Parth Buddsoddi
Yn gyrru ecosystem arloesedd De Ddwyrain Cymru
Cadw’n Gysylltiedig
Wrth i Barth Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd symud i gyflawni llawn, byddwn yn parhau i rannu cerrig milltir allweddol, cyfleoedd caffael, a diweddariadau am y rhaglen.
Fe gewch y diweddariadau diweddaraf: Dilynwch ein cynnydd trwy danysgrifio i Gylchlythyr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd neu gwiriwch ein Porth Newyddion a Mewnwelediadau.
Gan ganolbwyntio ar weithgynhyrchu uwch a thechnoleg ddigidol, mae’r Parth Buddsoddi yn adeiladu ar glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd y rhanbarth a gydnabyddir yn fyd-eang i greu ecosystem arloesi gystadleuol sy’n gynhwysol, yn gynaliadwy ac sy’n canolbwyntio ar y dyfodol yn lleol.
Dros hyd oes deng mlynedd y Parth Buddsoddi, rhagamcanir y bydd y rhaglen yn:
- Denu dros £500 miliwn mewn buddsoddiad gan y sector preifat
- Creu hyd at 4,000 o swyddi sydd angen sgiliau uchel
- Datgloi arwynebedd llawr newydd sylweddol wedi’i ymroi i weithgynhyrchu uwch, Ymchwil a Datblygu, a labordai arloesi.
- Rhoi hwb i gystadleurwydd rhyngwladol busnesau a chadwyni cyflenwi rhanbarthol.
- Cyflawni twf economaidd trawsnewidiol ac effaith economaidd cyfnod hir ledled De-ddwyrain Cymru.
Catalydd rhanbarthol ar gyfer technoleg safon byd
Mae Parth Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR-IZ) yn canolbwyntio ar Ardal Teithio i’r Gwaith Caerdydd a Chasnewydd (TTWA), gan wneud defnydd o set a dargedir o leoliadau twf strategol i gyflymu’n hecosystem lled-ddargludyddion cyfansawdd sy’n arwain y byd gyda safleoedd twf penodol i roi hwb i’n sector lled-ddargludyddion cyfansawdd sy’n arwain y byd, y cyntaf i’w sefydlu ledled y byd.
Er y bydd ymyriadau ffisegol a safleoedd seilwaith allweddol wedi’u canolbwyntio o fewn yr Ardal Teithio i’r Gwaith – gan fanteisio ar gryfderau diwydiannol a chanolfannau ymchwil presennol y rhanbarth – cynlluniwyd y Parth Buddsoddi yn benodol i ddarparu budd ledled y rhanbarth cyfan. Mae’n gweithredu fel catalydd i dwf economaidd cyfnod hir, i gysylltu cadwyni cyflenwi yn uniongyrchol, ac i ariannu sgiliau penodedig ledled deg awdurdod lleol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i gyd, gan gryfhau clwstwr technoleg De-ddwyrain Cymru a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Datgloi degawd o dwf: Ein taith i gyflawni
Mae rhaglen Parth Buddsoddi gwerth £160 miliwn nodedig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn awr yn symud yn gyflym o gynllunio i weithredu.
Ar ôl cyfnod o gyd-ddatblygu llwyddiannus trwy gydol 2025 a 2026, mae Parth Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn swyddogol wedi datgloi’i gyllid cyfnod hir, gan roi’r rhanbarth mewn sefyllfa ar gyfer rhaglen gyflawni drawsnewidiol dros ddeng mlynedd.
Cwblhawyd y garreg filltir sylweddol iawn hon ym mis Mawrth 2026 gyda llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) teirochrog nodedig rhwng Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a Llywodraeth Cymru. Gyda’r cytundeb hanesyddol hwn wedi’i sicrhau, mae Parth Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn awr yn symud yn uniongyrchol i gyflawni – ysgogi twf economaidd, creu
swyddi gwerth uchel, a datblygu uwch-sgiliau o fewn ein sector lled-ddargludyddion cyfansawdd o safon byd.
A hithau wedi’i datblygu mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd a Chyngor Dinas Casnewydd, mae’r rhaglen yn sefydlu gweledigaeth strategol a rannir ar gyfer twf rhanbarthol.
Magu momentwm: Buddsoddi ac ehangu cynnar
Gan redeg yn gyfochrog â sicrhau’n cyllid cyfnod hir, mae gweithgaredd cyfredol a ariannir gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd eisoes yn ysgogi cynnydd sylweddol ledled y rhanbarth. Cefnogodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fentrau uniongyrchol i adeiladu ecosystem, yn cynnwys buddsoddi mewn seilwaith, cyflymu datblygu cadwyni cyflenwi ac ymyriadau a dargedir ar sgiliau. Sefydlodd y llwyddiannau cynnar hyn sylfaen nerthol i Barth Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan ddyrchafu’n cystadleurwydd byd-eang a sicrhau bod De-ddwyrain Cymru yn parhau’n fagnet i fusnesau, buddsoddiad, doniau, ac ymchwil haen uchaf.
Grymuso sgiliau, doniau a thwf cynhwysol
Mae De-ddwyrain Cymru yn brif ganolfan ar gyfer sgiliau ac arloesi, ac adeiladir y Parth Buddsoddi i sicrhau swyddi gwerth uchel yfory. Trwy ddatblygu a chadw gafael ar biblinell o safon byd ac amrywiol o ddoniau, nod y rhaglen yw sicrhau bod ein gweithlu rhanbarthol wedi’i gyfarparu’n llawn i ddiwallu galwadau diwydiant dros y ddegawd nesaf a’r tu hwnt.
Trwy ganolbwyntio ar gysylltedd, cyfleoedd a thechnolegau’r dyfodol, bydd y Parth Buddsoddi yn:
- Creu gyrfaoedd cyflogau uchel, cynaliadwy ledled De-ddwyrain Cymru
- Hyrwyddo egwyddorion gwaith teg a chyflogaeth deg
- Cysylltu cymunedau lleol a busnesau yn uniongyrchol â chyfleoedd economaidd newydd
- Dwysáu a chysylltu’n gadarn gadwyni cyflenwi rhanbarthol
- Cyflymu cyflawni arloesi a seilwaith cenhedlaeth nesaf.
Trwy’r ymyriadau hyn a dargedir, mae Parth Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn sicrhau y caiff buddion cyfnod hir buddsoddi byd-eang a thwf economaidd eu rhannu’n ystyrlon gan gymunedau ledled y rhanbarth.