Upgrade to ChromeUpgrade to FirefoxUpgrade to Internet ExplorerUpgrade to Safari

Heriau i Ganol y Ddinas

15.09.2020

Ysgrifennwyd gan Chris Sutton, Cyfarwyddwr Sutton Consulting.

 

Ym mis Ebrill, yn fy erthygl o’r enw “Out of the Crisis, a Fresh Start” soniais am y ffaith bod y pandemig wedi rhoi cyfle i ni ailystyried ein ffordd o feddwl, herio rhagdybiaethau ac ailddychymygu sut y dylai ein heconomi weithredu. Pe baem yn manteisio ar y cyfle hwn, y byddai gwir gyfle y gallai Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ddod ohoni’n gryfach, yn fwy cystadleuol, yn fwy gwydn, ac mewn sefyllfa well i ffynnu yn y blynyddoedd nesaf.

 

Bum mis yn ddiweddarach, mae’r tarfu mawr sydd wedi bod ar yr economi yn amlwg. Yr hyn sydd hefyd yn amlwg fodd bynnag yw bod cyfle i edrych ymlaen ac addasu’r amgylchedd busnes i adlewyrchu’r newidiadau hyn.

 

Gweithio gartref – cyflymu a derbyn?

Rydyn ni wedi gweld tarfu sylweddol ar batrymau gwaith ac mae’n bosibl na fyddwn yn ôl i unrhyw fath o normalrwydd tan yn hwyr yn 2021.

Yn ddiau, bydd yr arbrawf hwn mewn ‘gweithio gartref’ o raid yn newid agweddau ac yn creu arferion gwaith newydd o bell ar gyfer y dyfodol – OND allwn ni ddim bod yn sicr eto sut y bydd yn datblygu.  Yr hyn sy’n sicr serch hynny yw na fydd yn ateb ‘un ateb yn addas i bawb’. Os yw’n gweithio i weithwyr a chyflogwyr, yna mae gweithio gartref, neu weithio hyblyg yn wir, yn debygol o gael ei dderbyn yn barhaol. OND y prawf allweddol fydd yr effaith hirdymor ar gynhyrchiant.

Fy argraff i’n bersonol yw bod gweithwyr swyddfa a busnesau wedi ymdopi’n dda yn ystod y cyfnod cloi o ran gwneud y gwaith sydd o’u blaenau, ond efallai fod creadigrwydd wedi ei lesteirio rywfaint.  Sut gallwn ni ail-greu’r rhyngweithiadau anffurfiol sy’n digwydd bob dydd o fewn swyddfeydd a’r diwylliant caffi, yn fewnol o fewn busnesau a chyda sefydliadau tebyg – i groes-werthu, i lunio data er mwyn cael gwerth ac, yn y pen draw, i greu marchnadoedd newydd?

Yn ogystal, mae’r materion sydd angen eu hystyried o ran yr heriau ychwanegol mae gweithio gartref yn aml yn eu hachosi i’n gweithwyr iau neu’r rhai sydd ar ddechrau eu gyrfa.  Mae gweithio o bell yn ei gwneud yn anos dysgu gan eraill ac yn aml nid yw amodau cartref staff iau o’r un ansawdd â rhai gweithwyr cartref hŷn.  Mae’n debyg bod yr ateb yn cynnwys senarios lle mae mwy o gydbwysedd rhwng y ddau; mwy o hyblygrwydd a dewis i gyflogeion, ond heb wadu’r cyfle i weithio mewn swyddfeydd.

Mae fy nhrafodaethau ag uwch arweinwyr cwmnïau mawr sy’n defnyddio swyddfeydd yn dangos eu bod yn awyddus i weld gweithwyr yn ôl yn y swyddfa ond mai’r hyn sydd wedi rhwystro hynny bennaf yw darpariaeth gofal plant ynghyd â diffyg capasiti a hyder defnyddwyr mewn trafnidiaeth gyhoeddus.   Fodd bynnag, gydag ysgolion bellach yn ailagor a chynnydd graddol yn hyder defnyddwyr a chapasiti trafnidiaeth gyhoeddus, dylai’r chwarter nesaf roi cipolwg gliriach o’r daith rydyn ni arni.  Mae monitro’r tueddiadau hyn yn hanfodol gan y bydd ganddynt oblygiadau hirdymor ehangach sylweddol ar bolisi trafnidiaeth, ynni ac ati.

 

 

Ydy hyn yn awgrymu diwedd y farchnad swyddfeydd draddodiadol?

Ydy ac nac ydy. I’r sector preifat, NID wyf yn rhagweld y bydd marchnad swyddfa GRADD A yn gostwng yn gyflym.  Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd cwmnïau’n lleihau gofod llawr, a bydd y broses ddatblygu, sydd wedi creu dros 1.5 miliwn troedfedd sgwâr yng nghanol dinas Caerdydd yn ystod y degawd diwethaf, yn sicr o arafu wrth i ddatblygwyr a chyllidwyr geisio addasu eu cynnyrch i alwadau newydd.

