Project Category: Trafnidiaeth / peirianneg

Datblygu gwell seilwaith ar ochr y ffordd er mwyn hwyluso mwy o ddefnydd o fysiau ac amseroedd teithio cyflymach ynghyd â chyfleuster parcio a theithio i'r dwyrain o Gasnewydd gyda gwefru Cerbydau Trydanol.
Cyflwyno cyfres o becynnau cynaliadwy a theithio llesol a fydd yn hwyluso cysylltiadau bws gwell yng nghanol dinas Caerdydd, seilwaith teithio llesol gwell, a gwelliannau o safbwynt diogelwch cerddwyr.
Cyflwyno cyfnewidfa rhwng y rheilffyrdd a'r bws, gan gynnwys cyfleusterau teithwyr o ansawdd uchel, gwybodaeth electronig, mwy o gapasiti o'r 280 o leoedd parcio a theithio presennol, a gwefru trydanol ar gyfer bysiau a cheir preifat.
Creu cysylltiad rheilffordd 3-4 milltir o hyd o Abertyleri i Gwm Ebwy, yn Aber-bîg, gan gynnwys cyfleusterau parcio a theithio ar gyfer 100 o gerbydau.
Creu canolfan drafnidiaeth a “Chwarter yr Orsaf” adfywiedig yn cynnwys cyfnewidfa fysiau â saith cilfach, safleoedd tacsis, raciau i feiciau, parcio a theithio, a mannau gwefru cerbydau trydanol.
Creu cyfleusterau cyfnewidfa effeithiol gan gynnwys Parcio a Theithio fel rhan o gynllun adfywio ehangach ar gyfer safle tir llwyd sylweddol.
Creu maes parcio ychwanegol â 150-200 o fannau parcio ar ochr ddeheuol gorsaf drenau Cyffordd Twnnel Hafren ac ailgyflunio maes parcio presennol yr orsaf fel ei fod yn cynnwys mannau beicio a theithio ychwanegol, mynediad mwy diogel i gerddwyr a beicwyr, cyfnewidfa fysiau a threnau sydd wedi’i hailwampio, mannau gwefru cerbydau trydanol, a chyfleusterau adeiladau'r orsaf sydd wedi’u gwella.
Ailddatblygu gorsaf drenau Caerdydd Canolog er mwyn creu canolfan drafnidiaeth integredig a fydd yn sicrhau gwelliant sylweddol i'r mynediad i ganol Caerdydd.
Creu cyfnewidfa fysiau a chyfleuster parcio a theithio yng ngorsaf reilffordd Dociau'r Barri er mwyn gweithredu fel porth i ganol y dref a Glannau'r Barri.
Darparu cyfleuster parcio a theithio yn cynnwys mannau gwefru cerbydau trydanol a thua 200 o fannau parcio, i weithredu fel canolfan allweddol ar gyfer teithiau rhanbarthol yn yr ardal.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.