Ganol mis Ebrill lansiwyd rhaglenni sgiliau a swyddi newydd mawr – dadorchuddiodd CIPD Wales ei ymgyrch arloesol Hidden In Plain Sight i helpu miloedd o bobl ddifreintiedig i gael gwaith, addawodd Llywodraeth Cymru £13 miliwn i undebau llafur i roi cymorth dysgu ac uwchsgilio a chyflwynodd Daikin a Robert Price gwrs hyfforddi sgiliau undydd arloesol ar y gosodiadau pwmp gwres sy’n helpu i yrru ein chwyldro gwresogi gwyrdd.
Yn ystod y pythefnos diwethaf hefyd cafwyd ffrwydriad o rolau newydd yn sector gofod gwerth uchel Cymru … ond mae newyddion pryderus o ran y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau, gyda’r cynnydd mewn chwyddiant o bosib yn lledu’r bwlch cyflog rhwng dynion a menywod …
CIPD yn manteisio ar gronfeydd talent gudd Cymru
Mae ffigurau di-waith Cymru ar hyn o bryd ar y lefel isaf erioed sef 3.1% ac mae bron pob sector yn nodi prinder staff wrth i’r wlad ddod allan o’r pandemig felly mae CIPD Wales wedi lansio ymgyrch, y cyntaf o’i math, er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r prinder talent – gan geisio paru miloedd o geiswyr gwaith posibl â busnesau ledled ein rhanbarth.
Nod yr ymgyrch Hidden in Plain Sight yw annog pobl i gael gwaith neu fynd yn ôl i’r gwaith – gan gydgysylltu’n uniongyrchol â sefydliadau ar draws ystod o sectorau a helpu i gefnogi miloedd o bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i gael gwaith.
Mae’r grwpiau targed yn cynnwys pobl ifanc 18-24 oed, pobl sydd â phrofiad o weithio ym maes gofalu neu ddiddordeb gwneud hynny, cyn-droseddwyr, y rheiny sydd wedi’u hallgáu’n gymdeithasol, pobl sydd wedi profi digartrefedd – ac unigolion fel cyn-weithwyr y lluoedd arfog a gweithwyr chwaraeon elitaidd proffesiynol, y mae eu gyrfaoedd cyntaf wedi dod i ben yn gynnar.
Ar hyn o bryd mae llai o gymorth hygyrch ar gael i’r grwpiau hyn – a bydd Hidden in Plain Sight yn cynnig yr hyfforddiant a’r mentora sydd eu hangen i helpu efallai filoedd o bobl yn uniongyrchol i gael gwaith cynaliadwy; gan ymgynghori â busnesau ledled Cymru i nodi’r galluoedd, y priodoleddau a’r sgiliau y maent yn chwilio amdanynt – gan deilwra’r hyfforddiant drwy raglen sy’n cyd-fynd â Chynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau Llywodraeth Cymru a lansiwyd yn ddiweddar.
Cynhelir cyfres o sioeau teithiol yn ddiweddarach yn y flwyddyn ledled y wlad i gynnig cyfleoedd yn uniongyrchol i unigolion – gyda’r 6,000 o bobl sy’n aelodau o CIPD Wales yn chwarae rhan allweddol yn fentoriaid, yn ddarparwyr profiad gwaith neu’n gyflogwyr.
Cwrs hyfforddi yn ne Cymru i yrru’r chwyldro gwresogi gwyrdd
Mae cynllun hyfforddi hyblyg am ddim i bobl sydd â diddordeb mewn gyrfa yn gweithio gyda phympiau gwres ac atebion gwresogi carbon isel ar gael ar gyfer hyd at 200 o ddarpar osodwyr yn Ne Cymru.
Mae Daikin, gwneuthurwr pympiau gwres o’r radd flaenaf, wedi dod ynghyd â Choleg Gwent a’r darparwr hyfforddiant arbenigol GN Group, i gynnig cwrs hyfforddi un dydd Daikin ar Osod Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer.
