Metro Canolog
Beth yw'r prosiect?
Mae gorsaf drenau Caerdydd Canolog yn brif gyrchfan ar gyfer gwasanaethau rhyngranbarthol a rhwng dinasoedd, a hi yw gorsaf y brif ganolfan ar gyfer rhwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd, a bydd yn destun gwaith uwchraddio sylweddol yn y dyfodol agos trwy’r rhaglen Metro De Cymru. Nid yw’r math o waith uwchraddio ac ailddatblygu cynhwysfawr wedi digwydd yng ngorsaf drenau Caerdydd Canolog ag a brofwyd mewn gorsafoedd Categori A eraill. Nid yw llawer o’r orsaf wedi newid ers degawdau, mae mewn cyflwr cyffredinol gwael, ac mae’n orlawn o bobl yn rheolaidd yn ystod adegau prysur. Nododd gwaith diweddar gan Network Rail mai gorsaf drenau Caerdydd Canolog oedd â’r perfformiad ail waethaf, o safbwynt diogelwch, y tu allan i Lundain. Oni wneir gwaith uwchraddio ar fyrder, ni fydd yr orsaf yn gallu darparu yn ddiogel nac yn effeithlon ar gyfer y nifer amcanestyniadol o deithwyr yn ystod adegau prysur y dydd erbyn canol y 2020au.
Er mwyn mynd i’r afael â’r problemau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Metro Canolog, sef cyfres o gynigion ar gyfer rhaglen o welliannau i’r orsaf a’r ardaloedd o’i hamgylch.
Rhannu:
Darparwyd y llun dan hawlfraint Jeremy Segrott o dan Drwydded Creative Commons License.
Mae’r opsiynau a ystyriwyd fel rhan o’r rhaglen yn cynnwys y canlynol:
Gwelliannau i orsaf drenau Caerdydd Canolog:
- Mynediad i’r platfformau, gan gynnwys ail-gyflunio’r mynediad i blatfformau 1 a 2 a chynnwys mynediad i bobl anabl. Byddai hyn yn cynnwys mesurau i wella cyntedd y gogledd a fydd yn gwella’r ardaloedd i gerddwyr y tu mewn i’r orsaf er mwyn cynyddu ei gallu i dderbyn llawer o bobl a lleddfu’r broblem o orlenwi, a byddai mynediad mwy effeithlon i deithwyr rhwng tanlwybrau a phlatfformau, gan gynnwys ail-gyflunio’r llinellau gatiau, grisiau a lifftiau er mwyn cynyddu nifer y bobl y gall yr orsaf eu derbyn.
- Ymestyn Platfform 0 fel y gall dderbyn trenau o naw car a darparu mwy o allu, hyblygrwydd gweithredol, a gwytnwch, ac er mwyn darparu capasiti’r platfform ychwanegol y bydd ei angen i ddarparu ar gyfer gwelliannau arfaethedig i wasanaethau, gan gynnwys yn ystod digwyddiadau mawr, a gwella’r mynediad i’r platfform, gan gynnwys ail-ddylunio’r ardal gwerthu tocynnau a’r ardal fasnachol.
- Gosod canopi newydd dros blatfformau’r orsaf, a fydd yn amddiffyn yn well rhag y tywydd, gan arwain at brofiad gwell i gwsmeriaid.
- Ehangu’r cyntedd deheuol er mwyn darparu ar gyfer y rhyngwyneb arfaethedig â’r cysylltiad rheilffordd â Bae Caerdydd. Mae gwaith ehangu’r cyntedd deheuol yn cael ei ystyried er mwyn rheoli’r teithwyr ychwanegol a gaiff eu cynnwys a’r gyfnewidfa rhwng y dull hwn o deithio a’r platfformau presennol. Mae’r gwaith o archwilio cyfleoedd masnachol, a gwelliannau i sicrhau’r profiad gorau posibl i gwsmeriaid, yn mynd rhagddo ar gyfer pawb a fydd yn defnyddio’r gyfnewidfa.
- Tacluso a threfnu pob platfform, ac ad-drefnu adeiladau’r orsaf er mwyn darparu mannau aros mwy cyfforddus, sicrhau y gellir dal trenau a disgyn oddi arnynt mewn modd mwy diogel ac yn gyflymach, a chyfleoedd i wella profiadau cwsmeriaid.
Cliciwch ar y lluniau isod i’w gweld yn fwy o faint:
Mae'r rhestr ganlynol yn cynnwys y gwelliannau i'r ardal o gwmpas yr orsaf y maent yn dylanwadu ar y gwaith datblygu sydd wrthi'n cael ei ystyried:
- Dylid datblygu a chostio cysylltiad dan orchudd â'r gyfnewidfa fysiau fel rhan o opsiwn y canopi.
- Gofynion mannau parcio ar gyfer gorsaf drenau Caerdydd Canolog, gan gynnwys maes parcio aml-lawr i'r de o'r orsaf.
