CSconnected
Beth yw'r prosiect?
Mae CSConnected (SIPF) yn brosiect mawr o fewn y Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC) ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ac yn ffurfio rhan o ffocws strategol y rhanbarth ar led-ddargludyddion cyfansawdd.
Mae’r prosiect CSConnected wedi’i seilio ynghylch integreiddio rhagoriaeth ymchwil o brifysgolion y rhanbarth
Rhannu:
Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn gydrannau hanfodol ar draws ystod eang o dechnolegau newydd, a phrif nod y prosiect CSconnected yw datblygu mantais gystadleuol mewn technolegau galluogi allweddol, a fydd yn caniatáu i’r DU gynyddu masnach yn fyd-eang mewn sectorau hanfodol fel cyfathrebu, 5G, cerbydau annibynnol a thrydan, a dyfeisiau meddygol.
Bydd CSconnected hefyd yn darparu twf pellach i lawr y gadwyn gyflenwi, gweithgarwch cwmnïau newydd a chwmnïau deilliannol, ac uwchsgilio cyffredinol o sylfaen gweithgynhyrchu Cymru.
Buddsoddi a throsoledd
£3.3m
Buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
£40.4m
Cyllid cyfatebol
£300m
Trosoledd rhagweledig
Beth sydd ynghlwm wrth y prosiect CSconnected?
Mae’r prosiect yn cynnwys pedair elfen o weithgarwch a buddsoddiad:
Mae'r gweithgareddau ymchwil a datblygu ac arloesi arfaethedig wedi'u hymgorffori o fewn pedwar prosiect ymchwil a datblygu cydweithredol a gafodd eu dewis yn ofalus i fynd i'r afael â chyfleoedd cadwyn gyflenwi blaenoriaethol sy'n manteisio ar arbenigedd ymchwil a datblygu’r brifysgol:
- Cyfathrebu optegol y genhedlaeth nesaf
- Gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd ar raddfa fawr
- Offer gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd y genhedlaeth nesaf
- Uwch-broses ar gyfer 5G a gyrwyr modur cerbydau trydan bychain
Mae cydran y Rhaglen Sgiliau yn canolbwyntio ar y cwricwlwm dyfnach ac ehangach o ddatblygiad proffesiynol parhaus a’r gwaith cychwynnol o ddatblygu a phrofi Gradd-brentisiaethau ac, o bosibl, Brentisiaethau a Rennir. Mae hyn yn gyson â chanfyddiadau yr arolwg sgiliau diweddaraf gan CS Connected a mewnbwn y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, a fydd yn gydweithredwr allweddol yn y gwaith o gyflawni’r rhaglen hon. Mae gan hyn hefyd y potensial i gysylltu â dyheadau a nodwyd yn flaenorol ar gyfer Academi Sgiliau ar y safle yn Imperial Park.
Nod yr elfen hon o'r rhaglen yw sefydlu CS Connected fel 'corff masnach' ar gyfer y clwstwr. Bydd hyn yn darparu mecanwaith llywodraethu allweddol a ffocws ar gyflawni allgymorth, digwyddiadau ac arweinyddiaeth feddyliol yn ogystal â darparu cymorth busnes i gwmnïau a phartneriaid clwstwr. Bydd hyn yn cymell cyfleoedd byd-eang a amlinellwyd yn Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru, yn benodol o ran ysgogi Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor a chyfleoedd mewnfuddsoddi. Bydd CS Connected yn gweithio ar sail model aelodaeth a'i nod yw bod yn endid hunangynhaliol ar ôl i gyllid SIPF ddod i ben.
Mae'r cyfraniad buddsoddi sy'n ofynnol gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ymwneud â gwaith derbynfa CSC Foundry, a fydd yn gweithredu fel canolfan a phencadlys ar gyfer CS Connected, ac mae'n ofyniad gwariant cyfalaf o £3.3 miliwn. Mae hyn yn gyfraniad o 50% tuag at y gost lawn o’i addasu, sef gosod ystafell marchnata, gofod swyddfa a 'drws ffrynt mewnfuddsoddi' o fewn y Ffowndri.
