Fel un o Sectorau Blaenoriaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae’n galonogol iawn gweld cymaint o ddatblygiadau cadarnhaol yn digwydd yn y Diwydiannau Creadigol ledled de Cymru.
Mae’r diwydiant hwn sy’n tyfu’n gyflym wedi dod â chyfleoedd hyfforddi gwych, llwybrau gyrfa cryf a £361 miliwn GYC i’r rhanbarth, gan adeiladu proffil byd-eang drwy gynyrchiadau sy’n cynnwys His Dark Materials, Sherlock, The War of the Worlds a llawer o lwyddiannau proffil uchel eraill.
“Pa mor dda ydyn ni? A pha mor dda y gallem ddod?
I ddathlu hyn, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi ffurfio partneriaeth â Business News Wales i gyhoeddi cyfres eang o erthyglau yn cynnwys y bobl sydd wedi tyfu eu llwyddiant yma yng Nghymru – o enillwyr gwobrau Oscar, Bafta ac Emmy megis Awduron Sgriptiau, Cynhyrchwyr, Cyfarwyddwyr, arbenigwyr SFX a mentrau Ôl-gynhyrchu, i’r cynorthwywyr lleoliad, timau castio, cwmnïau cyfarpar, darparwyr llety a rheolwyr arlwyo nas gwelir yn aml sy’n gweithio’n ddiflino gan sicrhau safonau o’r radd flaenaf, pob un yn chwarae rhan werthfawr yn yr hyn a elwir yn ‘Oes Aur’ y byd Ffilm a Theledu yng Nghymru.
“O enillwyr gwobrau Oscar, BAFTA ac Emmy – i gyflenwyr offer a darparwyr llety”
Edrychwch ar ein Trafodaeth Ddigidol ddydd Llun, 1 Chwefror a byddwch yn clywed barn a mewnwelediad pedwar ffigwr allweddol o dirwedd greadigol Cymru – gyda’r Cadeirydd Allison Dowzell, Rheolwr Gyfarwyddwr Screen Alliance Wales, yn ymuno â Sue Jeffries (RhG Sgil Cymru), Richard Moss (RhG Cwmni ôl-gynhyrchu Gorilla) a Tom Ware (Cyfarwyddwr Cynhyrchu a Pherfformiad, Cyfadran Diwydiannau Creadigol, Prifysgol De Cymru), y bydd pob un ohonynt yn rhoi asesiad gonest o ble mae’r diwydiant hwn ar hyn o bryd; a ble y gallai fynd yn y dyfodol.
“Cynhyrchu doniau drwy fynediad ehangach i hyfforddiant a llwybrau gyrfa”
Mae’r pynciau a drafodir yn cynnwys sut y gall Cymru ddiwallu’r angen i gynhyrchu doniau, sut y gellir ehangu mynediad i hyfforddiant a gyrfaoedd yn y diwydiant – ac ystyried sut y gall y rhanbarth fanteisio ar y cyfle diamheuol i wneud de Cymru yn gyrchfan sefydledig o ddewis ar gyfer cynyrchiadau Ffilm a Theledu byd-eang.
Cadwch olwg am y drafodaeth ddydd Llun, 1 Chwefror fwynhau’r hyn a fydd yn drafodaeth ddiddorol iawn ar ddiwydiant sy’n rhoi Cymru a gweithwyr proffesiynol Cymru ar y map ledled y byd.