Yr Her Gyntaf a gefnogir gan Gronfa Her P-RC yn gwneud cynnydd mawr

Categorïau:
Prosiectau'r Fargen Ddinesig

Yn dilyn cam un llwyddiannus lle cyflwynodd pedwar cwmni atebion posibl gwych i’r her o greu hyfforddiant efelychu traceostomi rhithwir ar gyfer ‘her Technoleg Efelychu ar gyfer Hyfforddiant Gofal Iechyd’ Caerdydd a’r Fro – gyda chymorth arian gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan Ragoriaeth y Fenter Ymchwil Busnesau Bach ar gyfer cyflawni – dewiswyd DAU gwmni i symud ymlaen i’r ail gam (lle rhoddir arian ar gyfer y gwaith o ddatblygu’n ffisegol arddangoswyr prototeip).

Gyda maes o gystadleuwyr o ansawdd mor dda, roedd dewis yn broses anodd, ond mae’r tîm yn hyderus bod gan y ddau ateb a ddewiswyd y gallu i drawsnewid yn llwyr sut y rhoddir hyfforddiant clinigol cymhleth mewn ffyrdd llawer mwy ymdrochol, gan ddangos y fantais enfawr o weithredu dull gwahanol a arweinir gan her o ymdrin â phroblemau lle nad yw atebion parod yn bodoli.

Y cwmnïau a lwyddodd i symud ymlaen i gam 2 oedd:

Rescape Innovation Ltd – darparwr therapi tynnu sylw realiti rhithwir sy’n arbenigo mewn atebion sy’n lleddfu poen, yn cefnogi gorbryder a straen ac yn gwella profiad cyffredinol cleifion a Nudge Reality Ltd – cwmni sy’n personoli profiadau dysgu drwy feddalwedd realiti estynedig i blant ag awtistiaeth. Llongyfarchiadau i’r ddau ar symud ymlaen i Gam 2 yr Her Technoleg Efelychu.

Dywedodd Matthew Wordley, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Rescape Innovation Ltd “Mae gwybodaeth Rescape am rith-wirionedd a defnyddio ei ddyfais feddygol DR.VR® ar draws y system gofal iechyd ar gyfer poen a gorbryder wedi ein galluogi i ddod o hyd i atebion ymdrochol arloesol ar gyfer rhoi hyfforddiant.  Drwy gyfuniad o fodiwlau sy’n galluogi hyfforddeion i arsylwi, ymarfer ac yna perfformio, yn rhan o dîm â chwaraewyr lluosog, credwn y bydd hyn yn cyflawni’r amcanion dysgu a ddymunir ac yn helpu i greu timau sy’n perfformio’n dda, gan effeithio’n gadarnhaol ar ddiogelwch cleifion yn y pen draw. Gyda ffocws cychwynnol ar Draceostomi, Broncosgopi a Draen Rhyngasennol, mae wedi creu sylfaen ar gyfer llwyfan hyfforddi ar gyfer sgiliau clinigol ac anghlinigol y gellir eu defnyddio’n gyflym ac ar raddfa.”

Dywedodd Dr Alastair Buchanan, Prif Swyddog Gweithredol Nudge Reality “Rydym yn datblygu rhaglen hyfforddi realiti cymysg ymdrochol ar gyfer gofal traceostomi. Mae hyn yn cyfuno efelychiadau rhithwir â gwrthrychau byd go iawn i gynnig adborth gweledol a chyffyrddol. Mae hyn yn helpu hyfforddeion i ddysgu sut i gyflawni’r gweithdrefnau hyn ac i ddatblygu ‘cof cyhyrau’ ar gyfer pob un. Ynghyd ag amgylchedd â defnyddwyr lluosog, ein nod yw creu rhaglen hyfforddi realistig, ddiddorol ac effeithiol.”

Mae Cam 2 yn parhau tan fis Tachwedd pan fydd penderfyniad yn cael ei wneud ar ba ateb cwmni a ddewisir i gwblhau’r trydydd cam a’r cam olaf, sef pan fydd yr arddangoswr yn cael ei brofi mewn amgylchedd gweithredol byw ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Dywedodd Gareth Browning, Pennaeth Heriau yn P-RC “mae’n wych gweld cynnydd mor gyflym yn natblygiad y dechnoleg efelychu ymdrochol newydd hon ar gyfer cleientiaid GIG Cymru.  Mae hyn yn addo datgloi cyfleoedd newydd a chyffrous i fusnesau yn ein sector creadigol sydd eisoes yn ffynnu yn y rhanbarth.  Rwy’n gobeithio gweld y datblygiadau arloesol hyn yn cael eu masnacheiddio a’u graddio yn y dyfodol agos iawn ac yn dangos gwerth arloesedd a arweinir gan her”.

Dywedodd Paul Twose, Therapydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Arweinydd Clinigol ar gyfer yr her “Mae’r her technoleg efelychu’n parhau i ddatblygu’n anhygoel, ac mae’r atebion sy’n cael eu creu gan Rescape a Nudge Reality yn ein cyffroi’n fawr. Rydym yn hynod obeithiol y byddwn yn dod â’r prosiect hwn i ben gydag ateb sy’n barod i’r farchnad a fydd yn newid y ffordd rydym yn cyflwyno addysg traceostomi, yn ogystal â senarios gofal iechyd ehangach. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld sut y bydd pethau’n symud ymlaen dros fisoedd olaf y prosiect ac i weld sut y bydd canlyniadau’r cydweithio rhwng y GIG a diwydiannau yn gwneud newid ystyrlon i addysg staff a chanlyniadau cleifion.”

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Yn dilyn lansio gwefan newydd sbon Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, cawsom afael ar Liz Rees, Swyddog Prosiect y Gronfa Her i ddysgu mwy am y datblygiad newydd cyffrous hwn.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.