- Galluogi defnydd posibl o faes parcio Glanfa'r Llwybr Pysgod ar gyfer defnyddiau amgen er mwyn cefnogi'r dyhead cyffredinol o hwyluso teithio aml-ddull (storio beiciau, casglu/gollwng o geir, safleoedd tacsis ac ati).
- Cysylltiad gogledd-de newydd i gerddwyr i hwyluso'r integreiddio rhwng dulliau o deithio, i helpu gyda'r gwaith o reoli digwyddiadau mawr, ac i gyflwyno'r posibilrwydd o ddatblygu yn yr ardal ar yr ochr ddeheuol, gan gynnwys cyfnewidfa dan orchudd ar gyfer tacsis, coetsys, bws/tram lleol.
- Uwchraddio'r ardal gyhoeddus ar yr ochr ddeheuol gyda llwybrau newydd i gerddwyr (caiff tanffordd gyhoeddus ei llywio gan astudiaethau ar wahân a'i hintegreiddio yn achos busnes llawn y rhaglen), gan gynnwys darparu lle ar gyfer tram/trên i Fae Caerdydd (dim ond y gwaith o ddarparu rhyngwyneb a diogelu'r llwybr yn yr orsaf, nid y gwasanaeth ei hun).
- Gwelliannau ansawdd eraill er mwyn cefnogi teithio llesol, a chysylltiadau i gerddwyr a beicwyr, gan gynnwys darpariaethau i gyflawni targedau'r ardal o safbwynt mannau storio beiciau.
- Gofynion adeiladau rhestredig er mwyn cyflenwi'r cynllun ehangach o welliannau.
- Mynediad i briffyrdd / gweithrediadau priffyrdd.
- Hygyrchedd ar gyfer pob defnyddiwr.
Disgwylir y byddai Rightacres (sy'n berchen ar y tir o amgylch yr orsaf) yn chwarae rhan mewn ariannu'r rhaglen. Mae wrthi'n datblygu'r “Cei Canolog”, sef datblygiad aml-ddefnydd newydd mawr yn syth i'r de o orsaf drenau Caerdydd Canolog.
Mae'r cynllun yn cynnwys datblygiad o hyd at 2.5 miliwn troedfedd sgwâr, gan gynnwys:
- Disodli maes parcio arwyneb presennol yr orsaf â maes parcio aml-lawr.
- Datblygu cyfnewidfa newydd yn ymgorffori safleoedd tacsis dan orchudd, maes parcio coetsys, hyb beiciau, a lle ar gyfer rheilffordd trên ysgafn a gorsaf.
- Datblygu llwybrau i gerddwyr sy'n cysylltu â phrif fynedfa'r orsaf.
Buddsoddi a throsoledd
£40m
Buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
£145m
Cyllid cyfatebol
£1bn
Trosoledd rhagweledig
Buddion a chanlyniadau disgwyliedig
Nod y rhaglen yw creu canolfan drafnidiaeth integredig a fydd yn gwella mynediad i ganol Caerdydd yn sylweddol yn ogystal â hybu datblygiadau masnachol pellach yn Ardal Fenter Caerdydd Canolog.
Mae’r rhaglen yn cynnwys tair rhan fel a ganlyn:
- Gwella’r orsaf drenau (buddsoddiad o £92 miliwn) i gynyddu ei gallu a thrawsnewid yr amgylchedd i deithwyr
- Cyfnewidfa fysiau newydd (buddsoddiad o £28 miliwn), cyfagos â’r orsaf drenau, i ddarparu cyfleuster diogel ac amgaeedig ar gyfer defnyddwyr bysiau
- Gwelliannau i ardaloedd cyhoeddus a chyfnewidfaoedd (buddsoddiad o £94 miliwn) gyda chysylltiadau newydd i gerddwyr a beiciau, cyfnewidfa ar gyfer dulliau eraill o deithio (coetsys, tacsis, a gwasanaethau metro lleol), hyb beiciau yn cynnwys 1,000 o fannau storio beiciau, maes parcio aml-lawr newydd, a rhyddhau lleiniau o dir ar gyfer datblygiadau masnachol newydd
Pethau allweddol y gellir eu cyflawni
Mae’r rhaglen yn cynnwys tair rhan fel a ganlyn:
- Gwelliannau i’r orsaf drenau i gynyddu ei gallu a thrawsnewid yr amgylchedd i deithwyr
- Cyfnewidfa fysiau newydd, cyfagos â’r orsaf drenau, i ddarparu cyfleuster diogel ac amgaeedig ar gyfer defnyddwyr bysiau
- Gwelliannau i ardaloedd cyhoeddus a chyfnewidfaoedd gyda chysylltiadau newydd i gerddwyr a beiciau, cyfnewidfa ar gyfer dulliau eraill o deithio (coetsys, tacsis, a gwasanaethau metro lleol), hyb beiciau, darpariaeth maes parcio wedi’i chydgrynhoi, a datblygiadau masnachol newydd
Y partneriaid a phobl allweddol sydd ynghlwm
Mae’r sefydliadau canlynol yn bartneriaid yn y prosiect: