Zip World Tower – Dod ag Antur a Hwb Economaidd i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd

Categorïau:
Buddsoddiadau

Yn dilyn buddsoddiad sylweddol o £4.4m gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae Zip World, sy’n enwog yng Ngogledd Cymru am fod â’r llinell sip gyflymaf yn y byd, wedi dod â’u brand unigryw o dwristiaeth antur i ganol gwlad fynyddig y Rhigos. Gyda’r nod o roi hwb i economi De Cymru, wrth ddefnyddio’r dirwedd drawiadol i adfywio’r eicon hwn o hanes glofaol y rhanbarth, agorodd y safle i’r cyhoedd ar 26 Ebrill. Yn awyddus i weld y trawsnewidiad rhyfeddol hwn a chael profiad o Zip World ein hunain, fe gwrddon ni ag Ellie Watkins, sy’n rheoli’r holl weithgarwch marchnata lleol, a’r tîm ehangach i ddeall mwy am hanes Zip World Tower a’i gynlluniau presennol ac i’r dyfodol, a sut brofiad ydy gweithio yno.

“Dod â hapusrwydd i bobl De Cymru”

“Rwy’n ystyried mai nod fy rôl yw dod â hapusrwydd i bobl De Cymru,” meddai Ellie, sy’n cyfleu agwedd a brwdfrydedd sydd gan yr holl staff y buom yn siarad â nhw. “Rwy’n ei weld fel cyfle i helpu i greu profiadau hwyliog, cofiadwy i bobl.” Mae’r brwdfrydedd a ddangoswyd gan Ellie yn nodweddu agwedd ac ymddygiadau’r holl staff – does neb yn gweld eu rôl fel ‘swydd yn unig’, mae pawb yn ei hystyried fel cyfle i helpu i greu profiadau hwyliog a chofiadwy i bobl. Ac mae’r profiad cofiadwy hwnnw’n dechrau gyda’r daith i’r safle ei hun…

Mae gyrru i Fynydd y Rhigos a gweld pobl yn ciwio, pob un yn llawn cyffro i fod yn cymryd rhan mewn rhywbeth hollol wahanol a phawb yn chwilio am ychydig o antur go iawn ar ôl bod yn gaeth i’r tŷ am fisoedd oherwydd pandemig Covid-19, ynghyd â’r cefndir mynyddig mawreddog, yn olygfa werth ei gweld. Wrth i bobl wibio heibio uwchben ar linell sip Phoenix 70 mya, cawsom ein cyfarch gan Ellie, a oedd yn awyddus i’n tywys o amgylch y safle. Mae gan Zip World Tower fynedfa brysur yn llawn nwyddau, fideos ar y sgriniau uwchben o’r profiad y gallwch ddisgwyl ei gael, a hyfforddwyr yn ffitio offer ar bobl yn barod ar gyfer eu taith wib i lawr safle antur awyr agored mwyaf gwefreiddiol De Cymru.  O’r cychwyn cyntaf, cewch eich amgylchynu gan awyrgylch llawn cyffro a disgwyliad.

Roedd brwdfrydedd Ellie dros ei swydd yn glir o’r dechrau.  Gyda chefndir mewn addysgu, marchnata a chwaraeon antur, a phrofiad o weithio yn Seland Newydd – mewn ardal sy’n enwog am ei chwaraeon antur – mae’r rôl hon yn berffaith iddi fanteisio ar ei chryfderau.

“Roeddwn yn gweithio i A. J. Hackett (sefydlwr neidio bynji fel gweithgaredd antur) ac roeddwn wrth fy modd gyda phopeth oedd yn ymwneud â rhoi’r profiad hwnnw i bobl. Pan wnaeth fy nhad, sy’n frodor o’r ardal hon, ddangos y cyfle swydd yn Zip World ar gyfer y Cydlynydd Marchnata, roeddwn i’n gwybod ar unwaith mai dyma’r swydd i mi.”

