Upgrade to ChromeUpgrade to FirefoxUpgrade to Internet ExplorerUpgrade to Safari

Cyfweliad â Rhys Thomas

30.06.2020

Roedd Rhys Thomas, Prif Swyddog Gweithredol Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn siarad â Mark Powney.

Dywedwch wrthym amdanoch eich hun – beth yw’ch cefndir a beth mae’ch rôl feunyddiol yn ei chynnwys?

Rwyf yn Gymro o Orllewin Cymru, fe es i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i fynd i’r brifysgol 20 mlynedd yn ôl ac ni wnes fyth adael.  Rwyf wedi treulio’r rhan fwyaf o’m gyrfa yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd mewn amrywiol rolau, ond fe dreuliais y cwpwl o flynyddoedd diwethaf yn gwirioneddol ganolbwyntio ar arloesi a datblygu economaidd a sut y gellid cynyddu hyd yr eithaf ar gyfraniad y brifysgol at gymdeithas a’r economi yn fwy cyffredinol.

Nid oes dau ddiwrnod sy’n union yr un fath, ond yr agwedd bennaf ohono yw cynorthwyo â llywodraethiant a gweinyddiaeth y Fargen Ddinesig, gan ar yr un pryd chwilio am gynigion buddsoddi a’u meithrin, a’u herio a’u profi er mwyn gwneud yn sicr ein bod, wedi’r cyfan, yn gwneud y penderfyniadau buddsoddi cywir.

Mae’n gyfnod heriol, diddorol i chi …

Fel i bawb arall.  Trowyd ein ffordd o weithio wyneb i waered fwrw nos. Gwnaethom ymateb yn gadarnhaol, ac rydym wedi torri cŵys newydd o weithio o’n cartref.  Nid yw lefelau’r diddordeb a’r deisyfiadau i fuddsoddi wedi mynd yn hesb; os rhywbeth, maent wedi cynyddu, ac mae yna rai heriau inni yn hynny o ran sut rydym yn rheoli disgwyliadau pawb.

Gwelsom ystod o benderfyniadau buddsoddi’n cael eu gwneud ar ddechrau mis Mawrth.  A allwch roi diweddariad inni?  Ble rydym o ran y Gronfa Buddsoddi Tai?

Rydym wedi bod yn gwneud cynnydd â’r gorchwyl o gaffael cynghorwyr technegol dros y cwpwl o fisoedd diwethaf, ac rydym wedi penodi rhywun yn ddiweddar.  Bydd CBRE yn ein cynghori ynglŷn â sut rydym yn bwrw ymlaen ag elfen bwlch hyfywedd y gronfa.  Edrychwn ymlaen at hynny; mae ganddynt brofiad gwych o wneud pethau cyffelyb ledled y Deyrnas Unedig, yn cynnwys y Gronfa Buddsoddi Tai y gwnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei chyflwyno ar gyfer Lloegr.

Mae yna lawer o sgyrsiau wedi bod ag awdurdodau lleol i’w paratoi i gyflwyno safleoedd priodol, ac felly fe fydd yna fwy i’w gyfathrebu am hyn dros y 6-9 mis nesaf.

Mae cysylltedd digidol yn flaenoriaeth i bawb ohonom yn y rhanbarth.  Ymhle rydym gyda chyflwyno 5G a hyrwyddo rhaglen o ddarpariaeth ffeibr?

Mae yna lawer o waith wedi’i wneud i sicrhau ein bod yn ennill prosiect Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar gyfer clymu cymunedau gwledig sy’n canolbwyntio ar ardal Blaenau Gwent a Sir Fynwy, ac rydym yn gweithio â phartneriaid y consortiwm i geisio mesur a phwyso’r rhaglen ehangach ac i weld a allwn wneud i hynny ddigwydd.

O ran y rhaglen darparu ffeibr llawn ledled y rhanbarth, rydym yn mynd drwy’r broses i ddeall ym mha sefyllfa rydym a beth yw sefyllfa’n partneriaid.  Cafodd haint Covid effaith ar y prosiect hwn, yn rhannol oherwydd pryder am fuddsoddi hirdymor; mae hynny’n cael ei drin a’i drafod ar hyn o bryd.  Byddwn yn gallu gwneud cynnydd gyda hynny yn y dyfodol agos.

