Y Sbardunau Digidol sy’n Ail-lunio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Categorïau:
Sectorau
Ymgyrchoedd

Gyda’r chwyldro digidol yn ailddiffinio’n barhaus y ffordd yr ydym oll yn byw, yn gweithio ac yn chwarae, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd heddiw yn dechrau cyfres o erthyglau nodwedd ar ddynameg ddigidol ein rhanbarth – gan archwilio’r sbardunau allweddol, darganfod yr arloeswyr newydd sydd yn anelu’n uchel, tynnu sylw at y prif gyflogwyr a darparwyr gwasanaethau, dathlu’r cydweithio allweddol, ymchwilio i’r biblinell dalent – a nodi lle gall PRC arwain y Deyrnas Gyfunol (a’r byd) yn ddigidol ….

Ar un diwrnod pwysig ar ddiwedd 2005, cyrhaeddodd nifer y bobl sy’n defnyddio’r rhyngrwyd y tirnod hynod o Un Biliwn, gan achosi i wyddonwyr cymdeithasol ddechrau siarad o ddifrif am weld dechrau trydedd chwyldro diwydiannol, a nodweddir gan gymdeithas ac economi fyd-eang sy’n cael ei gyrru gan y We 2.0, gan gyfryngau cymdeithasol, gan ffonau clyfar a chan deledu digidol.

Gwta 16 mlynedd yn ddiweddarach, gyda 67% o’r hil ddynol  ar y Ddaear bellach wedi’u ‘cysylltu’, mae’r un gwyddonwyr hynny bellach yn disgrifio’r byd fel un sy’n symud i bedwaredd oes ddiwydiannol: cyfnod a ddiffinnir yn dechnolegol gan ddeallusrwydd artiffisial cynyddol ddatblygedig sy’n treiddio i’n bywydau bob dydd, boed hynny fel sgwrs sgwrsfot ‘fyw’ wrth brynu nwyddau, neu brofiad realiti estynedig pan fyddwn yn y gwaith neu’n chwarae.

Chwyldro sydd wedi dod yn esblygiad parhaus

Mae ‘digidol’ wrth wraidd y trawsnewidiadau rhyfeddol hyn: chwyldro sydd wedi dod yn esblygiad parhaus (a chyflym), i’r fath raddau fel na allai’r rhan fwyaf ohonom ddychmygu byd nad yw’n ddigidol – ac yn ddealladwy felly.  Mae digidol wedi peidio â bod yn ymwneud yn unig â’r cyfrifiaduron, yr offer a’r technolegau sy’n siapio ac yn ail-lunio pob rhan o’n bywydau yn gyson. Mae’n llawer mwy na hynny.  Mae digidol bellach yn cynnig y potensial i ddarparu gwell profiad o’r byd i bobl ym mhobman: gwella ein mwynhad o fywyd, grymuso ein cyfranogiad mewn cymdeithas, galluogi busnesau i greu dyfodol mwy gwydn, cryfhau’r modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus a gwaith y llywodraeth – gan ddod â rhagolygon a gallu newydd i ddatrys hen broblemau a rhai newydd.

Mae digidol yn fwy na chyfrifiaduron, offer a thechnolegau.  Mae’n newid ein diwylliant i fod yn fwy agored, wedi’i lywio gan ddata ac wedi’i gynllunio o’n hamgylch ‘Ni’.

Yn ei hanfod, mae Digidol yn newid ein diwylliant cyfan – gan ein gwneud yn fwy agored a thryloyw, gan ein galluogi i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata; ac yn y pen draw creu byd newydd lle mae gwasanaethau wedi’u cynllunio o amgylch anghenion y defnyddiwr, boed yn ddull gwneud trafodion 24/7 Bob amser Ar Gael ‘Sut a Phryd’, neu rhaglenni gofal iechyd pwrpasol wedi’u teilwra’n unigol i anghenion penodol un person.

Mae PRC yn rhanbarth sydd yng nghanol yr esblygiad digidol.

Mewn cymaint o ffyrdd gwahanol ond hollgynhwysol, mae Digidol yn hanfodol i nodau PRC o adeiladu rhanbarth sydd Wedi’i Gysylltu, yn Gystadleuol a Gwydn. Mae’n gysylltwr pobl, eu huchelgeisiau a’r cyfleoedd i gyflawni eu gwir botensial. Mae’n gatalydd ar gyfer y parhad buddsoddiad sy’n dod â chlystyrau allweddol a’r economi sylfaenol yn fyw. Mae’n ffocws ar gyfer creu’r amodau lle mae ein busnesau a’n poblogaeth o 1.5 miliwn yn y sefyllfa orau i groesawu’r dyfodol. A dyna pam mae PRC yn ganolbwynt i’r trawsnewidiad technolegol, cymdeithasol ac economaidd hwn – fel cyd-fuddsoddwr mewn ystod amrywiol o fentrau digidol fel Creo Medical, FinTech Wales a Pharmatelligence; mewn rhanbarth sy’n gartref i rai o’r datblygiadau arloesol digidol mwyaf arloesol, yn fwyaf nodedig yn sectorau blaenoriaeth PRC –  Deallusrwydd Artiffisial, yr Economi Greadigol, Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Seiberddiogelwch a Dadansoddeg, Ynni a’r Amgylchedd, Technoleg Ariannol, Technoleg Feddygol a Thrafnidiaeth a Pheirianneg.

