Cyfalaf Buddsoddi Mewn Arloesi

Mae Cyfalaf Buddsoddi Mewn Arloesi P-RC yn gronfa ecwiti gwerth £50 miliwn sy’n cefnogi busnesau sydd wrthi’n tyfu ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ne-ddwyrain Cymru.

Beth yw'r prosiect?

Mae Cyfalaf Buddsoddi Mewn Arloesi P-RC yn gronfa ecwiti gwerth £50 miliwn sy’n cefnogi busnesau sydd wrthi’n tyfu ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ne-ddwyrain Cymru.  Bydd yn darparu buddsoddiadau o £2m-£7m i gefnogi busnesau twf uchel sydd wedi’u lleoli yn (neu sy’n ystyried adleoli i) un o’r 10 ardal awdurdod lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Wedi’i chreu gan P-RC a’i phweru gan PwC, mae’r rhaglen ariannu arloesol hon wedi’i hanelu at gynhyrchu Twf Da a ffyniant cynhwysol ar gyfer ein rhanbarth cyfan – gan helpu i wireddu uchelgeisiau mentrau sy’n cael eu hadeiladu a’u llunio o amgylch gweledigaethau beiddgar.

Yn ymroddedig i gyflymu uchelgeisiau mentrau arloesol a chyfrifol mewn amrywiaeth o wasanaethau a diwydiannau – gan gynnwys sectorau blaenoriaeth P-RC sef  Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Technoleg Feddygol, Technoleg Ariannol a Seiber, i Ynni, y Diwydiannau Creadigol a thu hwnt – gan helpu i ariannu syniadau, arferion ac uchelgeisiau entrepreneuraidd cynaliadwy, ar gyfer mentrau sydd wedi’u lleoli ym mhob un o’r deg awdurdod unedol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Rhannu:

Nod Cyfalaf Buddsoddi Mewn Arloesi yw sicrhau bod ‘cyfalaf amyneddgar’ trawsnewidiol ar gael – gan dyfu mentrau gydol cyfnod cychwynnol pum mlynedd y rhaglen ddeng mlynedd hon.

Bydd y rhaglen yn buddsoddi mewn busnesau sy’n cynnig tebygolrwydd rhesymol o gynhyrchu enillion deniadol ar lefel ecwiti. Bydd cyllid ar gyfer pob buddsoddiad unigol yn cael ei ystyried fesul achos.  Ein bwriad yw darparu buddsoddiad ecwiti lleiafrifol yn yr ystod £2m – £7m, gan ffafrio cyfleoedd i gyd-fuddsoddi.

Yn y pen draw, rydym yn ceisio sefydlu ein rhanbarth fel cyrchfan i fynd iddo er mwyn buddsoddi mewn arloesedd, gan helpu i dyfu economi P-RC drwy greu:

  • 200+ o swyddi gwerth uchel
  • Cynnydd o £100m+ mewn Gwerth Ychwanegol Crynswth

Wedi’i alinio’n gryf â Chynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol P-RC a Phrosbectws Codi’r Gwastad, bydd y rhaglen hon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol (a chael effaith) yn rhanbarthol ac yn genedlaethol; drwy gydweithio rhwng tri phartner rhaglen arbenigol – Grŵp Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, PwC a’r Capricorn Investment Group.

Ar gyfer pwy mae'r buddsoddiad?

Mae Cyfalaf Buddsoddi Mewn Arloesi P-RC ar gyfer busnesau sydd wrthi’n tyfu (nid mentrau newydd) gyda meini prawf asesu allweddol gan gynnwys:

 

  • Tîm rheoli craidd galluog a chryf gyda hanes y gellir ei wirio.
  • Buddsoddiad profedig yn y cwmni gan y Sylfaenwyr/Rheolwyr.
  • Ymrwymiad i ehangu neu adleoli i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd am y tymor hir.
  • Isafswm cyfran o 10%.
  • Rhaid bod yn ôl-refeniw.
  • Buddsoddiad yn yr ystod £2m-£7m
  • Ymrwymiad i wneud gwelliant parhaus o ran cynaliadwyedd a llywodraethiant da.

Buddsoddi a throsoledd

£50m

Buddsoddiad P-RC

stats-chevron

£50m

Cyfle i Gyd-Fuddsoddi

stats-chevron

£100m+

Cynnydd o ran Gwerth Ychwanegol Crynswth

stats-chevron

Sut fydd y gronfa hon o fudd i'r rhanbarth?

Helpu i wireddu uchelgeisiau mentrau sy’n cael eu hadeiladu a’u llunio o amgylch gweledigaethau beiddgar gan;

  • Cynyddu argaeledd ‘cyfalaf amyneddgar’ i fusnesau brodorol ac anfrodorol arloesol twf uchel.
  • Cynhyrchu twf economaidd yn P-RC drwy fuddsoddi’n gyfrifol mewn busnesau arloesol sydd wrthi’n tyfu ac sy’n canolbwyntio ar Ymchwil a Datblygu.
  • Gwneud ein rhanbarth yn fwy cystadleuol, yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy cynaliadwy yn ein sectorau blaenoriaeth, ein heconomi fasnachu a’n heconomi sefydledig.

Cyflawnir y gweledigaethau hynny drwy:

  • Hyrwyddo buddsoddiad mewnol a chyd-fuddsoddi – annog trosoledd buddsoddiad preifat pellach gan sefydliadau eraill neu gan unigolion preifat.
  • Darparu buddsoddiadau hanfodol sydd wedi’u halinio â dull P-RC o gefnogi datblygiad Arloesi, Seilwaith a Sgiliau sydd wedi’u hanelu at sicrhau’r gwerth cymdeithasol ac economaidd pennaf.
  • Helpu i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethiant ehangach y byd sydd ohoni, drwy sicrhau bod pob busnes rydyn ni’n ei gefnogi yn gwella ei ystyriaethau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethiant dros oes y buddsoddiad.
  • Agor gorwelion newydd ar gyfer rowndiau cyllid yn y dyfodol a allai gynnwys cyd-fuddsoddi y tu hwnt i P-RC, er mwyn annog cyllid dilynol sy’n cefnogi busnesau wrth iddynt barhau â’u twf.
  • Cynyddu argaeledd ‘cyfalaf amyneddgar’ i fusnesau brodorol ac anfrodorol arloesol twf uchel.

Prif Bartneriaid a Phobl sy’n Cymryd rhan

Cyfalaf Buddsoddi Mewn Arloesi
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
PwC Partner Logo
PwC
Capricorn Investment Group