Beth am y Parc Gwyddorau Bywyd?

Rydym wedi gwneud cryn dipyn o ddiwydrwydd dyladwy; fe ystyriwyd yr achos busnes amlinellol gan y Cabinet Rhanbarthol ddydd Llun, maent wedi cymeradwyo hwnnw ac rydym yn mynd rhagom i’r achos busnes llawn.  Mae’n dangos bod Prifddinas Ranbarth Caerdydd yn lle ar gyfer gwyddorau bywyd a thechnoleg feddygol yn neilltuol.  Mae gennym gryfderau da yn ein sylfeini Ymchwil a Datblygu, cyflenwad da o’r cymysgedd sgiliau cywir sydd ei angen i wneud i’r clwstwr hwn lwyddo yn y dyfodol, popeth roeddem yn ei wybod ond sydd bellach wedi’i ddilysu, ac felly mae hynny’n rhoi hyder inni symud ymlaen.  Rydym yn parhau i ddatblygu’r cynllun busnes sylfaenol ar gyfer y Parc Gwyddorau Bywyd â’n partneriaid yn y gyd-fenter.  Byddwn yn gallu, rwyf yn gobeithio, cyhoeddi penderfyniad mwy ffurfiol ynglŷn â hynny ar ddechrau’r hydref.

Sut yr effeithiwyd ar y penderfyniadau hyn gan y cyfyngiadau symud, ynteu a oes yna gynnydd da yn dal i gael ei wneud?

Nid yw’r cyfyngiadau symud wedi effeithio ar ein parhad busnes o gwbl; fe gawsom bedwar cyfarfod o’r panel buddsoddi ers y cyfyngiadau symud, tri chyfarfod o’r Cabinet Rhanbarthol.  Mae ein peirianwaith sylfaenol yn gweithio’n dda, rydym yn dal i weithio mewn gwahanol ffordd, nid yw’n arafu cynnydd.

O ystyried yr effeithiau ariannol aruthrol y mae busnesau wedi’u profi a bylchau amseru mewn pecynnau cymorth, a welsoch gynnydd mewn deisyfiadau am fuddsoddiad?

Gwelsom gynnydd mewn ymholiadau, ac nid yw rhai ohonynt yn briodol ar gyfer y Fargen Ddinesig.  Nid yw hynny gyfystyr â dweud nad oeddynt yn brosiectau da neu hyfyw; nid oedd ganddynt y strwythur inni i’w symud ymlaen.  Roedd rhai ohonynt yn fwy o risg uchel neu roedd arnynt angen mwy o gyfalaf gweithio, ac nid yw hynny’n wirioneddol yn briodol i’r Fargen Ddinesig.  Mae’r Fargen Ddinesig yn rhaglen 20 mlynedd sy’n ystyried twf ac adfywio economaidd.  Ni ddylem anghofio’n cynlluniau dros y cyfnod canolig a’r cyfnod hir, gan weithio â’n partneriaid yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i sicrhau y caiff rhai o’r anghenion mwyaf uniongyrchol hefyd sylw.

A allwch ymhelaethu ar nifer y deisyfiadau sydd wedi dod gerbron?  A ydych yn gweld mwy o ddeisyfiadau am rai mathau neilltuol o brosiectau?

Ers y cyfyngiadau symud, mae ein panel buddsoddi wedi ystyried 14 o gyflwyniadau newydd, y mae 6 o’r rheiny wedi’u cefnogi i gael rhagor o ystyriaeth a datblygiad.  Mae yna dwf wedi bod yn y cynigiadau a ddaw gerbron yn y maes technoleg feddygol ehangach sy’n gysylltiedig â’r agenda iechyd; mae modd dadlau bod y cyfle i fusnesau yn well yn y meysydd hynny ar yr adeg hon.

A oes yna unrhyw fathau o gynigiadau buddsoddi yr hoffech ddenu mwy ohonynt?