Mae’r cwrs yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Cartrefi Cynaliadwy Robert Price yng Nghasnewydd; ac mae’n agored i unrhyw un sy’n 19 oed ac yn hŷn, sy’n gyflogedig, sy’n byw yng Nghymru ac sy’n ennill llai na £29,534 y flwyddyn – ac mae’n ddelfrydol ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb brwd mewn gwresogi carbon isel, gan gynnwys peirianwyr gwresogi a masnachwyr sy’n gyfarwydd â gosodiadau gwresogi.
Gall ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer y cwrs ddechrau cyn gynted ag y byddant yn barod, gyda chyrsiau undydd dwys yn rhedeg tan ddiwedd mis Gorffennaf – gan gwmpasu hanfodion gosod pympiau gwres, gofynion a gweithdrefnau’r system, dod i gysylltiad â senarios gwaith ymarferol i ddod â’r cyfan yn fyw, ynghyd â sesiynau holi ac ateb rhyngweithiol gyda’r hyfforddwr.
Mae’r hyfforddiant yn rhan o fenter Cyfrif Dysgu Personol Llywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl ddilyn cyrsiau rhan amser am ddim gyda dysgu hyblyg a chyfleus sy’n gweddu i’w ffordd o fyw – a gellir cofrestru ar gyfer y cwrs ar-lein nawr drwy Goleg Gwent.
Daw’r newyddion am y fenter hyfforddi newydd gyffrous hon yn sgîl Cynllun Uwchraddio Boeleri Llywodraeth y DU a chael gwared ar TAW ar bympiau gwres – mae’n debygol y bydd y ddau beth hyn yn cynyddu’r galw am y dechnoleg.
Nifer y Swyddi Gofod yng Nghymru’n fwy na dyblu
Mae swyddi gofod yng Nghymru wedi mwy na dyblu yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, yn ôl ffigurau newydd a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan Asiantaeth Ofod y DU.
Gyda lloeren a adeiladwyd yng Nghymru ar fin mynd i’r awyr yn ddiweddarach eleni yn rhan o lansiad lloeren fach cyntaf erioed y DU, mae ffigurau newydd yn dangos bod 694 o swyddi newydd yn sector gofod Cymru i greu cyfanswm o 1,109 o rolau medrus sy’n talu’n dda yn y gymuned dalent werthfawr a chynaliadwy hon yng Nghymru.
Mae codi’r gwastad yn y sector gofod yn flaenoriaeth allweddol i Asiantaeth Ofod y DU ac erbyn hyn mae 1,293 o sefydliadau gofod ledled y DU, gyda meysydd rocedi newydd yng Nghymru yn debygol o greu mwy o swyddi yn y blynyddoedd i ddod, ochr yn ochr â thwf clystyrau gofod rhanbarthol.
Er gwaethaf effaith fyd-eang y pandemig, mae cyflogaeth ar draws sector gofod ehangach y DU wedi cyrraedd 46,995 (cynnydd o 6.7%) a chynyddodd incwm cyffredinol y sector i £16.5 biliwn – gyda gweithgynhyrchu gofod (sy’n cynnwys lloerennau, llongau gofod, cerbydau lansio ac offerynnau gwyddonol) yn cynyddu £23 miliwn i £2.27 biliwn.
£13 miliwn i undebau llafur roi cymorth dysgu ac uwchsgilio
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo £13 miliwn i undebau llafur gynnig atebion sgiliau a chymorth dysgu i weithwyr dros y tair blynedd nesaf.
Mae Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (CDdUC) a rhaglenni addysg undebau llafur TUC Cymru yn helpu undebau llafur yng Nghymru i ddatblygu sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd ymhlith y gweithlu, gyda phwyslais arbennig ar ddileu rhwystrau i’r rheiny nad ydynt yn ddysgwyr traddodiadol.
