Upgrade to ChromeUpgrade to FirefoxUpgrade to Internet ExplorerUpgrade to Safari

23.03.2020

Colofn Kevin Gardiner 

Yr hyn rydym yn ceisio’i gyflawni â’n Strategaeth Fuddsoddi

Ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, rydym yn ceisio gwneud rhywbeth newydd gyda’r £495 miliwn sydd gennym i’w wario.

Wrth gwrs, mae’n bwysig iawn bod y busnesau rydym yn buddsoddi ynddynt yn gystadleuol ac yn gallu cynnal eu hunain, a’u bod yn darparu adenillion ar yr arian a fuddsoddwyd ynddynt.

Ond nid dyna’r cyfan rydym yn chwilio amdano: mae yna hefyd ddyletswydd arnom i gyflawni twf cynhwysol.  Felly, mae’n ymwneud â chyflenwi buddsoddiadau a phrosiectau nad ydynt efallai’n llwyr fasnachol, ond sydd hefyd yn creu swyddi, ac yn gwneud yn sicr bod buddion y Fargen Ddinesig yn cael eu lledaenu’n eang drwy  Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i gyd.

Golyga hynny na fyddwn ond yn canolbwyntio ar fentrau gweithgynhyrchu ac uwch-dechnoleg hynod ddeniadol sydd â gwerth ychwanegol uchel, sy’n dda am fachu llawer o benawdau, ond fe fyddwn hefyd yn ystyried beth y gallwn ei wneud i feithrin cyflogaeth sylfaenol a gwell cysylltedd cyflogaeth.  A allwn ei gwneud hi’n haws, fel mae’r Metro yn ceisio’i wneud, i bobl gymryd swyddi o amgylch y rhanbarth mewn ffordd na fyddent fel arall fod wedi gwneud?  A oes yna rywbeth y gallwn ei wneud i’w helpu i wella’u sgiliau?

Mater arall sy’n wahanol i ni yw nad yw buddsoddiadau sy’n gyfan gwbl yn y sector preifat yn cymryd pethau fel cynaliadwyedd mor o ddifri’ ag rydym ni’n ei wneud.  Mae’r Ddeddf  Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gyntaf o’i math, ac mae’n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru’n ei chymryd yn llwyr o ddifri’, ond mae’r rhan fwyaf ohonom hefyd yn digwydd bod yn credu ei fod yn syniad da peidio â difrodi’r amgylchedd.  Mae hynny’n rhywbeth na fyddai o angenrheidrwydd yn cael ei gyflawni petai grymoedd y farchnad yn cael rhwydd hynt i weithredu ar eu pen eu hunain, neu petai’n buddsoddiadau yn cymryd agwedd fasnachol hollol, a dim arall.

Mae’r ffordd rydym yn bwriadu cymryd rhan hefyd yn eitha’ nodedig wahanol.  Nid ydym yn canolbwyntio’n gul ar ddim ond gwneud benthyciadau neu gymryd cyfranddaliadau ecwiti; fe fyddwn yn agored i bob mathau o bartneriaethau dichonol a chyd-fentrau.  Yn ddelfrydol, fe fydd y rhan fwyaf o’r cyllid a gynigiwn yn mynd i wneud adenillion y mae modd ei amddiffyn yn fasnachol, ond fe fydd rhywfaint ohono yn anelu at brosiectau mwy cynhwysol lle na fydd adenillion masnachol yn ystyriaeth bennaf.

Mae arnom eisiau i’n cronfeydd buddsoddi fod yn fytholwyrdd, oherwydd un o’r rhwymedigaethau ar y Fargen Ddinesig yw ei bod yn ceisio trosoli’i heffaith.  Gallem, yn ddamcaniaethol, fynd ati i wario popeth ar grantiau ar gyfer prosiectau gydag oes fer – ac wedyn mae’r cronfeydd arian wedi darfod ac rydym yn dychwelyd i’r drefn arferol.  Ond y syniad yw ein bod yn defnyddio’r cronfeydd arian i chwyddo’r rhan sydd gan y sector preifat, lle y bo’n bosibl, i greu partneriaeth, ac yn ddelfrydol i fytholi hirhoedledd y cronfeydd arian hynny drwy ailgylchu adenillion ac ad-daliadau yn ôl i brosiectau eraill.

Rydym yn y cyfnodau cynnar ac felly nid oes yna reolau terfynol, ond rydym yn ceisio bod mor bragmatig ac agored ein meddwl â phosibl, yn ddarostyngedig i’r amcanion sydd gennym.  Mae gennym restr o sectorau blaenoriaethol ond nid dyma’r unig sectorau y byddwn yn eu hystyried, oherwydd os ydym yn ceisio bod yn gynhwysol, ni allwn gyfyngu’n sylw dim ond i fentrau gweithgynhyrchu cynhyrchiant uchel, er enghraifft.  Gall “cynhyrchiant uchel” hefyd olygu “cyflogaeth isel”, ac mae arnom eisiau mwy o swyddi.

Yn olaf, fe fyddai llawer o academyddion a phobl busnes leol yn awgrymu y gall y rhanbarth weithiau fod ychydig bach yn ynysol, ac nid yn ddigon uchelgeisiol.  Efallai y byddem yn gallu, mewn ffordd fechan, gwneud i bobl newid y ffordd y maent yn gweld dechrau mynd i fusnes.  Os gallem wneud hynny, fe gredaf y byddai’n ardderchog.  A minnau wedi fy magu yn ddedwydd yn Nhrelái yng Nghaerdydd, ac yn dal i fod yn ffodus i gael cyfeillion yno, rwyf yn ymwybodol iawn bod rhannau o’r rhanbarth wedi llusgo ar ôl yr economi mwy cyffredinol.  I mi yn bersonol, fe fyddai’n wych helpu mewn ffordd fechan i wneud pethau ychydig yn well.

 

Digwyddiadau ar y gweillGolwg ar yr holl digwyddiadau

Cabinet Prifddinas Ranbarth Caerdydd

Lleoliad: Caerphilly Council, Tredomen, Ystrad Mynach, CF82 7FQ.
Amser: 10:30yb - 12:30yp

Cabinet Prifddinas Ranbarth Caerdydd

Lleoliad: Caerphilly Council, Tredomen, Ystrad Mynach, CF82 7FQ.
Amser: 10:30yb - 12:30yp

Ymgeisio

Mae Cronfa Buddsoddi Ehangach Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn awr yn agored i dderbyn ceisiadau. Os oes gennych brosiect sydd â’r potensial i gael effaith wir gadarnhaol ar yr economi rhanbarthol, mae arnom eisiau clywed gennych.

Sut mae gwneud cais