Cronfa Her
Beth yw'r prosiect?
Nod Cronfa Her £10 miliwn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw ailadeiladu cyfoeth lleol drwy ddod â datrysiadau arloesol i fynd i’r afael â rhai o broblemau cymdeithasol mwyaf dybryd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd ac YLab, bydd y gronfa yn gwahodd ein cyrff sector cyhoeddus i ddatblygu heriau a chysylltu â sefydliadau sy’n gallu darparu datrysiadau arloesol i’r heriau a nodwyd. Nod yr ymagwedd hon yw defnyddio creadigrwydd a dyfeisgarwch y rhanbarth a dod â’r sector cyhoeddus a phreifat at ei gilydd er mwyn cyflawni datrysiadau gwreiddiol, lle nad oes datrysiadau masnachol yn bodoli’n bresennol, ac i ddarparu llwybr i’r farchnad ar gyfer y datrysiad.
Rhannu:
Mae tair thema â blaenoriaeth wedi’u nodi. Y thema gyntaf yw cyflymu datgarboneiddio – yn benodol, o ran gwella ansawdd yr aer, a thrafnidiaeth. Yr ail yw gwella iechyd a lles dinasyddion y rhanbarth, gan edrych ar faterion megis bwyd ac iechyd, a diogelwch bwyd. Y trydydd yw cefnogi, ehangu a thrawsffurfio cymunedau, gyda ffocws ar ganol trefi, strydoedd mawr trefi a chymunedau gwledig.
Tra bo’r rhain i gyd yn broblemau hirdymor y byddai cyrff sector cyhoeddus yn mynd i’r afael â hwy, mae angenrheidrwydd y sefyllfa wedi cynyddu yn dilyn pandemig y coronafeirws (COVID-19). Er enghraifft, mae cyfyngiadau lleol a chenedlaethol wedi codi cwestiynau newydd ynglŷn â sut rydym yn trefnu ein trafnidiaeth a gwella ansawdd yr aer. Maent hefyd wedi cynyddu’r angen i ddod o hyd i ddatrysiadau newydd i helpu ein strydoedd mawr a chanol ein trefi, sydd wedi wynebu dirywiad economaidd.
Mae'r galwad cychwynnol am heriau wedi'i dargedu at sefydliadau sector cyhoeddus ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd sydd eisiau datblygu a rhedeg heriau.
Gallai sefydliadau sector cyhoeddus gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd, a heddluoedd ac ati. Fodd bynnag, er mwyn derbyn cyllid, mae'n rhaid i bob her roi cyfle i wneud y canlynol:
- Datrys heriau mwyaf cymdeithas
- Creu datrysiadau arloesol
- Darparu effaith economaidd ar gyfer y rhanbarth
- Ysgogi cyfleoedd mesuradwy masnachol
- Adeiladu cyfoeth lleol
Bydd pob her yn cael ei hasesu yn erbyn yr un meini prawf. Bydd y rhai sy'n llwyddiannus yn gallu derbyn hyd at 100% o gyllid i gefnogi datblygu heriau.
Buddsoddi a throsoledd
£10m
Buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
£6m
Cyllid cyfatebol
£3m
Trosoledd rhagweledig
Buddion a chanlyniadau disgwyliedig
Mae buddion cymryd rhan yn cynnwys:
- Cyfle i archwilio datrysiadau creadigol i heriau economaidd lleol
- Buddsoddiad i ddarganfod a datblygu datrysiadau arloesol
- Cyflenwi gwasanaeth lleol gwell sy’n buddio o ddatrysiadau wedi’u teilwra
- Creu marchnadoedd newydd a’r gallu i ‘dorri trwy’ fframweithiau caffael cyhoeddus
- Potensial ar gyfer datrysiadau masnachol y gellir eu graddio a’u gwerthu yn lleol a thu hwnt
- Twf a datblygiad cadwyn gyflenwi leol
Cyflawniadau
Digwyddiad briffio
Anogir sefydliadau Sector Cyhoeddus yn y rhanbarth i fynychu'r digwyddiad briffio rhithwir i ddysgu mwy am y gefnogaeth a gynigir. Bydd y digwyddiad briffio nesaf yn cael ei gynnal ar 23 Mehefin 2021, manylion cofrestru i ddilyn. Dylai'r rhai sydd â diddordeb mewn mynychu gofrestru ar y digwyddiad briffio. Bydd mynychwyr yn clywed gan ymarferwyr profiadol o Innovate UK a Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag academyddion blaenllaw o Brifysgol Caerdydd, ein partneriaid wrth ddarparu'r gronfa. Byddant yn cael mewnwelediad i sut y gall cyrff sector cyhoeddus weithredu fel catalydd ar gyfer ysgogi arloesedd wedi'i arwain gan her ac, yn bwysig, sut y gellir cael mynediad at becyn cymorth newydd Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau mawr sy'n wynebu cymdeithas.
Cyflwyno datganiadau o ddiddordeb
I lenwi ffurflen EOI cliciwch yma
Gweithdai Datblygu Her Gwanwyn 2022 |
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau llawn TBC |
Contractau perchennog her a ddyfarnwyd TBC |
Lansio heriau ar gyfer ymgysylltiad â diwydiant TBC |
Y partneriaid a phobl allweddol sydd ynghlwm
Mae’r sefydliadau canlynol yn bartneriaid yn y prosiect:
Y newyddion diweddaraf ar y prosiect
- 26 Ionawr 2023
- 4 Mehefin 2021
- 11 Mawrth 2021