Upgrade to ChromeUpgrade to FirefoxUpgrade to Internet ExplorerUpgrade to Safari

Leigh Hughes – Holi ac Ateb

04.09.2020 // Partneriaeth Sgiliau

Roedd Leigh Hughes, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chyfarwyddwr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol Bouygues Construction, yn siarad â Mark Powney.

Rhowch drosolwg inni, os gwelwch yn dda, ar eich cefndir a’r rolau a’r cyfrifoldebau sydd gennych ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Rwyf wedi bod yn gweithio yn y diwydiant adeiladu yn Ne Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig ers dros 30 mlynedd. Y fi yn awr yw’r cyfarwyddwr cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn Bouygues Construction yn y Deyrnas Unedig; mae’n gwmni byd-eang ond rydym yn gweithredu yn y DU gyda gwerth £1.5 biliwn o weithgareddau ac yn cyflogi 4,500 o bobl.

Y fi yw cadeirydd CITB [Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu] yng Nghymru, ac rwyf hefyd yn gadeirydd Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n porthi Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a Llywodraeth Cymru drwy’r Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau a Chyngor Datblygu’r Economi.

Sut rydych yn cydbwyso hynny i gyd, sut mae’ch cydbwysedd gwaith-bywyd?

Mewn gwirionedd, mae’n iawn; mae gennym staff gwirioneddol dda yn ein tîm. Credaf y dylai pobl fel y fi roi ychydig yn ôl i’n hardal leol, ac felly mae’n bwysig i mi fy mod yn gwneud amser yn fy nghalendr i wneud cyfraniad at yr economi a’m helpodd i gyrraedd lle rydwyf. Mae arnaf eisiau sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfle rwyf i wedi’i gael.

Mae llawer o fusnesau yn awr yn wynebu’r rhagolygon o orfod dileu swyddi. Pa mor ddifrifol rydych yn credu y bydd yr effaith ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd?

Credaf y byddwn yn gweld nifer cynyddol o swyddi’n cael eu colli a gweithleoedd yn cau. Mae pob un o’n sectorau blaenoriaethol yn profi heriau gwahanol, ond hefyd cyfleoedd gwahanol. Roedd ein cyflogwyr mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd, er enghraifft, wedi dechrau cael un neu ddau o broblemau ond maent wedi dychwelyd fwy neu lai i fusnes fel arfer, ac ni chânt eu taro mor galed ag adeiladu a deunyddiau gweithgynhyrchu datblygedig, er enghraifft.

Felly, fe fydd y sectorau’n cael eu taro mewn gwahanol ffyrdd ac i wahanol lefelau. Rydym yn gweithio’n agos â nhw i ddeall beth yw’r heriau hynny a’r hyn fydd y canlyniadau dichonol iddynt.

Bydd pobl ifanc hynod fedrus ac sydd wedi’u cymell yn dda yn hanfodol i ailadeiladu economi’r Deyrnas Unedig. A oes yna ddeialog a chanolbwyntio strategol digonol o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ynglŷn â phwysigrwydd sgiliau ar gyfer yr adferiad?

Mae’r Cabinet Rhanbarthol ac arweinwyr a phrif weithredwyr y 10 awdurdod lleol o’r dechrau cyn Covid wedi gweld bod sgiliau o’r pwysigrwydd mwyaf. Mae Covid wedi amlygu hynny, ac rydym wedi’i wneud yn ffocws allweddol o rôl Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru, oherwydd ein bod yn gweithio’n gydweithredol â nhw ar hyn.

Mae’n ymwneud â sicrhau bod sgiliau’n allweddol i’r adferiad a sicrhau nad yw cyflogwyr ac unigolion yn eu gweld fel blaenoriaeth isel. Mae’n rhaid inni roi sylfeini ar waith sy’n caniatáu i bobl a busnesau dyfu unwaith eto pan gwyd y cyfle.

Rydym wedi gweld enghreifftiau anhygoel o addasu ac amrywiaethu. Beth yr hoffech ein gweld yn ei ddysgu o hyn fel y gallwn ddatblygu gweithlu cadarnach a diogel ar gyfer y dyfodol?

Yr hyn a welsom o’n hymgysylltiad â chyflogwyr ledled y sectorau yw bod llawer o fusnesau wedi mynd yn arloesol a dynamig. Mae’n rhaid inni gadw’r holl arloesi ac ymarfer gorau hyn. Os ydym am gystadlu fel rhanbarth, mae’n rhaid inni rannu ymarfer da yn gydweithredol.

Gallai fod ar bobl â sgiliau trosglwyddadwy angen hyfforddiant ychwanegol sy’n caniatáu iddynt neidio o’r naill sector i’r llall. Mae’n rhaid inni edrych ar allu amryddawn ein gweithlu, ein dysgwyr ifainc a’n dysgwyr aeddfetach, i weld sut rydym yn darparu sylfaen iddynt orau y gallant ei throsglwyddo o sector i sector, sy’n arwain at gyflogaeth lawn a thwf.

