Metro Plus: Cyfnewidfa Caerffili
Beth yw'r prosiect?
Rhaglen gynllunio gwerth £50 miliwn (Rhaglen Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol (ATRh) Metro+ a fydd yn cefnogi gweithredu Metro De Cymru.
Drwy’r rhaglen ATRh Metro+ bydd pob Awdurdod Lleol yn ne ddwyrain Cymru yn
cael cyfran £3miliwn i weithredu cynllun. Daw cyllid gan
Lywodraeth Cymru (£15miliwn) a gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (BDdPRC) (£15miliwn)
i weithredu’r rhaglen hon, a bydd yr Awdurdod Lleol a buddsoddiad preifat yn dod ag £20m arall.
Rhannu:
Mae prosiect penodol Metro+ ar gyfer darparu cyfnewidfa drafnidiaeth newydd ar gyfer Caerffili, ar safle’r gorsafoedd bysiau a rheilffyrdd presennol. Bydd y gyfnewidfa’n cynnwys cyfleusterau teithwyr o ansawdd uchel gan gynnwys gwybodaeth electronig, gwefru trydanol ar gyfer bysiau a chyfleuster parcio a theithio mwy. Fodd bynnag, mae’r prosiect hwn yn rhan o raglen adfywio ar gyfer yr ardal sy’n ceisio cyflawni:-
- CYRCHFAN ENWOG I DWRISTIAID sy’n manteisio’n llawn ar bresenoldeb Castell Caerffili i ddarparu profiad unigryw i ymwelwyr y mae pobl i’w ail-ymweld.
- TREF GYSYLLTIEDIG gyda chyfnewidfa drafnidiaeth fodern sy’n darparu mynedfa nodedig i’r dref, yn cysylltu’r dref â’r rhanbarth ehangach ac yn darparu canolfan i fynd ati i archwilio’r dirwedd o’i hamgylch
- CYRCHFAN BUSNES gyda chanolfan economaidd nodedig yn y gyfnewidfa drafnidiaeth, coridor datblygu pwrpasol sy’n cysylltu’r gyfnewidfa â Pharc Busnes Caerffili gyfunol,
a chyfres o weithfannau hyblyg yng nghanol y dref. - LLE GWYCH I FYW gydag amgylchedd ardderchog ar gyfer preswylwyr presennol a newydd sy’n seiliedig ar ddewis o gartrefi newydd, gweithleoedd hygyrch, a dewisiadau hamdden amrywiol.
- TREF HAMDDEN sy’n darparu cynnig manwerthu a hamdden amrywiol sy’n bodloni gofynion bob dydd, ond sydd hefyd yn cynnwys cynhyrchion pwrpasol a bwyd a lluniaeth gwych ddydd a nos.
- PARTH CYHOEDDUS CYNHWYSOL A DENIADOL mewn tref sydd â rhwydwaith o strydoedd a mannau gwyrdd unigryw, sy’n sicrhau’r golygfeydd gorau o’r Castell, sy’n darparu lle ar gyfer gweithgareddau awyr agored ac sy’n ddiogel ac yn hygyrch.
Buddsoddi a throsoledd
£1.5m
Buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
£3.5m
Cyllid cyfatebol
£tbc
Trosoledd rhagweledig
Bydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a LlC ill dau yn buddsoddi arian yn y prosiect hwn i ddatblygu’r cynllun i gam sy’n angenrheidiol er mwyn denu cyllid ychwanegol o raglenni ehangach o’r fath.
Buddion a chanlyniadau disgwyliedig
Bydd cysylltiad annatod rhwng y buddion hyn a buddion y rhaglen adfywio ehangach. Yn benodol bydd prosiect Metro+ yn cynnwys:
- Darparu cyfnewidfa drafnidiaeth newydd ar gyfer Caerffili, ar safle’r gorsafoedd bysiau a rheilffyrdd presennol. Bydd yn cynnwys
- Cyfleusterau teithwyr o ansawdd uchel gan gynnwys gwybodaeth electronig,
- Gwefru trydanol ar gyfer bysiau
- Cyfleuster parcio a theithio mwy.
- Bydd y datblygiad hefyd yn ystyried cyfleoedd ehangach y ganolfan busnes a thechnoleg werdd.
Y prif bethau y gellir eu cyflawni
Mae’r cyraeddiadau cychwynnol yn gynlluniau datblygu a fydd yn hwyluso’r gwaith o sicrhau buddsoddiad ehangach i gyflawni’r rhaglen adfywio gyffredinol.
Y partneriaid a phobl allweddol sydd ynghlwm
.