Cyllid Ymchwil
Beth yw'r prosiect?
Mae’r cyfleoedd a’r potensial ar gyfer y sector technoleg ariannol yng Nghymru yn hynod, ac felly fel un o’n sectorau blaenoriaeth, rydym yn gweithio’n weithredol gyda FinTech Wales i greu strategaeth datblygu’r sector. Mae hyn wedi cymryd ffurf “arian sbarduno” a fwriedir i gefnogi’r gwaith o gyflawni dadansoddiad sector cynhwysfawr gyda golwg ar greu strategaeth gadarn a chynllun gweithredu ar gyfer twf yn y sector. Y nod terfynol yw nodi’r ymyriadau allweddol sydd eu hangen i esblygu’r sector llwyddiannus hwn yn ganolfan ragoriaeth fyd-enwog ar gyfer technoleg ariannol.
Rhannu:
Buddion a chanlyniadau disgwyledig
Strategaeth a chynllun ar gyfer ysgogi’r potensial sydd gan y sector hwn ar gyfer economi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac i’w alluogi i ddod yn arweinydd yn y gymuned technoleg ariannol fyd-eang gyda chanolfan ragoriaeth fyd-eang.
Buddsoddiad
£250k
Buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
tbc
Cyllid cyfatebol
Cyflawniadau
Adroddiad Dadansoddi’r Sector
Dadansoddiad sylfaenol o’r sector, gan gynnwys trosolwg macro-economaidd o’i gyfraniad i’r economi ranbarthol a’i gyfansoddiad strwythurol, h.y. cyfuniadau o fusnesau bach a chanolig / cwmnïau newydd / cwmnïau corfforaethol mawr ac ati, digonolrwydd darpariaeth sgiliau lleol, ar hyn o bryd ac a ragwelir at y dyfodol, a’r perthnasau sy’n bodoli rhwng endidau a chyrff masnach yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bydd hyn yn galluogi mynegi cwmpas y sector yn glir a rhoi darlun pwynt mewn amser o’r sector sy’n amlygu unrhyw fylchau mewn data. Bydd yn darparu asesiad realistig ac yn hwyluso datguddiadau o gyfleoedd am dwf.
Gweledigaeth a chynllun
Bydd y cyflawniad hwn yn adeiladu ar y dadansoddiad cychwynnol ac yn dogfennu dadansoddiad SWOT llawn, ac yn mynegi’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r sector yn nghyd-destun cyflymder a chyfradd y newid sy’n digwydd o fewn y diwydiant. Yn y pendraw, bydd y darn hwn o waith yn amlinellu gweledigaeth gynhwysfawr i’r dyfodol ac yn amlinellu cynllun ar gyfer gwireddu’r weledigaeth honno, ac yn mynegi gweledigaeth am y dyfodol ar gyfer y sector.
Strategaeth a chynllun gweithredu wedi'i gostio ar gyfer twf yn y sector
Bydd y cyflawniad terfynol hwn yn tynnu cyflawniad 1 a 2 at ei gilydd ar ffurf cynllun gweithredu wedi’i gostio ar gyfer cyflawni’r strategaeth. Bydd y darn hwn o waith yn nodi ffynonellau cyllid posibl ar gyfer gweithgarwch ac ymyriadau yn y dyfodol, gan gynnwys, lle y bo’n briodol, pa rai fyddai’n alinio orau â blaenoriaethau ariannu’r Fargen Ddinesig.
Y partneriaid a phobl allweddol sydd ynghlwm
Y newyddion diweddaraf ar y prosiect
- 14 Ebrill 2021
- 11 Mawrth 2021