Yng nghanol mis Mai cafwyd cymysgedd helaeth o benawdau o fentrau sgiliau mewn llawer o sectorau gwahanol, gyda’r adroddiad diweddaraf am y Sector Technoleg Ariannol yn datgelu cynnydd aruthrol mewn niferoedd swyddi, yn ogystal â rhybudd bod prinder talent byd-eang ar y gorwel – felly roedd yn dda gweld lansiad Gwobrau STEM Cymru ar gyfer 2022, gan ddathlu’r sgiliau technoleg aruthrol sydd gennym yn ein rhanbarth, yn ogystal â Coadec a Tramshed Tech yn dod at ei gilydd i wella ein tirwedd busnesau technoleg newydd.
Y tu hwnt i hynny, mae hefyd yn wych gweld agenda Cynaliadwyedd Prifddinas-ranbarth Caerdydd yn cael ei chryfhau trwy ddechrau Hyfforddiant Rheoli Gwastraff Cambrian yn Ne Cymru – a Heddlu De Cymru yn datblygu Arweinwyr y Dyfodol, yn y ffordd fwyaf dychmygus a throchol …
Twf enfawr o ran swyddi yn y Sector Technoleg Ariannol – gyda phrinder talent ledled y byd
Cafwyd cynnydd eithriadol o fwy na 182% yn nifer y swyddi technegol yn sector technoleg ariannol y byd ar gyfer chwarter cyntaf 2022 – gyda’r wyth prif ‘mega-hyb’ technoleg ariannol yn cyfrif am dros 90% o’r holl swyddi technoleg ariannol newydd a hysbysebir ledled y byd.
Mae’r canfyddiadau o Adroddiad Talent Technoleg Ariannol Byd-eang Robert Walters yn tynnu sylw at sut mae technoleg ariannol – sy’n sector blaenoriaeth i Brifddinas-ranbarth Caerdydd – yn un o’r diwydiannau ôl-bandemig sy’n tyfu gyflymaf, gan berfformio’n well na’r farchnad ehangach gan dros 300%.
Yn ôl adroddiad yr wythnos diwethaf, bydd y sector yn wynebu rhwystrau mawr eleni wrth i brinder talent acíwt ledled y byd gydio – gyda chrynodiad parhaus o dalent yn yr wyth gwlad sy’n cael eu cydnabod am eu hecosystemau technoleg ariannol: Awstralia, Tsieina, Japan, yr Iseldiroedd, Singapôr, Sbaen, y DU ac UDA.
Mae’r adroddiad yn nodi Peirianneg Meddalwedd a Datblygu Meddalwedd fel y rolau y mae’r galw mwyaf amdanynt ym maes technoleg ariannol ledled y byd, gan gyfrif am draean o’r holl swyddi a hysbysebir ym maes technoleg ariannol – gyda San Francisco (+40%), Efrog Newydd (+33%) a Singapôr (+33%) i gyd yn recriwtio datblygwyr ên masse. Ar yr un pryd, mae tuedd ehangach yn dod i’r amlwg ar gyfer sgiliau a all greu technoleg ariannol-fel-gwasanaeth, llwyfannau cwmwl hybrid, cyllid wedi’i wreiddio a gwell brofiad i gwsmeriaid.
Mae’n ymddangos bod y sector hefyd ar ei hôl hi o ran amrywiaeth – gyda menywod yn cyfrif am lai na chwarter o’r dalent dechnoleg ariannol ledled y byd, mewn cyferbyniad llwyr â’r nifer gynyddol o fenywod mewn gwasanaethau technoleg ac ariannol – mae menywod yn cyfrif am fwy na thraean o’r boblogaeth sy’n gweithio yn y sectorau hynny. Ymddengys mai gan sector technoleg ariannol San Francisco y timau mwyaf amrywiol o ran rhywedd, gyda 28% o’r gweithwyr yn fenywod – mae’r DU yn y 6ed safle gyda 22%.