Bydd prosiect Pencadlys CS Connected yn cynnwys y gwaith o gaffael, cynllunio, ac adeiladu a gosod y lle ar lawr yn adeilad y Ffowndri Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yng Nghasnewydd. Bydd hyn yn darparu CSConnected â chyfleusterau swyddfa wedi'u brandio sydd wedi'u neilltuo ar gyfer datblygu'r agenda ranbarthol ynghylch: derbyn Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor, datblygiad proffesiynol parhaus, deori busnesau bach a chanolig, lledaenu, marchnata ac allgymorth, a chanolfan ymwelwyr ffyniannus.
Bydd y prosiect yn ymddwyn fel hedyn ar gyfer datblygiad pellach o ddyheadau ar gyfer parc busnes a thechnoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd yn Imperial Park ac ar gyfer hwyluso clwstwr cydnabyddedig sy'n ehangu ac sydd yn cael ei ymgorffori, ei werthfawrogi a'i weld yn y gymuned. Gobeithir y bydd hyn yn golygu ysbryd cyfunol parhaus o gydweithrediad a manteisio ar gyfleoedd byd-eang yn y dyfodol mewn gweithgynhyrchu cynhyrchiant uchel.
Buddion a chanlyniadau disgwyliedig
Mae buddion sylweddol sy’n gysylltiedig â’r rhaglen – nid lleiaf y rhai sy’n cydnabod yr ymrwymiad i weithgynhyrchu gwerth uchel sy’n bodoli o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, arweinyddiaeth ar ddiwydiant galluogi allweddol y dyfodol, a’r cyfle sy’n bodoli i adeiladu galluedd technolegol sofran yn y rhanbarth.
O ran un o’r cyfleoedd mwyaf sylweddol – cyflogaeth gwerth uchel – mae cynnig SIPF yn gosod y potensial ar gyfer:
- 1,161 o swyddi gwerth uchel uniongyrchol newydd i atodi’r 1,483 sy’n bodoli eisoes yn y clwstwr
- cyflogaeth newydd sylweddol (~595 swydd) mewn rhannau eraill o economi Cymru
- gwerth ychwanegol gros ychwanegol o £140 miliwn y flwyddyn erbyn >2025
- cynyddu gwariant buddsoddiad ymchwil a datblygu yn y rhanbarth o £55 miliwn
- elw cryf ar fuddsoddiadau cyhoeddus o x30 dros bum mlynedd
Ar ben hyn, y syniad o Academi Sgiliau, prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol yn hwyluso ystod o fathau o gynnyrch newydd sydd â photensial cryf i gael eu gweithgynhyrchu yn y rhanbarth, yn ogystal â rhwydwaith cyfan yn cael ei sefydlu o amgylch cyfleoedd mewnfuddsoddi sylweddol – mae ‘stori’ SIPF yn un o greu’r diwylliant busnes ar gyfer gweithgynhyrchu gwerth uchel ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Bydd sicrhau bod strategaeth gyfathrebu gryf o amgylch hyn yn hanfodol i arddangos cyfoethogrwydd y stori. Mae’n rhaid ystyried effaith COVID-19 fel rhan o hyn hefyd. Nid yw COVID-19 yn newid pwysigrwydd y rhaglen hon mewn unrhyw ffordd. Ym mhob ffordd, mae’n pwysleisio pam ei bod yn fwy pwysig. Fodd bynnag, mae’r effaith economaidd a’r dirwasgiad a ragwelir yn debygol o gael effaith a bydd angen cadw hyn o dan adolygiad agos.
Y partneriaid a phobl allweddol sydd ynghlwm
Mae’r sefydliadau canlynol yn bartneriaid yn y prosiect: