Graddedigion Venture
Beth yw'r prosiect?
Graddedigion Venture yw gwella cynhyrchiant, arloesedd a thwf economaidd drwy gysylltu graddedigion talentog â busnesau uchelgeisiol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Rhannu:
Mae’r cynllun yn cynnig ystod o wasanaethau rhad ac am ddim i fusnesau i oresgyn rhwystrau i recriwtio, gan gynnwys cymorth adnoddau dynol a marchnata eu rôl ledled y rhanbarth, tra bydd graddedigion ar y cynllun yn cymryd rhan mewn cynllun cydlynol i raddedigion a chwblhau cymhwyster wedi’i ariannu’n llawn.
Gweler ein gwefan YMA.
Buddsoddi a throsoledd
£1.54m
Buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
£10.77m
Trosoledd rhagweledig
Buddion a chanlyniadau disgwyliedig
- Amlygu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel cyrchfan deniadol ar gyfer graddedigion i gychwyn eu gyrfaoedd a chadw talent yn y rhanbarth.
- Creu cronfa dalent o raddedigion sy’n barod i ymgysylltu â busnesau yn yr ardal leol.
- Gwella sgiliau cyflogadwyedd a rhagolygon gyrfaol graddedigion drwy brofiad ac ymgymryd â chymhwyster y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth wedi’i ariannu’n llawn.
- Cymryd cyfleoedd yn y tymor agos i baru’r galw am sgiliau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd â thalent graddedigion.
- Darparu gwasanaeth effeithlon a rhad ac am ddim i gyflogwyr lleol, gan dynnu’r rhwystrau i recriwtio ac ysgogi creu swyddi.
- Darparu gweithgareddau rhwydweithio, mentora a chyngor i fusnesau sy’n tyfu a graddedigion uchelgeisiol drwy bartneru â GlobalWelsh.
- Yn yr hirdymor, galluogi twf busnes yn y rhanbarth drwy gael gweithlu medrus a llawn cymhelliad.
- Marchnad lafur fwy deallus, gan adeiladu ar y sylfaen sgiliau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
- Cysylltiadau a chyfleoedd mewn perthynas â Chynllun Twf Diwydiannol ac Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
- Ychwanegu at ac ymestyn cylch gwaith presennol y Fframwaith Sgiliau Parod ar gyfer y Dyfodol.
Cyflawniadau allweddol
- 500 o raddedigion i’w cyflogi ledled y rhanbarth erbyn mis Mawrth 2024, a datgloi £10 miliwn mewn trosoledd preifat.
Y partneriaid a phobl allweddol sydd ynghlwm
Mae’r rhaglen wedi’i datblygu mewn partneriaeth rhwng Swyddfa’r Fargen Ddinesig, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, y Brifysgol Agored yng Nghymru, grwpiau cynrychioliadol busnes, a thimau ymgysylltu busnes ac economaidd yr awdurdodau lleol mewn ymateb i’r gyfradd isel ar gadw graddedigion yn y rhanbarth.