Fodd bynnag, bydd adeiladau swyddfa GRADD B mewn lleoliadau llai poblogaidd yn debygol o ostwng mewn gwerth a gallent lusgo’r farchnad gyfan ar ei hôl.  Mae pob un o’r tair dinas ar hyd arfordir de Cymru wedi cael eu taro’n galed gan y cyfnod cloi.  Mae hyn wedi cael effaith ar ein sectorau manwerthu, hamdden a diwylliannol, a bydd yr effaith honno’n parhau a gallwn ddisgwyl gweld llawer o fusnesau’n methu. Mae gan Gaerdydd gyfran uchel o feddianwyr hamdden (38.7% o’r stryd fawr, ffynhonnell: TDC) felly mae hithau’n agored i niwed hefyd, ond byddem yn gobeithio bod y brifddinas yn ddigon cryf i oroesi’r storm hon a gallu defnyddio gofod segur mewn ffordd wahanol. Yn ogystal, ni fyddai’n afrealistig meddwl y daw diwedd ar swyddfeydd canolog mawr i weithwyr y sector cyhoeddus.

 

Cyfle i fod yn fentrus

 

Credaf mai ar ganol ein dinasoedd a’n trefi eilaidd y bydd yr effaith fwyaf. Felly gadewch i ni droi’r argyfwng presennol yn gyfle i awdurdodau lleol, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a’n Cytundebau Dinas a Thwf, gael eu grymuso i brynu ac adfywio blociau mawr yng nghanol ein trefi yn orfodol i greu cyfuniad mwy deniadol o ofod preswyl, hamdden a manwerthu.  Os oes angen llai o swyddfeydd a siopau, mae angen inni allu newid yn radical ac yn gyflym y ffordd y mae adeiladau’n cael eu defnyddio.  Gadewch i ni ystyried llacio cyfyngiadau cynllunio a mwy o ddefnydd o barthau a phrosesau cynllunio symlach, er mwyn helpu i ail-lunio ein trefi a’n dinasoedd mewn ffordd sy’n fwy ymatebol i anghenion heddiw.

Mae llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi’n ddiweddar y bydd y Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd, sy’n ganolog i’r system gynllunio, yn cael ei ailwampio.  Mae gan Gymru gyfle i fyfyrio ar y newidiadau hyn a gwneud amrywiadau sy’n adlewyrchu anghenion penodol Cymru yn well.

Byddai mwy o hyblygrwydd rhwng dosbarthiadau defnydd yn caniatáu i fusnesau ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd economaidd yn gyflym ac yn gost effeithiol.  Byddai Hawliau Datblygiadau a Ganiateir, yn amodol ar safonau gofynnol, yn caniatáu troi eiddo gwag yng nghanol trefi yn fannau preswyl neu’n fannau ‘hawdd lleoli, hawdd gadael’ yn gyflym, sydd mor hanfodol i dyfu ein sector Busnesau Bach a Chanolig.  Yn wir, mae cyfleoedd i greu mwy o gysylltiadau ‘llywodraeth gyfan’, ac mae meysydd fel cynllunio, ardrethi busnes, seilwaith ac adfywio oll yn feysydd allweddol sy’n galw am ymyrraeth.

Gadewch i ni ystyried cynllun sgrapio ar gyfer parciau manwerthu ar gyrion trefi.  Bu cydgrynhoi sylweddol yn y sectorau DIY, carpedi a dodrefn felly nid oes angen cymaint o ofod manwerthu ar gyrion trefi. Os wnawn ni ddim byd, byddwn yn parhau i weld y parciau hyn yn cael eu meddiannu gan fanwerthwyr ‘pentyrru uchel’ yn cystadlu’n uniongyrchol â’n manwerthwyr ar y stryd fawr.  Felly gadewch i ni annog ailddatblygu gofodau yn rhai preswyl neu’n barciau logisteg Prif Ganolfan a Lloerennau sy’n cyfuno depos logisteg dosbarthu i gartrefi neu ‘glicio a chasglu’ o bosibl.  Byddai hyn yn rhoi hwb sydd mawr ei angen i’r sector ‘logisteg dinesig’ sydd wedi chwarae rhan mor ganolog o fewn yr argyfwng presennol, heb fawr ddim cymorth strategol, ac ar hyn o bryd sy’n sbardun allweddol i gyflogaeth mewn diwydiant a logisteg.

 

Dyma lle mae angen bod yn fentrus Mae angen inni achub ar y cyfle. Mae prisiau canol trefi yn isel iawn, felly gadewch i ni fanteisio ar hynny a dechrau gwneud gwir gynnydd o ran manteisio i’r eithaf ar ein cyfleoedd cyfunol i adfywio ac “adeiladu’n ôl yn well”.

Digwyddiadau ar y gweillGolwg ar yr holl digwyddiadau

Cabinet Prifddinas Ranbarth Caerdydd

Lleoliad: Digital Meeting
Amser: 10:00yb - 12:00yp

Ymgeisio

Mae Cronfa Buddsoddi Ehangach Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn awr yn agored i dderbyn ceisiadau. Os oes gennych brosiect sydd â’r potensial i gael effaith wir gadarnhaol ar yr economi rhanbarthol, mae arnom eisiau clywed gennych.

Sut mae gwneud cais