Bydd cam nesaf y rhaglen yn adeiladu ar yr hyblygrwydd a’r arloesedd a ddangoswyd gan y rhaglen yn ystod y pandemig, pan oedd yn canolbwyntio ar helpu gweithwyr a gafodd eu hadleoli a’u rhoi ar ffyrlo ac a gollodd eu swyddi – gyda cham newydd rhaglen CDdUC yn cynnwys rhoi arian i 18 undeb er mwyn iddynt gynnal ystod o weithgareddau sy’n uwchsgilio unigolion ac yn datblygu eu dyheadau gyrfaol.
Gallai chwyddiant cynyddol ehangu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y DU
Mae astudiaeth newydd wedi datgelu bod menywod (14%) yn llai tebygol na dynion (22%) o fod wedi cael codiad cyflog yn unol â chyfradd chwyddiant neu’n uwch na hynny.
Mae’r adroddiad gan CIPHR hefyd yn awgrymu bod cyfran uwch o fenywod yn cael codiad cyflog is o’u cymharu â’u cydweithwyr gwrywaidd – gyda dwy ran o bump (40%) o fenywod yn dweud bod eu codiad cyflog yn is na chwyddiant, o’i gymharu â thraean (32%) o’r dynion sydd wedi cael codiad cyflog.
Gan nad oes disgwyl i gydnabyddiaeth ariannol gadw i fyny â chwyddiant eleni neu’r flwyddyn nesaf, mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu y gallai’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y DU dyfu.
Gyda’r dyddiad cau ar y gorwel ar gyfer adroddiad Llywodraeth y DU ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer 2021-22, bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn datgelu’n fuan y cynnydd sy’n cael ei wneud gan gyflogwyr mwyaf y DU (y rheiny â 250 o weithwyr neu fwy) o ran lleihau anghydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau yn y wlad; gyda’r ffigurau diweddaraf yn nodi bod menywod, ar gyfartaledd, yn ennill 85c am bob punt a enillir gan ddyn.
Mae’r ystadegau diweddaraf hynny’n nodi bod dros dri chwarter (77%) o sefydliadau yn talu mwy i’w gweithwyr gwrywaidd nag i’w gweithwyr benywaidd, gyda dim ond un o bob saith (13.4%) yn talu mwy i fenywod nag i ddynion – a dim ond un o bob 10 sefydliad (9.6%) yn dweud nad oes ganddynt fwlch cyflog.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar Sgiliau a Thalent ledled De-ddwyrain Cymru a thu hwnt, ewch i https://www.venturewales.org/cy/
Mae’r wythnos ddiwethaf hon wedi bod i fyny ac i lawr ym myd sgiliau a thalent yn PRC, yn y diweddariad yr wythnos hon rydym yn trafod:
- CIPD yn manteisio ar gronfeydd talent gudd Cymru
- Cwrs hyfforddi yn ne Cymru i yrru’r chwyldro gwresogi gwyrdd
- Nifer y Swyddi Gofod yng Nghymru’n fwy na dyblu
- £13 miliwn i undebau llafur roi cymorth dysgu ac uwchsgilio
- Gallai chwyddiant cynyddol ehangu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y DU
Mwy yma: https://www.cardiffcapitalregion.wales/news-events/latest-news/the-latest-in-skills-talent-across-southeast-wales-12-2/
Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF)
Rhaglenni addysg undebau llafur TUC Cymru
Asiantaeth Ofod y DU
Cwrs hyfforddi Gosod Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer Daikin
Canolfan Cartrefi Cynaliadwy Robert Price
Ymgyrch Hidden in Plain Sight
Mae’r wythnos ddiwethaf hon wedi bod i fyny ac i lawr ym myd sgiliau a thalent yn PRC, gan gynnwys:
- Cronfeydd talent gudd Cymru
- Cyrsiau hyfforddi ar chwyldro gwresogi gwyrdd
- Nifer y Swyddi Gofod yng Nghymru yn cynyddu
- £13m i Undebau Llafur roi cymorth dysgu ac uwchsgilio
- Gallai chwyddiant cynyddol ehangu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y DU