Dathlu’r newydd wrth hyrwyddo’r hen

“Bydd gwylio pobl yn dod i lawr y llinell sip, myfyrio ar hanes y lle neu ymweld â’r safle yn brofiad arbennig, llawn atgofion i lawer. Yn wir, rhai o’r bobl gyntaf i brofi’r llinellau oedd y cyn-lowyr eu hunain. Mae Tyrone O’Sullivan, un o’r rheolwyr gwreiddiol a oedd yn gyfrifol am y broses o brynu asedau Glofa’r Tŵr, wedi bod yn hynod gefnogol o’n hagor ac wedi bod yn ymwneud yn helaeth â’n cyhoeddusrwydd yn y cyfryngau ac mae’n gobeithio ymweld â’r safle gyda’i deulu i reidio’r llinell sip yn fuan iawn!”

Trwy ymgorffori rhai o’r adeiladau gwreiddiol yn adeiledd y cyfleusterau newydd, mae Zip World yn gwneud eu gorau glas i gyfuno hanes â seilwaith newydd ac, wrth wneud hynny, maent yn creu cyrchfan a fydd yn taro tant gyda phobl ar sawl lefel.

“Mae’r glowyr wedi bod mor gefnogol i Zip World. Rydyn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw’r stori honno’n fyw ac ar flaen meddyliau,” dywedodd Ellie.

Mae hi nawr yn y broses o weithio gyda chwmni cyfryngau i ffilmio hanes y lofa a’r glowyr i greu stori weledol a fydd yn anrhydeddu eu gwaddol ac yn ychwanegu dimensiwn arall eto at yr atyniadau i ymwelwyr.

Ennill calonnau a meddyliau’r gymuned

O ran yr athroniaeth a’r gwerthoedd sy’n sail i ymagwedd Zip World, dywedodd Ellie, “Dydyn ni ddim eisiau bod yn fusnes sy’n digwydd gweithredu yma. Rydyn ni eisiau cymryd rhan, bod yn rhan o wead y gymuned leol, ac mae hyd yn oed pethau bach fel casglu sbwriel cymunedol i lanhau’r ardal yn ffordd y gallwn ni roi rhywbeth yn ôl ac ymgysylltu mewn ffordd gadarnhaol.  Yn ddiweddar, gwnaethom gynnal digwyddiad casglu sbwriel ar y cyfryngau cymdeithasol a daeth 25 o wirfoddolwyr i helpu. Nawr mae pobl yn ein holi o ran pryd bydd yr un nesaf yn cael ei gynnal! Mae lefel yr ymgysylltu a’r ysbryd cymunedol yma yn wych ac rydym am wneud ein gorau glas i annog a datblygu hynny ymhellach fyth.  Mae’n ymddangos bod pawb am ein gweld yn llwyddo ac mae hynny’n wirioneddol galonogol.”

Defnyddio pŵer Brand Zip World i gefnogi a datblygu trigolion a mentrau lleol

“Rydym yn credu’n gryf mewn cefnogi elusennau lleol a mentrau lleol yn ogystal â chyflogi pobl leol… Dim ond ar y camau cynnar rydyn ni ar hyn o bryd ond rydym wedi dechrau cynnig llinellau sip noddedig lle rydym yn darparu teithiau am ddim i elusennau eu cynnig fel gwobrau raffl i godi arian. Ein cynllun yw gweithio gydag un brif elusen ac am hynny rydym wedi dewis Plant y Cymoedd – elusen anhygoel sydd wedi newid bywydau llawer iawn o blant mewn hen gymunedau glofaol. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu cynllun ar gyfer sut rydym yn mynd i weithio gyda’n gilydd a byddwn yn rhoi gwybod mwy am hynny cyn bo hir – felly cadwch lygad amdani!”

