n rhoi sgiliau peirianneg meddalwedd a datblygu gwe i gyfranogwyr sy’n cael eu cydnabod a’u gwobrwyo’n fawr gan sefydliadau meddalwedd, peirianneg a gweithgynhyrchu diwydiannol.

Mae’r rhaglenni hyfforddi gwerthfawr hyn yn rhan o’r Academi Codio hynod lwyddiannus yn CCF ac yn addas ar gyfer pobl â llawer o wahanol gefndiroedd a phrofiadau – o rywun a adawodd yr ysgol sawl blwyddyn yn ôl ac sydd wedi cael sawl swydd ers hynny, i bobl sy’n awyddus i feithrin eu hyder a ‘dechrau eto’ ar ôl seibiant gyrfa estynedig; i raddedigion diweddar sydd am ddod o hyd i’r swydd iawn mewn sector sy’n addo dyfodol gwych.

 

Llywodraeth Cymru yn Cyhoeddi £4.5m o Gyllid Sgiliau Hyblyg Pellach

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru estyniad tair blynedd gwerth £4.5 miliwn i’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg – yr ymyriadau sgiliau wedi’u targedu a lansiwyd yn wreiddiol yn 2015 i weithio ochr yn ochr â rhaglenni presennol, gan gefnogi prosiectau busnes penodol sydd â’r potensial i greu gweithlu Cymreig sy’n barod i fanteisio ar gyfleoedd economaidd yn y dyfodol.

Mae’r rhaglen yn helpu gweithwyr i ddatblygu sgiliau mwy technegol a throsglwyddadwy, gan gefnogi’r uchelgais i leihau tlodi mewn gwaith drwy wella setiau sgiliau’r gweithlu presennol – un o gonglfeini Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau Llywodraeth Cymru.

Mae’r rhaglen yn gweithredu ar sail cyd-fuddsoddiad, sy’n golygu bod yn rhaid i gyflogwyr roi arian cyfatebol i gymorth Llywodraeth Cymru – gan gynhyrchu cyfanswm buddsoddiad o £9 miliwn i economi dalent Cymru a helpu i ddiogelu’r llif o dalent at y dyfodol ar draws llawer o wahanol fusnesau.

Mae’r cyllid Cymru gyfan hwn yn agored i bob cyflogwr, ar draws dwy ffrwd:

  • Y Ffrwd Datblygu Busnes sy’n cefnogi prosiectau sylweddol a arweinir gan gyflogwyr gan ganolbwyntio ar wella sgiliau’r gweithlu – fel y sgiliau gwyrdd newydd sydd eu hangen yn y ras i gyrraedd sero net.
  • Y Ffrwd Prosiectau Partneriaeth sy’n anelu at sbarduno economi sgiliau ehangach Cymru drwy alluogi grwpiau o gyflogwyr – neu gyrff cynrychioliadol – i oresgyn her sgiliau neu ddatblygu sgiliau newydd sydd eu hangen i lywio datblygiad economaidd yn y dyfodol.

Roedd y Prosiectau Partneriaeth a gymeradwywyd y llynedd yn cynnwys rhaglenni yn y diwydiannau Creadigol, Digidol, Peirianneg, Allforio, Lletygarwch, Twristiaeth a Gweithgynhyrchu – tyst i’r potensial ar gyfer datblygu sgiliau ar draws sectorau economaidd amrywiol ein rhanbarth a Chymru gyfan.

 

Gweithwyr yn Berchen ar Gyfran Fwyafrifol o Gwmni Hyfforddi o Gaerffili

Mae gweithwyr o Grŵp Hyfforddi Educ8 o Gaerffili wedi dod yn gyfranddalwyr mwyafrifol y busnes – gyda’r cwmni’n cyhoeddi ei fod wedi llwyddo i gwblhau cynllun Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr, sy’n rhan o raglen gan Lywodraeth Cymru i annog creu cyfoeth mewn cymunedau.

Erbyn hyn, gweithwyr Educ8 yw’r cyfranddalwyr mwyafrifol ac maent yn berchen ar 51% o’r busnes ar y cyd – gan greu strwythur sy’n grymuso cyflogeion ac sydd o fudd i’r fenter yn ei chyfanrwydd, mewn cwmni sy’n seiliedig ar werthoedd sydd wedi meithrin enw da am roi gweithwyr a’r gymuned wrth wraidd y busnes.

Mae gan Educ8 lwyddiant blaenorol o ymgysylltu â gweithwyr, ar ôl cael ei enwi’r Cwmni Maint Canolig Gorau i weithio iddo yn y DU, yn Arolwg Cwmnïau Gorau 2021.

