Cartrefi ar gyfer y Rhanbarth
Beth yw'r prosiect?
Mae Cartrefi ar gyfer y Rhanbarth yn rhaglen ariannu wedi’i thargedu i ddatgloi safleoedd preswyl wedi’u dyrannu ledled y rhanbarth i gynorthwyo â chyflenwi cartrefi newydd mewn ardaloedd lle nad oes llawer o ddatblygiadau tai newydd wedi bod. Mae’r gronfa yn bwriadu darparu 2,800 o gartrefi newydd ledled deg ardal awdurdod lleol y rhanbarth.
Rhannu:
Cynlluniwyd y prosiect i fynd i’r afael â materion hyfywedd sydd wedi atal safleoedd rhag cael eu datblygu ar gyfer tai newydd. Mewn arolwg o 38 safle allweddol oedd wedi’u hoedi ledled y Brifddinas-Ranbarth, roedd mwy na hanner (55%) wedi’u hatal gan gostau adfer, sef cael gwared ar lygryddion a difwynwyr fel arfer o dir sydd wedi bod â defnydd diwydiannol yn flaenorol. Rhesymau eraill dros safleoedd yn cael eu hoedi yw costau adeiladu mynediad i’r rhwydwaith lonydd – yn aml yn ofyniad caniatâd cynllunio – neu gostau gosod seilwaith arall ar y safle fel cysylltiadau cyfleustodau a chyfyngiadau topograffig fel yr angen i glirio coetir neu lefelu tir.
Mae'n rhaid i bob cais am gyllid gael ei gyflwyno gan bartner awdurdod lleol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd sy'n gweithredu mewn rhinwedd noddwr prosiect a rheolwr unrhyw ddyfarniadau cyllid.
Bydd dyfarniadau hyd at £8 miliwn yn cael eu dyfarnu i awdurdodau lleol ar sail gystadleuol iawn.
Er mwyn bod yn gymwys am gyllid gan y Gronfa Bwlch Hyfywedd Tai, mae'n rhaid i geisiadau fodloni'r meini prawf canlynol:
- Safleoedd yn darparu isafswm o 40 cartref newydd
- Wedi'u lleoli ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd
- Cefnogaeth gan yr awdurdod lleol
- Caniatâd cynllunio ar waith (neu lwybr clir i gyflawni'r cynllunio fel arall)
- Gallu cwblhau'r diwydrwydd dyladwy gofynnol, gan gynnwys tystiolaeth o fwlch hyfywedd
- Gallu bodloni dyddiad cau gwario Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer dadansoddiad llawn o'r cyllid erbyn 31 Mawrth 2024
Mae enghreifftiau o gynlluniau posibl yn cynnwys: seilwaith penodol i'r safle, clirio safle, gwaith paratoi’r pridd neu waith adfer tir. Bydd pob cynllun yn amodol ar gydymffurfiaeth â chymorth gwladwriaethol.
Buddsoddi a throsoledd
£31.6m
Buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
£15m
Cyllid cyfatebol
£750m
Trosoledd rhagweledig
Buddion a chanlyniadau disgwyliedig
- Darparu rhwng 1,400 a 2,800 o gartrefi yn y rhanbarth dros y deng mlynedd nesaf.
- Darparu 16% yn fwy o gartrefi mewn ardaloedd o gynhwysiant economaidd isel na fyddai’n cael eu darparu gan unrhyw brosiect arall a arweiniwyd gan y farchnad a mynd i’r afael â’r dosbarthiad anghyson o adeiladu tai ledled y rhanbarth.
- Denu buddsoddiad preifat mewn tai o hyd at £490 miliwn.
- Hybu hygyrchedd i gyfleoedd cyflogaeth ar gyfer gweithwyr drwy’r rhanbarth, ac o ganlyniad darparu effeithiau marchnad lafur sy’n gwella cynhyrchiant i gyflogwyr.
- Cychwyn adeiladu, creu swyddi, a gwella rhagolygon twf a chystadleurwydd hirdymor y rhanbarth.
- Cymunedau lleol i fuddio o waith adfer tir diffaith a chefnogi seilwaith ar gyfer cartrefi newydd.
Cyflawniadau allweddol
- Y gronfa yn cael ei gweithredoli
- Ceisiadau yn cael eu cyflwyno a’u hasesu
- Rhaglenni datblygu yn cael eu cymeradwyo
- Cynllunio gweithredu
- Cychwyn y gwaith