Mae pedair colofn allweddol yn sail i dirwedd ddigidol PRC

Mae’r seiliau eisoes wedi eu gosod i adeiladu dyfodol digidol cynhwysol a llewyrchus ym PRC, gyda phedair colofn allweddol yn sail i dirwedd ddigidol eang ac amrywiol de-ddwyrain Cymru. Rydym yn rhanbarth sy’n cael ei adeiladu ar seiliau Cydweithio Digidol, Cysylltedd Digidol, Sgiliau Digidol a Chyfle Digidol – a’r cyfuniad hwnnw o ffactorau a allai ddiffinio dyfnder y llwyddiant digidol a gaiff eu fwynhau gennym yn y pen draw am y degawdau i ddod.

Colofn 1: Gwthio’r ffiniau drwy Gydweithio Digidol

Yn gynyddol, mae cwmnïau o bob maint a sector ar draws PRC yn cydweithio’n agos â’r byd academaidd. Gallai hynny fod yn fusnes newydd 12 mis oed fel Eat Sleep Media yn gweithio gyda’r Sbardunwr Arloesedd Data (DIA) ym Mhrifysgol Caerdydd i gael y mewnwelediadau i sut, ble a phryd y mae eu cynulleidfa am i’w cynnwys gael ei gyflwyno; neu arweinwyr diwydiant fel Airbus, BT, General Dynamics a Northrop Grumman yn gweithio mewn partneriaeth allweddol â Phrifysgol De Cymru (PDC) i sefydlu’r Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol ar Gampws PDC Casnewydd.

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn prysur ddod yn ecosystem o ecosystemau, wedi’i hadeiladu ar ganolfannau rhagoriaeth ddigidol a chydweithrediadau busnes-academaidd – a byddwn yn archwilio hyn yn llawer dyfnach ac ehangach yn ddiweddarach yn ein cyfres.

Colofn 2: Adeiladu’r Isadeiledd Digidol sy’n gyrru Cysylltedd

Mae isadeiledd digidol o’r radd flaenaf yn hanfodol i sicrhau ffyniant cymdeithasol ac economaidd i bob cymuned – ac mae’n hanfodol bod gan bob rhan o’n rhanbarth y cysylltedd sydd ei angen arnynt i ffynnu. Mae Openreach Cymru wedi bod yn gweithio’n ddi-baid drwy gydol argyfwng COVID i adeiladu rhwydweithiau band eang cyflym iawn a gwibgyswllt ar draws PRC a gweddill Cymru, gyda darparwyr digidol lleol sydd newydd eu sefydlu fel OSGi hefyd yn chwarae rhan gynyddol yn y gwaith o sicrhau bod pob busnes a chymuned yn elwa o isadeiledd cynhwysol.

Mae cysylltu pawb gyda phawb yn bwysicach nag erioed, gyda’r pandemig yn torri tua phum mlynedd o gyflymu digidol i lai na 12 mis – ac mae PRC wedi bod yn bellgyrhaeddol wrth geisio pweru’r economi ddigidol ranbarthol yn y ffordd fwyaf dibynadwy ac ecogyfeillgar, gyda’n cynllun i ymgorffori Gigaplant Canolfan Ddata wedi ei bweru’n wyrdd fel rhan o Brosiect Prototeip Ymasiad Niwclear arfaethedig yn Aberddawan. Mae angen llywodraethiant cadarn ar isadeiledd cryf wrth gwrs – ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn arloeswr wrth lunio fframwaith y sector cyhoeddus a all wneud y gorau o rwydwaith hynod gadarn, gan lansio’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn 2020 i ymgorffori safonau gwasanaeth digidol cyson ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus. Y canlyniad? Bydd PRC yn esiampl o roi’r defnyddiwr digidol yn y canol, ym mhob sector, busnes, cartref a chymuned.