Wedi’i sefydlu yn 2004 i fynd i’r afael â phrinder sgiliau ledled Cymru, mae Educ8 yn cyflogi dros 200 o bobl ac mae bellach yn brif ddarparwr rhaglenni prentisiaeth a hyfforddiant – ac mae ei bedwerydd caffaeliad yn ddiweddar wedi ehangu ei weithgareddau i Loegr.

Daw’r cyhoeddiad ynghylch yr Ymddiriedolaeth Perchenogaeth Gweithwyr wrth i Lywodraeth Cymru addo rhoi £366m i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed yn ystod y tair blynedd nesaf – gan gynnwys cymhellion cyflogwyr mawr i recriwtio drwy brentisiaethau – gan wneud gwaith tîm Educ8 hyd yn oed yn bwysicach i ddysgwyr a chyflogwyr ein rhanbarth.

 

Byddai 52% o weithwyr Cymru yn ystyried gyrfa Werddach

Byddai mwy na hanner (52%) o weithwyr Cymru yn ystyried newid eu rôl bresennol am “yrfa werddach”, yn ôl astudiaeth newydd.

Yn ôl adroddiad diweddaraf Aviva ynghylch Sut Rydym yn Byw, byddai un o bob pump o weithwyr Cymru (20%) yn ystyried cymryd cyflog is pe bai ganddynt yr opsiwn o weithio hybrid, tra byddai traean (34%) yn gwneud yr un peth pe baent yn gallu dewis oriau gweithio’n hyblyg.

Byddai cyfanswm o 60% o weithwyr Cymru yn ystyried cymryd toriad mewn buddion a thaliadau cydnabyddiaeth pe bai rôl newydd yn cynnig manteision ‘gwyrddach’; a byddai tua un o bob chwech o weithwyr yng Nghymru (16%) yn barod i gymryd toriad cyflog pe baent yn mynd i weithio i elusen neu sefydliad dielw (gyda 14% yn barod i wneud hynny pe bai gan y cwmni gymwysterau amgylcheddol cryf).

Roedd y teimladau hyn ar eu huchaf ymhlith pobl dan 25 oed – ac mae’r ‘agwedd werddach’ yn fwy cyffredin mewn rhai sectorau nag eraill, gyda gweithwyr ym maes Cyllid ac Adeiladu/Peirianneg ymhlith y rhai sydd fwyaf tebygol o fod â safbwyntiau gwyrdd cryf (70% ohonynt yn y ddau achos).

Mae adroddiad Sut Rydym yn Byw hefyd yn cadarnhau bod cyflogwyr yn mynd yn wyrddach – gyda thri chwarter o weithwyr Cymru (75%) yn dweud bod eu cyflogwr wedi gwneud newidiadau i wella ei effaith amgylcheddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, er bod pedair rhan o bump o bobl y grŵp hwn yn teimlo bod “mwy i’w wneud o hyd”.

Mae tua un o bob pump (19%) o weithwyr Cymru yn dweud eu bod eisoes yn cymryd rhan mewn mentrau i wneud eu cyflogwr yn fwy ecogyfeillgar – o ailddefnyddio cwpanau a chyfyngu ar deithio diangen, i ddefnyddio cynlluniau prydlesu cerbydau trydan – tra hoffai 52% o weithwyr yn ychwanegol ymwneud yn fwy yn y maes hwn.

Gyda ‘Chynaliadwyedd’ yn un o bileri allweddol cenhadaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae adroddiad Aviva yn newyddion i’w croesawu bod y pwnc hollbwysig hwn ar y radar i fusnesau mawr a bach – a thystiolaeth gadarnhaol bod llawer o bobl yn ein rhanbarth yn dod ag agwedd werdd i’w harferion gwaith yn ogystal â’u bywydau personol.

I gael rhagor o ddiweddariadau a gwybodaeth am Sgiliau a Thalent ar draws De-ddwyrain Cymru, ewch i www.venturewales.org/cy/

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Ganol mis Ebrill lansiwyd rhaglenni sgiliau a swyddi newydd mawr - dadorchuddiodd CIPD Wales ei ymgyrch arloesol Hidden In Plain Sight i helpu miloedd o bobl ddifreintiedig i gael gwaith, addawodd Llywodraeth Cymru £13 miliwn i undebau llafur i roi cymorth dysgu ac uwchsgilio a chyflwynodd Daikin a Robert Price gwrs hyfforddi sgiliau undydd arloesol ar y gosodiadau pwmp gwres sy'n helpu i yrru ein chwyldro gwresogi gwyrdd.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.