Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Cadeirydd Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR): “Mae’r Cabinet Rhanbarthol yn cydnabod bod hwn wedi bod yn benderfyniad eithriadol o anodd i Lywodraeth Cymru.
Mae hefyd yn cydnabod y bydd grwpiau busnes a ymgyrchodd dros y ffordd hon yn siomedig.
Mae ar y rhanbarth angen pecyn ar fyrder o ymyriadau sydd wedi’u seilio ar dystiolaeth, ynghyd â buddsoddiad sylweddol mewn trafnidiaeth gyhoeddus, fydd yn creu seilwaith symudedd twf glân ar gyfer De-ddwyrain Cymru.
Mae buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn rhoi sylw i nifer o anghenion a datrysiadau sylfaenol ar gyfer ein rhanbarth: gwell symudedd, twf glân, gwell perfformiad economaidd, a gwell cynhwysiant cymdeithasol.
Dyna pam mae Metro De Cymru gwerth £734 miliwn yn gonglfaen y Fargen Ddinesig gwerth £1.22 biliwn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae’n brosiect sylweddol iawn, ac fe gaiff ei effeithiau cadarnhaol eu teimlo yn gyflym. Ond yn absenoldeb ffordd liniaru’r M4, mae arnom angen ei weld yn cael ei ategu gan ragor o fuddsoddi a gwelliannau cysylltiedig i drafnidiaeth, yn cynnwys prosiectau dichonol megis Metro 2 a Metro 3.
Ein hamcanion allweddol yw adeiladu rhanbarth cynaliadwy a chadarn, fydd yn gyson ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae ar Brifddinas-Ranbarth Caerdydd eisiau gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i gyd-gyflenwi rhaglenni arwyddocaol sydd o bwysigrwydd strategol a rennir.
Byddai’r Cabinet Rhanbarthol felly’n croesawu’r cyfle i weithio â Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cynllun seilwaith sy’n addas ar gyfer y dyfodol ar gyfer y rhanbarth na fydd mwyach yn cynnwys y ffordd liniaru.”