Creo Medical: Technoleg Sterileiddio Plasma Oeraidd COVID-19

Statws: Cyflenwi
Cefnogi datblygiad technoleg sterileiddio a diheintio plasma oeraidd yn Creo Medical.

Beth yw'r prosiect?

Mae arian buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd er mwyn cefnogi datblygiad y dechnoleg sterileiddio a diheintio plasma oeraidd yn Creo Medical. Mae’r gallu technegol sylfaenol wedi’i brofi, ac mae angen buddsoddiad bellach i barhau i ddatblygu’r cynnyrch er mwyn lansio cynhyrchion newydd ar y farchnad a ellir lladd bacteria a firysau. Mae’r dechnoleg wedi’i phatentu’n gryf, a Creo Medical sy’n berchen ar yr Eiddo Deallusol. Mae profi cynnar ar COVID-19 wedi dangos cyfradd ddifa o 99.9%.

Rhannu:

Yn benodol, bydd y cyllid o £2.05 miliwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfnod cyntaf y prosiect, sef defnyddio tîm ymroddedig i ddatblygu a gweithgynhyrchu ystod o unedau cysylltiedig â COVID-19 yn sydyn i ddarparwyr gofal critigol ar gyfer diheintio gwrthrychau, pobl a lleoedd, gan gynnwys cyfarpar diogelu personol ac offer ac arwynebau mewn ysbytai.

Bydd Creo Medical yn sefydlu is-gwmni sydd mewn perchnogaeth lwyr i redeg y prosiect. Cynllunnir y bydd yr is-gwmni yn tyfu dros gyfnod o bum mlynedd i gyflogi tua 100 o weithwyr (yn debyg i lefelau cyflogi presennol rhiant-gwmni Creo Medical).

Buddsoddi a throsoledd

£2.06m

Buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

stats-chevron

£10m

Trosoledd rhagweledig

stats-chevron

Buddion a chanlyniadau disgwyliedig

  • Cefnogi busnes rhanbarthol i frwydro yn erbyn pandemig COVID-19.
  • Trosoledd sector preifat wrth ehangu cyfleusterau craidd yn Creo Medical.
  • Twf mewn trosiant a chyflogaeth yn Creo Medical Group. Y nod yw creu 30 swydd erbyn Rhagfyr 2020, gyda’r potensial o 70 swydd ychwanegol o fewn Creo i’w hychwanegu o 2021 ymlaen. Yn ychwanegol, bydd swyddi’n cael eu creu o fewn y gadwyn gyflenwi, gyda’r rhan fwyaf ohoni o fewn y rhanbarth.
  • Cynnydd mewn gwariant ar ymchwil a datblygu busnes o fewn y rhanbarth.
  • Mae Creo yn sefydliad corfforaethol mawr a gallai’r cynnig hwn ddod â gwerth ychwanegol gros sylweddol i’r rhanbarth erbyn Rhagfyr 2023 unwaith y bydd yn gwbl weithredol. Bydd y cynnig yn cefnogi allforion byd-eang, datblygu gweithlu hynod fedrus, a datblygu cadwyn gyflenwi leol a chenedlaethol.
  • Bydd y prosiect yn cyflawni’r elw gofynnol ar fuddsoddiad o fewn cyfnod o bum mlynedd.
  • Gwella ecosystemau arloesi lleol gyda chysylltiadau agosach yn cael eu meithrin â sefydliadau addysg uwch yn ystod y gwaith parhaus o optimeiddio cynnyrch.

Y newyddion diweddaraf ar y prosiect

There are no project updates at present. Please check back later.