Mae NearMeNow – sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy’n arbenigwyr ym maes y Stryd Fawr Ddigidol ac Ecosystemau Trefi Clyfar – yn trawsnewid y stryd fawr a’r gymuned ehangach yma yng Nghymru.

Sefydlwyd NearMeNow yn 2015, yn ffrwyth syniad y sylfaenydd a’r Prif Swyddog Gweithredol Victoria Mann: arloeswr ym myd technoleg a greodd fenter chwyldroadol yn seiliedig ar nifer o fewnwelediadau gwahanol, pob un wedi’u cywain yn ystod taith bersonol Vicky wrth iddi fwynhau gyrfa gynnar ym maes gwyddor data a dadansoddi busnes ac fel athrawes Mathemateg yn helpu i wireddu potensial pobl a chymunedau’r Cymoedd.
Mae’r cyfuniad hwnnw o fedrusrwydd technegol ac empathi tuag at bobl wedi rhoi persbectif eang a phellgyrhaeddol i Vicky, ynghyd â gweledigaeth ysbrydoledig i rymuso a galluogi busnesau annibynnol, awdurdodau lleol a chymunedau cyfan i ffynnu – drwy lwyfan arloesol VZTA sydd wrthi’n ffurfio Ecosystemau Trefi Clyfar yn Ne Cymru a thu hwnt.
Gyda’r llywodraeth a chynghorau yn ymddiried yn eu gwaith, mae NearMeNow – sy’n gweithio’n gynhwysol gydag ystod eang o bartneriaid – eisoes wedi ennill gwobr Busnes Newydd y Flwyddyn ac yn ystod y 12 mis diwethaf mae Vicky wedi ennill gwobr Arweinydd Technoleg Gorau Gwobrau Technoleg Cymru 2022, yn ogystal â chael ei chynnwys yn y CEO Monthly fel y Prif Swyddog Gweithredol Mwyaf Dylanwadol, 2022.
Cawsom sgwrs gyda’r entrepreneur ysbrydoledig i ddarganfod mwy am ei phrofiad – a’r weledigaeth sydd ganddi er mwyn grymuso pobl a sefydliadau i ddatblygu’r ardaloedd y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt …

Llwybr o arloesi ysbrydoledig
“Fel unrhyw un arall ym myd busnes, mae fy mlynyddoedd ffurfiannol wedi cael dylanwad ar fy agwedd i tuag at fywyd a’r byd” meddai Vicky.
“Cefais fy magu mewn teulu clos a chariadus ym Mhontypridd a chafodd fy mlynyddoedd cynnar eu ffurfio gan bobl a ddysgodd i mi fod unrhyw beth yn bosibl mewn bywyd – ond mai bod yn gadarn a chredu mewn pobl oedd y rhinweddau pwysicaf. Ac mae’r gwerthoedd hynny wedi bod yn arweiniad gwerthfawr i mi ar fy nhaith hyd yn hyn.”
“Fe es i fymryn yn groes i’r graen i’r hyn oedd yn arferol i ’nghenhedlaeth i, drwy ddod yn un o’r ychydig fenywod sy’n gweithio ym maes gwyddor data, yn mwynhau rolau hynod ddiddorol fel Dadansoddwr Gwybodaeth Rheoli gyda NPI yng Nghaerdydd, cyn dod yn Ddadansoddwr Risg a Phrisio gyda GMAC UK yn Nantgarw. Dysgais lawer iawn amdanaf i fy hun a photensial data yn ein bywydau, gan symud i fod yn Ddadansoddwr Portffolio gyda Picture Financial Group yng Nghasnewydd, ac yn Uwch Ddadansoddwr Risg gyda Buy Per View ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
“Mewn sector ariannol anwadal, ffortiwn gymysg a ddaeth i ran y ddau gwmni hynny; felly penderfynais archwilio trywydd arall er mwyn defnyddio fy sgiliau cyfathrebu a dadansoddi – fel Hyfforddwr Prifysgol ym Mhrifysgol De Cymru, cyn dod yn Bennaeth Blwyddyn 7 ac 8 yn dysgu Mathemateg, Ystadegau, TGCh a Busnes yn Ysgol Gyfun Llanhari.
“Ar y daith ar draws y sectorau ac mewn gwahanol swyddogaethau cefais beth wmbreth o brofiadau a mewnwelediadau dwfn i bŵer technoleg a’r potensial sydd gennym fel bodau dynol a chymunedau. Ynghanol hyn i gyd, enillais radd mewn Mathemateg a TGCh gan SAC ym Mhrifysgol De Cymru; ac aeth bywyd â fi i Ddulyn ac yn ôl am flwyddyn, gyda fy merch ifanc, a dysgodd hynny werth gwytnwch a hyblygrwydd i mi unwaith eto – sylfaen hanfodol i bob entrepreneur.”
Llwyfan arloesol sy’n creu Ecosystemau Trefi Clyfar
Sut mae tapestri mor gyfoethog o brofiadau a sgiliau wedi dwyn ffrwyth yn NearMeNow, gyda llwyfan chwyldroadol VZTA?
“Mae VZTA yn mynd â’r syniad o stryd fawr ddigidol i lefel hollol newydd – drwy fod yn ganolbwynt i ecosystem sy’n cysylltu ac yn rhoi cyfle i fusnesau, cymunedau ac awdurdodau lleol gyflawni mwy, gyda’i gilydd.
“Yn gyntaf oll mae’n rhoi’r dref yn nwylo’r gymuned, yn rhoi cyfle i bobl weld beth sy’n digwydd ‘ar hyn o bryd’ yn y siopau lleol, y bwytai ac unrhyw fusnes arall – fel bod cwsmeriaid yn gallu dod o hyd i anrheg berffaith, lle da am bryd o fwyd, neu rywle difyr i ymweld ag o.
“Mae hynny’n golygu bod gan fusnesau bach gysylltiad gyda chwsmeriaid er mwyn cystadlu â chwmnïau mawr ar-lein – gan yrru ymwelwyr i’r stryd fawr, annog busnesau i gydweithio er mwyn cysylltu â chwsmeriaid, fel bod y defnyddwyr hynny yn gallu gwneud penderfyniadau sy’n arbed amser ac arian.
“A beth yw’r canlyniad? Tref lewyrchus – sy’n cynnwys holl elfennau Tref Glyfar – lle mae’r gymuned gyfan wedi’i chysylltu, gydag ymdeimlad cryf o hunaniaeth y gall platfform VZTA ei hyrwyddo.
“Mae’r platfform yn cynnig cyfoeth o wybodaeth a data sy’n gymorth i’r cyhoedd ac arweinwyr cymunedau wneud penderfyniadau gwybodus ynglyn â sut i adnewyddu, adfywio neu wneud y gorau o’r profiad i ymwelwyr a’r boblogaeth leol.”
“Mae’n ecosystem tref glyfar fforddiadwy, y gellir newid ei maint, sy’n ymgysylltu â chymunedau cyfan, yn creu naws am le – sy’n golygu na fydd yr un dref na chymuned yng Nghymru yn cael ei gadael o’r neilltu.”
Diolch i chi, Vicky, am rannu eich taith unigryw gyda ni – gyda’r gorau eto i ddod – gan ddod â’r stryd fawr ddigidol (a llawer mwy) i’n Rhanbarth.
#entrepreneuriaid #prc #cystadleuol #cysylltiadau #gwydn