“Rydym hefyd yn gobeithio datblygu clwb ar ôl ysgol a chynnwys digwyddiadau fel ‘diwrnod ym mywyd’….. fel y gall plant ysgol gael profiad uniongyrchol o’r hyn y mae rhai o’n rolau’n ei gynnwys. Cynigir teithiau addysgol ar hyn o bryd ar y safle yng Ngogledd Cymru lle mae hanes, straeon a threftadaeth yr ardal yn dod yn fyw. Ein nod yn y tymor hwy fydd gwneud yr un peth yn y Rhigos.”

Creu lle “deniadol” i deuluoedd a busnesau

Nod arall yw gwneud Zip World yn lle “deniadol” i deuluoedd a busnesau – ond nid er mwyn reidio’r llinellau sip mawr yn unig…..

“Er mwyn annog teuluoedd, mae gennym “Big Red” sydd ar gyfer plant 5-12 oed ac mae’n fargen am £10 yn unig ar gyfer dwy reid.  Os cyfunwch hynny â bargen pryd bwyd neu ddwy yn ein Bar a Bistro Cegin Glo gyda’i gefndir godidog, bydd hynny’n ddiwrnod neu’n noson allan perffaith i’r teulu sy’n hygyrch i lawer mewn lleoliad arbennig iawn sy’n rhoi naws ychydig yn wahanol iddo. Mae hyn i gyd yn dal i fod yng ngham cynnar y datblygiad ond mae’n dangos ein bod wedi ymrwymo’n llwyr i greu cyrchfan i’n cymunedau sy’n llawer mwy na lle i gael gwefr untro. Mae partïon plant hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer cynigion yn y dyfodol.”

I fusnesau mae Zip World yn gobeithio darparu digwyddiadau sy’n cynnig defnyddio eu bwyty bistro gyda’i far cwbl drwyddedig sy’n gweini bwyd twym ac oer gyda lle ar gyfer 176 o bobl (30 i 40 ar lawr mesanîn ar wahân) ynghyd â 100 o leoedd yn yr awyr agored. Byddai hyn yn lle perffaith ar gyfer diwrnodau meithrin tîm corfforaethol, digwyddiadau, brecwast busnes a mwy.

“Mae gennym gynifer o syniadau ac mae gan y safle gymaint o botensial i’r dyfodol,” meddai Ellie. “Mae’n lle anhygoel o gyffrous i weithio ac rwy’n teimlo’n freintiedig i fod yn rhan ohono.”

O atyniad twristiaid i gyrchfan twristiaid

Mae gan yr ardal eisoes atyniadau twristaidd megis Distyllfa Penderyn, Canolfan Ymwelwyr Garwnant, y Bathdy Brenhinol, Parc Cyfarthfa a Pharc Beicio Cymru. Ni fydd hyn ond yn ychwanegu at agwedd ddeniadol y rhan hon o’r rhanbarth ac yn adfywio’r ardaloedd hyn o harddwch eithriadol a thirweddau ôl-ddiwydiannol i ddenu pobl o bob rhan o’r DU i ddod i brofi popeth sydd gan y rhanbarth i’w gynnig.

Mae yna hefyd Bar a Bistro Cegin Glo lle’r oeddem yn eistedd i lawr i fwynhau coffi ac edmygu’r cefndir trawiadol. Byddai hyn yn lleoliad gwych i ymweld ag ef ni waeth a oeddech am reidio’r llinell sip neu beidio.

Yn olaf, ewch i brofi’r Phoenix neu Tower Coaster drosoch eich hun yn Zip World Tower – gallwch brynu eich tocynnau yma: https://www.zipworld.co.uk/location/tower neu ewch i gael coffi, rhyfeddu at y golygfeydd a chefnogi’r cwmni anhygoel hwn yn eu menter newydd.

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Pan ddadlennodd Gwyddor Data Dynol, a gefnogir gan Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, eu llwyfan www.PrevalenceUK.com ddiwedd mis Gorffennaf, gwnaeth fwy na gwneud hanes. Fe gymerodd gam aruthrol fawr dros ddadansoddi iechyd byd-eang, drwy’r byd …

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.