Metro Plus: Casnewydd
Beth yw'r prosiect?
Rhaglen gynllunio gwerth £50 miliwn (Rhaglen Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol (ATRh) Metro+ a fydd yn cefnogi gweithredu Metro De Cymru.
Drwy’r rhaglen ATRh Metro+ bydd pob Awdurdod Lleol yn ne ddwyrain Cymru yn cael cyfran £3miliwn i weithredu cynllun. Daw cyllid gan Lywodraeth Cymru (£15miliwn) a gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (BDdPRC) (£15miliwn) i weithredu’r rhaglen hon, a bydd yr Awdurdod Lleol a buddsoddiad preifat yn dod ag £20m arall.
Mae’r prosiect Metro+ hwn yn rhan o raglen lawer ehangach i ddarparu opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy amgen i ffordd liniaru’r M4.
Rhannu:
Yn benodol, bydd prosiect Metro+ yn cynnwys darparu coridor bws cyflym trafnidiaeth newydd rhwng Casnewydd a Chaerdydd. Bydd hyn yn ymgorffori cyfleusterau teithwyr o ansawdd uchel gan gynnwys gwybodaeth electronig, gwefru trydanol ar gyfer bysiau, cyfleuster parcio a theithio mawr posibl, yn ogystal â mesurau teithio llesol i gael mynediad i’r coridor.
Mae Coridor Bysiau Casnewydd i Gaerdydd yn cysylltu nifer o atyniadau teithiau sylweddol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan gynnwys:
- Canol Dinas Caerdydd
- Parc Manwerthu Heol Casnewydd
- Parc Busnes Llaneirwg
- Parc Cleppa/IQE a’r Gweithfeydd Lled-ddargludyddion
- Swyddfa Ystadegau Gwladol / Swyddfa Batentau
- Ysbyty Brenhinol Gwent
- Canol Dinas Casnewydd.
Mae gwasanaethau ar y coridor hwn yn dioddef o amseroedd teithio estynedig (amserlenni cyfredol sy'n nodi amser o tua 1 awr i ymgymryd â'r daith 15 milltir), gyda gweithredwyr yn cadarnhau bod gwasanaethau'n destun amrywioldeb sylweddol o ran amser teithio. Mae diffyg cysondeb hefyd mewn seilwaith ar ochr y ffordd, nad yw'n cynnig dewis cydlynol i ddarpar ddefnyddwyr.
Cwblhaodd Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru eu hastudiaeth a rhyddhaodd ei Argymhellion ar 26ain Tachwedd 2020. Sefydlwyd y comisiwn i argymell ffyrdd o leihau tagfeydd ar draffordd yr M4 heb adeiladu ffordd liniaru newydd o amgylch Casnewydd.
Eu prif gynnig yw 'rhwydwaith o ddewisiadau amgen', gan ddarparu dewis trafnidiaeth gyhoeddus cynhwysfawr a chydgysylltiedig yn lle'r M4. Mae'r rhwydwaith wedi'i gynllunio i roi opsiynau trafnidiaeth newydd i bobl a busnesau nad ydynt yn defnyddio'r draffordd – nac yn wir yn defnyddio car. Mae un o'r argymhellion yn cynnwys coridor bws cyflym newydd rhwng Casnewydd a Chaerdydd. Mae Cyngor Casnewydd a Thrafnidiaeth Cymru wedi cael y dasg o ystyried y cynnig hwn.
Diben y prosiect hwn yw nodi a gweithredu cyfleoedd i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Buddsoddi a throsoledd
£1.5m
Buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
£3.5m
Cyllid cyfatebol
£tbc
Trosoledd rhagweledig
Bydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a LlC ill dau yn buddsoddi arian yn y prosiect hwn i ddatblygu’r cynllun i gam sy’n angenrheidiol er mwyn denu cyllid ychwanegol o raglenni ehangach o’r fath.
Buddion a chanlyniadau disgwyliedig
Yn gynnar yn y broses ddatblygu, bydd darparu coridor bws cyflym trafnidiaeth newydd rhwng Casnewydd a Chaerdydd yn cynnwys;
- Cyfleusterau teithwyr o ansawdd uchel gan gynnwys gwybodaeth electronig,
- Gwefru trydanol ar gyfer bysiau
- Cyfleuster parcio a theithio mawr posibl,
- Mesurau teithio llesol i gael mynediad i’r coridor.
Bydd y cynnig yn rhan o gyfres o gynigion i symud ymlaen i’w cyflawni er mwyn atal tagfeydd ar yr M4 ac i gyflymu amseroedd teithio.
Y prif bethau y gellir eu cyflawni
Bydd y ffocws cychwynnol ar ddatblygu’r rhaglen yn ddigonol i’w galluogi i ddenu buddsoddiad ehangach i gyflawni’r rhaglen drafnidiaeth gyffredinol.
Y partneriaid a phobl allweddol sydd ynghlwm
.