Lansio Gwobrau STEM Cymru ar gyfer 2022
Gyda phrinder sgiliau ym maes technoleg ariannol – ac ym maes technoleg yn gyffredinol – yn y newyddion bron trwy’r amser, mae’n galonogol gweld lansiad Gwobrau STEM Cymru ar gyfer 2022, i dynnu sylw at bwysigrwydd STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg) i Gymru a’r byd.
Yn dilyn llwyddiant y gwobrau cyntaf, bydd digwyddiad 2022 yn tynnu sylw at y sefydliadau a’r unigolion sy’n gwneud gwahaniaeth i’r agenda STEM yng Nghymru – gyda’r seremoni’n cael ei chynnal ar 28 Hydref yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9 Medi, ar gyfer pedwar categori ar ddeg sy’n dathlu’r ffigyrau allweddol sy’n arwain y sector yng Nghymru, y busnesau arloesol sy’n effeithio’n gadarnhaol ar economi Cymru, yr arloeswyr sy’n mynd i’r afael â’r bwlch yn amrywiaeth STEM – a’r arweinwyr meddwl sy’n ysbrydoli ac yn codi dyheadau’r genhedlaeth nesaf.
Yn seremoni wobrwyo’r llynedd, enillodd CGI IT UK wobr Cwmni STEM y Flwyddyn (251+ o weithwyr), enillodd Louise O’Shea o Confused.com wobr Arweinydd STEM y Flwyddyn a chydnabuwyd Hazel Thorpe o’r Sefydliad Eiddo Deallusol fel Menyw STEM y Flwyddyn.
Coadec a Tramshed Tech i wella tirwedd Busnesau Technegol Newydd yng Nghymru
Mae’r Gynghrair dros Economi Ddigidol (Coadec), sy’n sefydliad polisi annibynnol sy’n cefnogi busnesau newydd a rhai sy’n ehangu ledled y DU, wedi dechrau canolbwyntio ar ranbarthau’n ddiweddar ac wedi troi eu sylw at Gymru – gan uno â Tramshed Tech i ymgymryd â phrosiect ymchwil 5 mis i ecosystem dechnoleg Cymru, gan amlinellu sut y gall llunwyr polisi lleol wella’r amgylchedd ar gyfer busnesau technegol newydd a rhai sy’n ehangu yn ein rhanbarth.
Bydd Coadec yn manteisio ar gymuned Tramshed Tech o fusnesau newydd a busnesau sy’n ehangu er mwyn deall yn well yr heriau sy’n wynebu’r ecosystem dechnoleg yng Nghymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar fynediad i dalent, ynghyd â mynediad i gyllid a chreu prosesau rheoleiddio technoleg sy’n hwyluso twf, dan y brand newydd, COADEC CYMRU.
Mae Tramshed Tech yn chwarae rhan strategol yn sector technoleg Cymru fel aelodau sefydlu UK Tech Cluster Group, Tech Wales Advocates a Tech Spark Wales – ac mae Coadec wedi sefydlu Cronfa’r Dyfodol yn llwyddiannus ac wedi ehangu’r Fisa Talent Eithriadol Haen 1.
Cambrian yn ehangu Hyfforddiant Rheoli Gwastraff i Dde Cymru
O ystyried bod cynaliadwyedd yn sbardun mor allweddol i genhadaeth Prifddinas-ranbarth Caerdydd, croesawyd y newyddion bod Cwmni Hyfforddiant Cambrian sydd wedi ennill sawl gwobr yn ehangu ei dîm rheoli adnoddau cynaliadwy i gynnwys Cymru gyfan.
Mae’r cwmni eisoes yn darparu prentisiaethau ar gyfer cwmnïau rheoli gwastraff ar draws Gogledd, Canolbarth a Gorllewin Cymru – ac mae bellach yn dod â’i gynnig hyfforddiant i gwmnïau, cynghorau a mentrau eraill sy’n ymwneud â rheoli gwastraff ac ailgylchu ar draws ein rhanbarth.
