Metro Plus: Blaenoriaethu bysiau yn Nwyrain Caerdydd

Statws: Cyflwyno
Cyflwyno cyfres o becynnau cynaliadwy a theithio llesol a fydd yn hwyluso cysylltiadau bws gwell yng nghanol dinas Caerdydd, seilwaith teithio llesol gwell, a gwelliannau o safbwynt diogelwch cerddwyr.

Beth yw'r prosiect?

Mae rhaglen o gynlluniau gwerth £50 miliwn wedi’i datblygu (Rhaglen Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol Metro Plus), a fydd yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno Metro De Cymru.

O dan drefniadau Rhaglen Metro Plus yr Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol, bydd pob awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru’n derbyn cyfran £3 miliwn i roi cynllun ar waith. Bydd cyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru (£15 miliwn) a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (£15 miliwn) er mwyn cyflwyno’r rhaglen hon, a daw £20 miliwn bellach o gyllid awdurdodau lleol ac o fuddsoddiad preifat.

Nod Prosiect Gwella Trafnidiaeth Ochr Ddwyreiniol Caerdydd yw cyflwyno gwelliannau i drafnidiaeth i ardal i’r ochr ddwyreiniol o ganol dinas Caerdydd sy’n cynnwys y rhwydwaith o ffyrdd rhwng Plas Dumfries / Heol Casnewydd a Rhodfa Bute / Stryd Adam.

Rhannu:

Yn ardal ochr ddwyreiniol Caerdydd, ceir lefelau uchel o draffig ar y ffordd sy’n cysylltu ochr ogleddol y ddinas â’i hochr ddeheuol yn ystod yr adegau prysuraf. Mae bysiau’n gwneud defnydd helaeth o’r ardal hefyd, sy’n ffurfio rhan o ddolen o 2.1 milltir o amgylch canol y ddinas y mae’n ofynnol i fysiau ei dilyn ar hyn o bryd. Mae’r ardal hefyd yn cynnwys nifer o feysydd parcio a’r prif ganolfan fysiau dwyreiniol ar Ffordd Churchill.

Mae llawer iawn o gerddwyr yn defnyddio’r ardal hon i gael mynediad i’w gwaith ac i fanteisio ar gyfleoedd manwerthu yng nghanol y ddinas, ac mae’r ardal o gwmpas gorsaf drenau Heol y Frenhines yn enwedig o brysur. Ynghyd â’r lefelau uchel o draffig sydd hefyd yn defnyddio’r ardal, ceir nifer o broblemau o ran torri ar draws y llif o gerddwyr, sy’n arwain at achosion o gerddwyr yn croesi heolydd pan nad yw’r goleuadau traffig wrth groesfannau yn rhoi caniatâd iddynt wneud hynny, ac achosion cyffredin iawn lle nad ydynt yn defnyddio croesfannau dynodedig o gwbl, gan arwain at oblygiadau diogelwch.

Byddai gwelliannau i’r ddarpariaeth trafnidiaeth gynaliadwy a’r ardal gyhoeddus yn y lleoliad hwn yn helpu i wella mynediad cynaliadwy i nifer o safleoedd cyflogaeth ac ymwelwyr mawr Caerdydd. Byddai’r gwelliannau hefyd yn hwyluso twf yr ardal fel rhan o Ardal Fenter Caerdydd, sef ardal arfaethedig a fyddai’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r Brifddinas-Ranbarth. Byddai’r cynllun yn gwella dibynadwyedd cysylltiadau trafnidiaeth cyhoeddus o du gweddill y ddinas a rhanbarth De-ddwyrain Cymru, ac yn arwain at wella’r mynediad i gyfleoedd cyflogaeth, manwerthu a hamdden. O safbwynt teithwyr, ystyrir mai’r prif ffactorau a allai gael effaith gadarnhaol ar yr amser y mae teithiau’n eu cymryd, a dibynadwyedd yr amser hwnnw, yw blaenoriaethu bysiau, cael mwy o hyblygrwydd yn y llwybrau ar gyfer gweithredwyr, a lleihau’r lefel gyffredinol o draffig. Byddai gwneud gwelliannau i’r agweddau hyn yn cyfrannu at sicrhau bod dal bws yn opsiwn mwy deniadol ar gyfer teithio i ganol y ddinas.

Mwy o wybodaeth …

Mae Metro De Cymru yn cynnig defnyddio gorsaf drenau Heol y Frenhines fel cyfnewidfa bwysig, ac i wella'r cysylltiad rhwng yr orsaf hon, gorsaf drenau Caerdydd Canolog a gorsaf drenau Bae Caerdydd. Rhagwelir y gallai nifer y trenau sy'n gwasanaethu gorsaf drenau Heol y Frenhines gynyddu 50% unwaith y caiff y Metro ei gwblhau. Felly mae'n bwysig cynllunio ar gyfer y niferoedd ychwanegol o deithwyr y gallai ddeillio o hyn trwy wella'r amgylchedd i gerddwyr a beicwyr, a'r llwybrau o gwmpas yr orsaf, er mwyn darparu ar gyfer y galw ychwanegol hwn.