Byddem yn awyddus o ystyried mwy o brosiectau trawsnewidiol graddfa fawr fyddai’n cael mwy o effaith ar y rhanbarth.  Rydym yn gweld llawer o fusnesau’n dod gerbron gyda chynigion sy’n benodol i fusnes, ond mae arnom angen herio’n hunain ychydig yn fwy fel rhanbarth; mae arnom angen pwyso ychydig yn galetach ar rai o’r prosiectau mwy, sy’n fwy trawsnewidiol.

A allwch siarad â ni am beth yw’r gronfa fytholwyrdd ar gyfer adeiladau strategol?  Hefyd, buddsoddiadau mewn technoleg ariannol a thechnoleg feddygol?

Mae’r gronfa adeiladau’n rhywbeth rydym wedi’i gael ar ein gorwel ers cryn amser.  Mae pandemig yr haint Covid-19 ond wedi cyflymu ein meddylfryd ynglŷn â’r mater.  Mae’n gronfa gydategol i’r Gronfa Buddsoddi Tai; fe’i hanelir yn anad dim at adeiladau diwydiannol a masnachol i gynorthwyo’n clystyrau allweddol rydym wedi’u nodi yn ein cynllun twf diwydiannol ac economaidd.  Byddwn yn chwilio am ddatblygwyr i ddod gerbron â chynigion; fe wnawn ddarparu cyllid datblygu iddynt, yn amodol ar feini prawf diwydrwydd dyladwy.  Byddem yn disgwyl i’r datblygwyr ail-gyllido ar ôl iddynt ei adeiladu a chael tenantiaid i fyw ynddo, gan ganiatáu inni ailgylchu’r arian hwnnw i brosiectau eraill.

Gyda thechnoleg ariannol, rydym wedi cytuno i ddarparu £250,000 o gyllid sbarduno i Fintech Cymru, fydd yn caniatáu cynnal rhaglen 9 mis o waith hanfodol i sefydlu ac i roi tystiolaeth o’r meini adeiladu sy’n ofynnol i dyfu cynaliadwyedd y sector yn y rhanbarth.  Bydd y gwaith hwn yn cynnwys asesiadau dichonoldeb i adeiladu canolfannau strategol yng Nghaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Chwmbran.  Rydym yn bwriadu gweithio’n agos â phartneriaid yn y sector preifat, y cwmnïau technoleg ariannol eu hunain a chyda Llywodraeth Cymru i weld sut rydym yn meithrin ac yn ymestyn y clwstwr yn y dyfodol.

Mewn technoleg feddygol, mae yna dwf mewn diddordeb wedi bod gan gwmnïau yn y sector, fel yr amlinellais yn gynharach, ac rwyf yn falch o ddweud ein bod wedi cytuno ar fuddsoddiad mewn technoleg newydd sy’n gysylltiedig â Covid, ac fe fyddwn yn gallu dweud mwy am hynny yn y dyfodol agos iawn.  Rydym hefyd yn bwriadu cefnogi ychydig o fusnesau eraill lle y bydd eu gallu yn helpu ym mhandemigau’r dyfodol, fel bod ganddynt fudd byrdymor ond mae ganddynt hefyd flaengynllun busnes cadarn, cryf rydym yn eitha’ hyderus ynddo.

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi datgan ei 10 blaenoriaeth ar gyfer rhoi sylw i effaith yr haint Covid-19.  Mae yna lawer o ganolbwyntio ar ymyriadau cyllido newydd; un ohonynt yw sefydlu rhaglen her ailadeiladu economïau lleol.  Beth fydd hynny’n ei gyflawni inni? 

Mae hyn yn rhywbeth y canfuom yn ein Fframwaith Buddsoddi ‘llynedd fel blaenoriaeth ar gyfer y ddinas-ranbarth, ac rydym wedi bod yn gweithio arno ers hynny.  Eto, mae’r pandemig wedi miniogi’n ffordd o feddwl ynglŷn â hyn; rydym yn awr yn canolbwyntio llawer mwy ar sut rydym yn ailadeiladu’n heconomïau lleol yr effeithiwyd arnynt yn eitha’ drwg gan yr argyfwng.  Byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid dros yr haf i nodi pa heriau y dylem eu hystyried, a gweithio gyda nhw ac eraill i’w cyflenwi inni.  Rydym yn obeithiol y byddwn yn gweithio’n agos â’n partneriaid ym Mhrifysgol Caerdydd i gyflenwi’r rhaglen hon yn seiliedig ar eu profiadau o Arloesi i Arbed, ac i adeiladu ar y profiadau y mae asiantaethau mwy cyffredinol y llywodraeth ledled y Deyrnas Unedig wedi’u cael.

Mae’r rhain i gyd yn ymyriadau a anelir at ble na wyddom beth yw’r datrysiad ond rydym yn gwybod beth yw’r broblem, ac os ystyriwn y broblem honno fel her i’r gymuned, fe ddylem gael gwahanol actorion i ddod gerbron â gwahanol safbwyntiau ynglŷn â sut i roi sylw iddynt.  Mae’n ceisio bod yn llawer mwy agored i’r arloesi hwnnw a rhoi sylw i rai o’r anghydraddoldebau sydd yn ein hwynebu yn ein cymunedau ar hyn o bryd.

Mae’r blaenoriaethau yn cynnwys gweithio â phartneriaid buddsoddi i greu Cronfa Gyd-fuddsoddi i fusnesau bach a chanolig.  Beth fydd hyn yn gobeithio’i gyflawni a beth yw’r amserlen ar gyfer cyflawni?

Yr amcan trosfwaol yw creu cronfa twf clystyrau i gynorthwyo’n busnesau a’n clystyrau allweddol; rydym yn gweld galw am gyfalaf twf ar gyfer y busnesau hynny, sydd wedi’u sefydlu ond sy’n bwriadu cymryd y cam nesaf a thrawsnewid eu hunain.  Bydd hyn fwy na thebyg tuag at ddiwedd y flwyddyn galendr hon; dyna pa bryd rydym yn gobeithio y byddwn yn gwneud y gronfa honno’n fyw.

Beth yw’ch gobeithion ar gyfer yr hyn y byddwn wedi’i gyflawni erbyn y flwyddyn nesaf?

Byddwn yn gobeithio y bydd llawer o’r prosiectau rydych wedi cyfeirio atynt erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf wedi cael eu cyflenwi, ac y bydd pobl yn gallu gweld eu heffeithiau, y byddant yn gwneud gwahaniaethau i’n busnesau a’n cymunedau.  Rydym yn dysgu wrth inni fynd yn ein blaenau, ac felly rydym yn esblygu.  Mae’r Gronfa Gyd-fuddsoddi i fusnesau bach a chanolig yn enghraifft dda o ymateb i’r anghenion rydym yn eu nodi.

Mae Covid yn effeithio ar sut mae pawb yn gweithio.  Sut mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ymateb, sut mae pawb yn cyfathrebu ac yn gwneud y penderfyniadau hyn?

Rydym yn defnyddio llawer o gynadledda fideo, rydym yn gweithio mewn ffordd lawer mwy ystwyth a hyblyg nag a wnaethom yn y gorffennol.  Mae’r perthnasoedd yn berthnasoedd aeddfed, ac maent wedi ymateb yn dda.

Digwyddiadau ar y gweillGolwg ar yr holl digwyddiadau

Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas Ranbarth Caerdydd

Lleoliad: Digital Meeting
Amser: 10:00yb - 12:00yp

Cabinet Prifddinas Ranbarth Caerdydd

Lleoliad: Caerphilly Council, Tredomen, Ystrad Mynach, CF82 7FQ.
Amser: 10:30yb - 12:30yp

Ymgeisio

Mae Cronfa Buddsoddi Ehangach Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn awr yn agored i dderbyn ceisiadau. Os oes gennych brosiect sydd â’r potensial i gael effaith wir gadarnhaol ar yr economi rhanbarthol, mae arnom eisiau clywed gennych.

Sut mae gwneud cais