Sgiliau yw conglfaen hynny. Mae’n rhaid inni, yn awr yn fwy nag erioed, fod yn gydweithredol ac yn gyfathrebol ynglŷn â sut rydym yn cadw ac yn rhannu’r hyn a ddysgir o’r cyfnod hwn, oherwydd y bydd hynny’n ein gwneud yn gadarnach fel rhanbarth.

Mae yna rai heriau unigryw wedi bod i ddatblygu sgiliau, yn enwedig ym myd prentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol. A allwn ddisgwyl gweld symudiad oddi wrth sgiliau a chyrsiau mwy academaidd i ymagweddau mwy ymarferol, sydd wedi’u seilio ar brentisiaethau?

Rydym wedi dechrau gweld hynny p’un bynnag. Mae’r gwaith a wneir gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) a Cholegau Cymru, a sefydliadau Addysg Uwch, oll yn rhan o’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol. Mae cyflawni sgiliau academaidd yn hanfodol hyd at 16 mlwydd oed, ond ar ôl 16, mae’n ymwneud â dewis galwedigaethol dysgwyr.

Er bod hwn yn gyfnod anodd, fe siaradir am brentisiaethau o hyd ac fe ofynnir amdanynt. Rydym yn bwriadu gweld prentisiaethau’n cael eu hehangu ledled gwahanol sectorau, a phrentisiaethau gradd a phrentisiaethau uwch.

Mae gennym enghreifftiau rhagorol yn y rhanbarth o brentisiaethau ar y cyd. Mae hynny’n rhywbeth y mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn bwriadu’i ddilyn yn weithgar dros y 12 mis nesaf.

Rydym wedi gweld cydweithredu rhyfeddol ledled ffiniau’r sectorau cyhoeddus a phreifat. A oes yna fwy y gallwn ei wneud i sicrhau’r rôl anhepgor y mae ar sgiliau angen ei chwarae?

Mae rôl y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a’r colegau a’r prifysgolion a sefydliadau dysgu sy’n seiliedig ar waith yn hanfodol. Mae yna sylweddoliad mewn busnesau nad yw dyrannu arian tuag at sgiliau a hyfforddiant, mewn cyfnodau heriol, efallai’n cael y flaenoriaeth uchaf; mae’n ymwneud yn fwy â busnesau’n goroesi. Mae ar y Llywodraeth angen gweithio

â busnesau a diwydiant, ac rwyf yn gweld bod hynny’n gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae pawb yn gweithio’n gyfunol oherwydd gyda’n gilydd fe ddown yn well atyniad ar gyfer mewnfuddsoddi.

Ar beth mae’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn canolbwyntio yn awr er mwyn sicrhau ei bod yn ychwanegu’r gwerth mwyaf?

Lansiom gynllun 3 blynedd ychydig cyn Covid. Weithiau, mae’r broses o ddod â sgiliau newydd i mewn yn cymryd hyd at 18 mis i gyrraedd y system, ac felly ni welwn ganlyniadau am 2-3 blynedd. Un o’r pethau rydym wedi’i wneud, gan weithio â’r rhanbarth a Llywodraeth Cymru, yw ail-ganolbwyntio’n hymdrechion am y 12-18 mis nesaf, gan sylwi ar y rhagfynegiadau cyfredol. Rydym wedi rhannu hynny â’n holl bartneriaid, ac mae’r tîm yn y swyddfa’n gwneud gwaith ardderchog.

Bydd sgiliau trosglwyddadwy yn bwysig i ganiatáu i bobl bontio o’r naill sector i’r llall.

Camwch ymlaen 12 mis, beth rydych yn ei obeithio y byddai’r Bartneriaeth Sgiliau wedi’i gyflawni?

Os gallwn edrych yn ôl a dweud ein bod wedi gwneud y gorau y gallem, na chawsom unrhyw ysgytiadau, ac y gweithiodd pawb gyda’i gilydd fel un tîm, fe fyddai hynny’n fan da lle y byddwn yn fodlon. Nid oes arnom eisiau bod mewn sefyllfa lle rydym yn dweud – ‘petaem ond wedi gwneud hyn’.

Digwyddiadau ar y gweillGolwg ar yr holl digwyddiadau

Cabinet Prifddinas Ranbarth Caerdydd

Lleoliad: Digital Meeting
Amser: 10:00yb - 12:00yp

Cabinet Prifddinas Ranbarth Caerdydd

Lleoliad: Caerphilly Council, Tredomen, Ystrad Mynach, CF82 7FQ.
Amser: 10:30yb - 12:30yp

Ymgeisio

Mae Cronfa Buddsoddi Ehangach Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn awr yn agored i dderbyn ceisiadau. Os oes gennych brosiect sydd â’r potensial i gael effaith wir gadarnhaol ar yr economi rhanbarthol, mae arnom eisiau clywed gennych.

Sut mae gwneud cais