Mae prosiect yr Ochr Ddwyreiniol yn cynnig cyfle i wella'r ardal gyhoeddus yno. Mae'r palmentydd cul presennol, y ffyrdd llydan â thraffig dwys, a'r dyluniad hen ffasiwn i gyd yn cyfrannu at yr amgylchedd treflun gwael ac mae angen eu hadfywio. Byddai sicrhau gwelliannau i seilwaith beicio a'r amgylchedd i gerddwyr yn cefnogi twf dulliau cynaliadwy o deithio yn yr ardal.

Mae ardal ochr ddwyreiniol Caerdydd yn agos iawn i'r cyrchfannau allweddol canlynol o ran cyflogaeth, addysg ac ymwelwyr:

  • Canolfan Siopa Dewi Sant
  • Arena Motorpoint
  • Campws Caerdydd Prifysgol De Cymru
  • Y Sgwâr Canolog
  • Sgwâr Callaghan
  • Ardal Fenter Caerdydd

Buddsoddi a throsoledd

£1.5m

Buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

stats-chevron

£3.5m

Cyllid cyfatebol

stats-chevron

£tbc

Trosoledd rhagweledig

stats-chevron

Buddion a chanlyniadau a ddisgwylir

  • Darparu mesurau blaenoriaethu bysiau newydd a fydd yn ei gwneud yn bosibl i fysiau lleol a rhanbarthol ddefnyddio ochr ddwyreiniol canol y ddinas er mwyn cael mynediad cyflym a dibynadwy i ardaloedd economaidd allweddol, fel Ardal Fenter Canol y Ddinas, gorsaf drenau Heol y Frenhines, yr ardal fanwerthu, a’r gyfnewidfa drafnidiaeth newydd yn y Sgwâr Canolog
  • Lleihau nifer y teithiau a wneir gan geir trwy ardal y prosiect, a defnyddio gofod y briffordd a enillir i roi blaenoriaeth i seilwaith ar gyfer teithio llesol a thrafnidiaeth gynaliadwy
  • Gwella diogelwch cerddwyr trwy fesurau gostegu traffig a gwelliannau i’r amgylchedd i gerddwyr
  • Gwella’r seilwaith i feiciau trwy hwyluso’r gwaith o gyflwyno uwchbriffyrdd beiciau canol y ddinas o fewn ardal y prosiect
  • Gwella cysylltiadau trafnidiaeth gynaliadwy â gorsaf drenau Heol y Frenhines, a diogelu’r ardal gyhoeddus gyfagos at y dyfodol rhag y cynnydd rhagweledig yn y niferoedd o deithwyr
  • Cyfrannu at becyn cyffredinol o fesurau i gyflawni cydymffurfiaeth â thargedau nitrogen deuocsid (NO2), yn ôl yr hyn sy’n ofynnol gan gyfarwyddyd cyfreithiol gan Lywodraeth Cymru. Gwneud gwelliannau lleol pellach i’r ansawdd aer trwy leihau lefelau NO2 cymaint ag sy’n rhesymol ymarferol yn Rhodfa’r Orsaf a’i chyffiniau.

 

Pethau allweddol y gellir eu cyflawni

Mesurau blaenoriaethu bysiau ar hyd Rhodfa’r Orsaf, Ffordd Churchill a Rhodfa Bute er mwyn hwyluso’r canlynol:

  • Blaenoriaeth newydd i fysiau, gan gysylltu ochr ddwyreiniol canol y ddinas â’i hochr dde-orllewinol
  • Blaenoriaeth i fysiau er mwyn cael mynediad i fynedfa ddeheuol y gyfnewidfa drafnidiaeth newydd
  • Blaenoriaeth i fysiau er mwyn cael mynediad i ganol y ddinas yn ystod digwyddiadau, a mynediad i’r gyfnewidfa drafnidiaeth ar y dyddiau y cynhelir digwyddiadau
  • Gwelliant yng ngallu’r llwybrau sy’n croesi’r ddinas
  • Dolen mynediad fer newydd drwy Rodfa’r Orsaf a Ffordd Churchill, gan gysylltu â gorsaf drenau Heol y Frenhines
  • Gwelliannau i safleoedd bws y tu allan i orsaf drenau Heol y Frenhines

Y partneriaid a phobl allweddol sydd ynghlwm

CCR Partner Logo
Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Welsh Government Partner Logo
Llywodraeth Cymru
Metro Plus: Blaenoriaethu bysiau yn Nwyrain Caerdydd
Cyngor Caerdydd

Y newyddion diweddaraf ar y prosiect

There are no project updates at present. Please check back later.