Metro Plus: Canolfan Drafnidiaeth Abertyleri

Statws: Cyflwyno
Creu cysylltiad rheilffordd 3-4 milltir o hyd o Abertyleri i Gwm Ebwy, yn Aber-bîg, gan gynnwys cyfleusterau parcio a theithio ar gyfer 100 o gerbydau.

Beth yw'r prosiect?

Mae rhaglen o gynlluniau gwerth £50 miliwn wedi’i datblygu (Rhaglen Metro Plus yr Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol), a fydd yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno Metro De Cymru.

O dan drefniadau Rhaglen Metro Plus yr Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol, bydd pob awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru’n derbyn cyfran £3 miliwn i roi cynllun ar waith. Bydd cyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru (£15 miliwn) a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (£15 miliwn) er mwyn cyflwyno’r rhaglen hon. Bydd £20 miliwn pellach yn dod o gyllid awdurdodau lleol ac o fuddsoddiad preifat.

Mae Cyfnewidfa Drafnidiaeth Abertyleri yn brosiect allweddol o fewn rhaglen Metro De Cymru a ddatblygwyd dros nifer o flynyddoedd. Byddai’r gyfnewidfa a’r rheilffordd gangen newydd yn cynyddu hygyrchedd Cwm Ebwy Fach o ran teithio iddo ac oddi wrtho, ac yn gwella’i gysylltedd â’r rhanbarth ehangach.

Byddai’r prosiect yn cynnwys cyflwyno estyniad newydd i’r rheilffordd o Aber-bîg i Abertyleri, ac adeiladu gorsaf ar ochr ddeheuol canol y dref.

Rhannu:

Effaith yr adfywiad economaidd

Mae Rheilffordd Cwm Ebwy wedi cael effaith adfywio sylweddol ym Mlaenau Gwent, gan gynyddu hygyrchedd yr ardal a’i chysylltedd â’r rhanbarth ehangach. Dengys llwyddiant Rheilffordd Cwm Ebwy drwy’r ffaith fod nifer llawer uwch o deithwyr yn ei defnyddio nag a amcangyfrifwyd ar y dechrau, ac mae’r estyniad i’r rheilffordd i Abertyleri, a’r cyfleusterau parcio a theithio ar gyfer 100 o gerbydau, yn ddatblygiadau y mae angen mawr amdanynt, ac y’u croesewir, a fydd yn arwain at gynnydd pellach yn hygyrchedd a chysylltedd yr ardal, ac yn nefnydd dulliau cynaliadwy o deithio.

Gellir gweld prawf pellach o lwyddiant Rheilffordd Cwm Ebwy o’r ffaith fod cyflogwyr lleol wedi addasu patrymau sifftiau i ddarparu ar gyfer y gweithwyr hynny sy’n teithio ar y trên, ac mae wedi cyflwyno amrywiaeth o opsiynau i drigolion lleol o safbwynt cyfleoedd cyflogaeth a mynediad i wasanaethau a chyfleusterau, o fewn Blaenau Gwent ac yn y rhanbarth ehangach.

Byddai ymestyn y rheilffordd i Abertyleri yn cynyddu’r buddion hyn ymhellach, a byddai ganddi’r potensial i gael effaith drawsnewidiol ar drigolion, busnesau a chanol y dref ei hun yn sgil cynnydd yn y nifer o ymwelwyr, a gallai alluogi trigolion i fanteisio ar effeithiau buddsoddiadau eraill ar draws y Brifddinas-Ranbarth, a dwyn y budd gorau ohonynt.

Buddsoddi a throsoledd

£1.5m

Buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

stats-chevron

£3.5m

Cyllid cyfatebol

stats-chevron

£tbc

Trosoledd rhagweledig

stats-chevron

Mae prosiect Cam 1 Metro Plus yn rhan o raglen lawer ehangach i gynyddu amlder y trenau sy’n rhedeg ar hyd Rheilffordd Cwm Ebwy, ac mae’n ffurfio rhan o gais ehangach am gyllid gan yr Adran Drafnidiaeth o dan y Rhaglen ‘Adfer Rheilffyrdd’ fel rhan o agenda ‘codi lefelau’ Llywodraeth y DU.

Defnyddiwyd y cyllid, hyd yn hyn, i gaffael parsel o dir y caiff yr orsaf ei hadeiladu arno, ac i ddechrau’r broses ddylunio drwy weithio gyda chydweithwyr yn Trafnidiaeth Cymru.

Buddion a chanlyniadau a ddisgwylir

Byddai ymestyn Rheilffordd Cwm Ebwy i Abertyleri yn cynyddu’r buddion a ddaeth yn sgil cyflwyno Rheilffordd Cwm Ebwy, a byddai gan y gwaith hwnnw’r potensial i gael effaith drawsnewidiol ar drigolion, busnesau a chanol y dref ei hun yn sgil cynnydd yn y nifer o ymwelwyr, a gallai alluogi trigolion i fanteisio ar effeithiau buddsoddiadau eraill ar draws y Brifddinas-Ranbarth, a dwyn y budd gorau ohonynt.

Byddai’r gyfnewidfa a’r rheilffordd gangen newydd yn cynyddu hygyrchedd Cwm Ebwy Fach o ran teithio iddo ac oddi wrtho, ac yn gwella’i gysylltedd â’r rhanbarth ehangach.

Pethau allweddol y gellir eu cyflawni

Byddai’r prosiect yn cynnwys cyflwyno estyniad newydd i’r rheilffordd o Aber-bîg i Abertyleri, ac adeiladu gorsaf ar ochr ddeheuol canol y dref.

Y partneriaid a phobl allweddol sydd ynghlwm

Mae’r sefydliadau canlynol yn bartneriaid yn y prosiect:

CCR Partner Logo
Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Welsh Government Partner Logo
Llywodraeth Cymru
Metro Plus: Canolfan Drafnidiaeth Abertyleri
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Y newyddion diweddaraf ar y prosiect

There are no project updates at present. Please check back later.