Upgrade to ChromeUpgrade to FirefoxUpgrade to Internet ExplorerUpgrade to Safari

Gwneud i Ardoll Brentisiaethau Llywodraeth y Deyrnas Unedig weithio yng Nghymru

24.09.2018 // Partneriaeth Sgiliau

Ers i Ardoll Brentisiaethau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddod i rym ym mis Ebrill 2017, mae yna lawer wedi’i ysgrifennu am sut mae’n gweithredu, ond llai felly am yr effaith a gaiff yr Ardoll ar fusnesau.  I ddechrau trafodaeth, fe drefnodd Grŵp Sector Adeiladu Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) i gynrychiolwyr busnes gyfarfod â’r arbenigwyr yng Nghampws Nantgarw yng Ngholeg y Cymoedd ddydd Iau, y 13eg o Fedi.

Ac yntau’n cael ei gadeirio gan Leigh Hughes, Cadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gyda’r siaradwr gwadd, Huw Morris, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes yn Llywodraeth Cymru, roedd y gweithdy rhyngweithiol yn rhoi sylw’n fwy penodol i fusnesau yn y sector adeiladu ac adeiledig, sy’n gweithredu ledled y Deyrnas Unedig ond sy’n ei chael hi’n anodd manteisio hyd yr eithaf ar Ardoll Brentisiaethau’r Deyrnas Unedig yng Nghymru.  Denodd y sesiwn dyrfa gref, gyda 70 o gynrychiolwyr yn mynychu.

Gwnaeth y panelwyr arbenigol Sam Huckle, Pennaeth Prentisiaethau yn Llywodraeth Cymru; Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymwysterau Galwedigaethol yn Cymwysterau Cymru; Ian Price, Cyfarwyddwr CBI Cymru; John Nash, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru – De-ddwyrain Cymru; Mark Bodger, Cyfarwyddwr Partneriaethau Strategol CITB Cymru; ac Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru, gydgyfrannu’u gwybodaeth i roi gwedd gliriach ar sut mae’r ardoll yn gweithio ac i ateb cwestiynau gan y gynulleidfa.

Ar ôl croesawu’r mynychwyr a chyflwyno’r panelwyr, fe ddywedodd Leigh Hughes: “Fel corff, rydym yn magu momentwm, wrth inni ymdrechu i fod yn ddrws agored ar gyfer busnes i ymgysylltu, cynghori a dylanwadu.  Y diwydiant adeiladu a pheirianneg sifil yw un o’n sectorau blaenoriaethol, a’n nod yw creu partneriaethau strategol a all ddiwallu’ch anghenion ac ysgogi mewnfuddsoddi a thwf.”

Mae’r Ardoll Brentisiaethau yn berthnasol i holl gyflogwyr y Deyrnas Unedig ac fe’i telir drwy Talu Wrth Ennill (PAYE) gan gyflogwyr gyda ‘bil tâl’ blynyddol o £3 miliwn neu fwy.  Mae’n disodli’r holl gyllid gan drethdalwyr i brentisiaethau ar gyfer cwmnïau o bob maint, ond fel yr eglurodd Huw Morris, nid yw’n gweithio’n hollol yn yr un ffordd yn Lloegr ag y mae yng Nghymru.

Mae cyflogwyr yn Lloegr yn gallu adennill eu cyfraniadau fel talebau digidol i’w defnyddio i dalu am hyfforddi prentisiaethau, ond nid yw’r system dalebau hon yn gymwys yng Nghymru, lle y caiff arian yr Ardoll Brentisiaethau ei amsugno i mewn i’r gyllideb ehangach i Lywodraeth Cymru i’w wario fel mae’n ei weld yn addas – heb ei glustnodi.  Hefyd, mae llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru wedi nodi sectorau blaenoriaethol a nodau buddsoddi gwahanol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi’i hymrwymo i greu 100,000 o brentisiaethau tan 2021 gyda thri phrif nod.

Yn gyntaf, mae’n dymuno annog cyfran uwch o bobl iau i wneud prentisiaethau ar ddechrau’u gyrfaoedd yn hytrach nac fel trosi.  Yn ail, mae’n rhoi’r pwyslais ar gymwysterau lefel uwch (lefelau 3 i 6).  Yn drydydd, ei nod yw gwella ansawdd y prentisiaethau, gan weithio â Cymwysterau Cymru i ddarparu sylfaen gref ar gyfer addysg uwch bellach os bydd angen.

Ar ôl yr esboniadau hyn, fe wahoddwyd y mynychwyr i fyfyrio fel grwpiau bychain ar ba effaith y mae’r ardoll wedi’i chael ar eu busnes yng Nghymru hyd yn hyn.  Llifodd y drafodaeth wrth i bob un aelod o’r panel adael y llwyfan i ymuno â bwrdd a chymryd rhan yn y sesiwn gwyntyllu syniadau.

Gwnaeth y sesiwn holi ac ateb rhyngweithiol wedyn alluogi’r arbenigwyr i rannu canfyddiadau’u grŵp â gweddill y gynulleidfa ac i roi sylw i’r gwahanol faterion a godwyd gan y gynulleidfa.

Codwyd ystod eang iawn o bynciau, sy’n tystio i’r angen am ddadl.  Roedd pwyntiau allweddol i’w trafod yn cynnwys yr angen brys i unioni’r gwahaniaeth mawr rhwng y sgiliau a ddarperir gan  golegau a’r sgiliau sydd eu hangen yn y diwydiant; y galw am gymwysterau cludadwy ac achrededig; a’r pwysigrwydd o gyfathrebu’n ehangach ynglŷn â chyfleoedd sydd ar gael yn y sector adeiladu i’w wneud yn fwy prif ffrwd ac yn academaidd ddeniadol.

Ar ddiwedd y gweithdy, fe dderbyniodd mynychwyr adroddiad llawn yr “Ardoll Brentisiaethau  – Flwyddyn yn Ddiweddarach”, sydd newydd ei gyhoeddi gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ogystal â Phecyn Cymorth Prentisiaethau i Gyflogwyr sy’n darparu rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael a manylion cysylltu ar gyfer yr 21 o ddarparwyr prentisiaethau sy’n bodoli yng Nghymru.

I gloi, fe ddywedodd Leigh Hughes: “Mae yna heriau sylweddol yn parhau ac nid oes gennym yr holl atebion eto, ond mae heddiw wedi dangos bod yna barodrwydd gwirioneddol i siarad ac i gydweithredu.  Mae Llywodraeth Cymru yn fodlon deall anghenion cyflogwyr, ond mae hi hefyd yn bwysig bod cyflogwyr yn rhoi ystyriaeth i’r heriau sy’n wynebu colegau, prifysgolion a darparwyr hyfforddiant.

“Nod y gweithdy rhyngweithiol hwn oedd codi ymwybyddiaeth o bob rhan o’r triongl, ac ni allem fod wedi gofyn am well trafodaeth.  Edrychwn ymlaen at weld nifer cynyddol o fusnesau’n ymgysylltu ac yn cymryd rhan, gan fod hwn yn ddiwydiant cyffrous rydym yn gweithio ynddo.”

CCR Chevron

Digwyddiadau ar y gweillGolwg ar yr holl digwyddiadau

Ymgeisio

Mae Cronfa Buddsoddi Ehangach Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn awr yn agored i dderbyn ceisiadau. Os oes gennych brosiect sydd â’r potensial i gael effaith wir gadarnhaol ar yr economi rhanbarthol, mae arnom eisiau clywed gennych.

Sut mae gwneud cais