Colofn 3: Meithrin Talent Ddigidol a Phiblinell Sgiliau sydd wedi’i Diogelu i’r Dyfodol

Pan symudodd y cwmni technoleg ariannol Wagonex, o brifddinas ddigidol Shoreditch yn Llundain i’r Tec Marina ym Mhenarth, cyfeirion nhw at biblinell dalent technoleg ariannol o 20,000+ ein rhanbarth fel rheswm allweddol dros adleoli’r cwmni. Gyda Grŵp Ymchwil Technoleg Ariannol Prifysgol Caerdydd yn gallu brolio 13 o academyddion ac amrywiaeth o gyrsiau, nid yw’n fawr o syndod bod PRC yn prysur ddod yn chwaraewr pwysig yn y maes diddorol a hynod werthfawr hwn – a bod buddsoddi mewn sgiliau yn cael ei ailadrodd ar draws ein holl arbenigeddau digidol yn y rhanbarth, gan gynnwys cyfleusterau arloesol unigryw sy’n cael eu sefydlu yn y Ganolfan Camfanteisio Digidol Genedlaethol yng Nglyn Ebwy a’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae ein strategaeth sgiliau ar gyfer y rhanbarth yn canolbwyntio ar ddod ag ysgolion, colegau a chyflogwyr ynghyd, i wneud gyrfa’n llawer mwy diwnïad, drwy ddatblygiadau fel y Sgiliau Menter a’r Ganolfan Talent. Nid oes lle i orffwys ar ein rhwyfau, ond mae ‘Digidol’ wedi bod yn flaenllaw ac yn ganolog i Strategaeth Sgiliau Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol PRC 2019-2022 – ac er gwaethaf y tarfu yn sgil y pandemig, rydym yn parhau ar y trywydd iawn i gyrraedd ein nodau a chyflawni ein huchelgeisiau ar draws yr holl raglenni hyfforddi, gyda chydweithrediadau sgiliau digidol nodedig a cherrig milltir datblygu wedi’u cyflawni gyda phob un o chwe darparwr AB y rhanbarth.  

Colofn 4: Cynnig Cyfle Digidol

Mae creu sylfaen gyflogwyr amrywiol iawn sy’n cynnig amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa yn hanfodol er mwyn denu, cadw a datblygu talent ddigidol yn ein rhanbarth.  Ar draws de-ddwyrain Cymru, mae gennym nifer o gyflogwyr o fri sy’n gartref i ganolfannau rhagoriaeth ddigidol – yn Admiral, Airbus, Alert Logic, BAE, BT, Cap Gemini, CSC, General Dynamics, y Swyddfa Ystadegau Genedlaethol, Next Generation Data, Openreach, SPTS Technologies a’r Bathdy Brenhinol – gyda busnesau bach a chanolig sy’n arwain y byd yn ddigidol fel Amplifi, Antiverse, CoinCover,  Credas, Digital Health Labsl, Doopol, Jellagen, MyPinPad, Sonovate a TrakCel. Gan roi’r amodau i’r mentrau hyn, mae angen iddynt recriwtio, tyfu ac ysbrydoli calonnau a meddyliau digidol a fydd yn hanfodol i’n llwyddiant fel cartref ar gyfer cyfalaf dynol rhagorol ac economi sydd wedi ymrwymo i wireddu uchelgeisiau o’r radd flaenaf.

Yn y gyfres hon byddwn yn edrych yn fanwl ar y cwmnïau hyn i ddeall sut mae digidol yn gyrru eu gweithrediadau, gan helpu i ddiffinio eu cynnig – a’u galluogi i lunio’r diwydiant digidol ei hun.  Ac mewn rhanbarth lle mae’r nifer uchaf erioed o fusnesau newydd digidol o flwyddyn i flwyddyn, byddwn hefyd yn darganfod sut mae mannau cydweithio fel IndyCube, Tec Marina a Tramshed Tech (sy’n ehangu’n gyflym ar draws PRC, gan adeiladu partneriaethau strategol gyda phobl fel Barclays EagleLabs a Microsoft) yn chwarae rhan mor bwysig wrth ysgogi a chyflymu mentrau digidol gydag addewid gwirioneddol.

Gyda phob sefydliad yn cael ei yrru ar ryw ffurf neu gilydd gan dechnoleg, rydym yn canolbwyntio ein herthygl nesaf ar y perfformiad digidol gorau (a’r perfformwyr) yn ein sectorau blaenoriaeth – darganfod ‘Yr Eithriadol’, dathlu’r ‘Neilltuol’ a bwrw llinyn mesur ar ein statws byd-eang fel canolfan ragoriaeth ddigidol.   

 

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Ganol mis Ebrill lansiwyd rhaglenni sgiliau a swyddi newydd mawr - dadorchuddiodd CIPD Wales ei ymgyrch arloesol Hidden In Plain Sight i helpu miloedd o bobl ddifreintiedig i gael gwaith, addawodd Llywodraeth Cymru £13 miliwn i undebau llafur i roi cymorth dysgu ac uwchsgilio a chyflwynodd Daikin a Robert Price gwrs hyfforddi sgiliau undydd arloesol ar y gosodiadau pwmp gwres sy'n helpu i yrru ein chwyldro gwresogi gwyrdd.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.