Cyflwynir cymwysterau rheoli gwastraff y darparwr hyfforddiant arbenigol trwy’r corff dyfarnu WAMITAB, sy’n galluogi sefydliadau i uwchsgilio eu gweithluoedd ym maes rheoli adnoddau’n gynaliadwy – un o lwybrau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau sy’n addysgu pobl am effaith ailgylchu a chynaliadwyedd ar yr amgylchedd.
Mae Cambrian yn cefnogi llawer o ddysgwyr nad oeddent yn gwneud cynnydd da yn yr ysgol ac sydd ag anghenion dysgu ychwanegol – gan roi cymorth un i un sy’n addasu’r dysgu i anghenion unigol y dysgwr a’r cyflogwr.
Heddlu De Cymru yn buddsoddi mewn hyfforddiant arloesol i Arweinwyr y Dyfodol
Mae Heddlu De Cymru yn gweithio gyda chwmni hyfforddiant o Gymru, Call of the Wild, ar gyfres o gyrsiau hyfforddiant arloesol ar-lein ac wyneb yn wyneb, fel rhan o’i fuddsoddiad mewn datblygu uwch reolwyr ac arweinwyr y dyfodol.
Mae’r heddlu eisoes wedi rhoi nifer o’i arweinwyr mwyaf addawol trwy raglen hyfforddiant helaeth gyda’r cwmni hyfforddiant o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – ar gwrs saith modiwl a ddyluniwyd i wella sgiliau arwain, meithrin tîm a rheoli pobl, yn ogystal â thrafod strategaethau i wella gwydnwch meddyliol mewn sefyllfaoedd heriol.
Mae hyfforddiant Call of the Wild wedi’i wreiddio erioed yn nhirwedd odidog Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ond roedd y cwmni’n gyflym i addasu ei gynnig pan gyflwynwyd y cyfnod clo ym mis Mawrth 2020.
Trwy addasu’n ddychmygus i amgylchedd hyfforddiant ar-lein, mae’r busnes wedi datblygu ffyrdd newydd ac unigryw o gyflwyno cyrsiau i sicrhau eu bod yn parhau’n brofiad trochol a heriol – hyd yn oed wrth iddynt gael eu cwblhau’n rhithwir.
Mae’r cwmni’n parhau i ddefnyddio’r dirwedd a’r ddaearyddiaeth anhygoel o amgylch ei bencadlys trwy ddod â’i weithgareddau awyr agored i’r sgrin – gan ffilmio senarios amrywiol a galluogi cyfranogwyr i benderfynu ar wahanol ganlyniadau.
Er enghraifft, mae un sesiwn hyfforddiant rithwir, o’r enw ‘Y Tu Ôl i Linellau’r Gelyn’, yn defnyddio fideos o nodweddion daearyddol go iawn a’r heriau ffisegol a grëir ganddynt – gan gynnwys afonydd, dyfroedd gwyllt, ogofâu a chlogwyni – i gynnig i gyfranogwyr ymarferion ar sail senarios sy’n efelychu’r profiad o fod yn anialwch byd-enwog Canolbarth Cymru.
Trwy’r byd rhithwir hwn, mae angen i gyfranogwyr weithio fel tîm i deithio ar draws y dirwedd wyllt tra’n cwblhau heriau hefyd – fel arwain tîm sy’n chwilio am awyren a saethwyd i lawr, gyda’r dasg o ddod o hyd i’r peilot a’i achub o’r mynyddoedd cyn gynted â phosibl.
Mae’r rhaglen hyfforddiant ysbrydoledig hon wedi galluogi Heddlu De Cymru i fuddsoddi mewn datblygu gweithwyr heb dreulio gormod o amser yn teithio i leoliad hyfforddiant ac oddi yno – ac wedi sicrhau canlyniadau mesuradwy sy’n cyflawni’r enillion a ddymunir ar y buddsoddiad.
I gael rhagor o ddiweddariadau a newyddion am Sgiliau a Thalent yn ne-ddwyrain Cymru (a’r tu hwnt), ewch i www.venturewales.org/cy/