Metro Plus: Cyfnewidfa Dociau’r Barri
Beth yw'r prosiect?
Mae Metro Plus yn rhaglen o gynlluniau gwerth £50 miliwn a ddatblygwyd ar y cyd â’r Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol i gefnogi’r gwaith o gyflwyno Metro De Cymru.
O dan drefniadau Rhaglen Metro Plus yr Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol, bydd pob un o’r deg awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru’n derbyn £3 miliwn i roi cynllun ar waith. Bydd cyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru (£15 miliwn) a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (£15 miliwn) er mwyn cyflwyno’r rhaglen hon. Daw £20 miliwn pellach o awdurdodau lleol ac o fuddsoddiad preifat.
Mae prosiect Adfywio Porth Canol Tref y Barri wedi nodi’r angen i wneud gwaith adfywio cynhwysfawr ar dir yng nghyffiniau gorsaf reilffordd Dociau’r Barri, sy’n borth pwysig i ganol dref a Glannau’r Barri. Mae cynnig y prif gynllun ar gyfer cyfnewidfa fysiau a chyfleuster parcio a theithio ychwanegol yn yr ardal hon yn cynnig cyfle i ddwyn buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd ymlaen a allai helpu i drawsnewid yr ardal a chreu argraff gyntaf gadarnhaol o’r dref.
Rhannu:
Mae gan Ganolfan Drafnidiaeth y Barri y potensial i ddenu buddsoddiad economaidd newydd i Chwarter yr Orsaf, ac i ganol y dref a’r ardal o’i hamgylch, gyda datblygiadau’n cynnwys cymdogaethau defnydd cymysg ac adeiladau amlswyddogaethol o fewn ychydig gannoedd o fetrau i’r orsaf. Ceir y posibilrwydd o ymgorffori llety o safon, sy’n ddeniadol i weithwyr proffesiynol ifanc, yng nghanol y dref, ac o ddatblygu unedau manwerthu sy’n addas ar gyfer entrepreneuriaid, busnesau bach, a busnesau sydd ar gychwyn. Y gobaith yw y byddai’r cynllun yn arwain at newid trawsnewidiol ar gyfer y Barri trwy wella’r cysylltedd â chanol y dref ac ag ardaloedd eraill. Ynghlwm wrth hwn y mae’r posibilrwydd o ddenu mwy o bobl i’r dref i ymweld â hi, ac i weithio, buddsoddi a byw ynddi, gan arwain at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr a gallu’r dref i ddenu buddsoddiad, gan greu swyddi a chartrefi. Ceir potensial hefyd i greu pwynt cyrraedd modern, sydd wedi’i ddylunio’n dda, sy’n croesawu ymwelwyr, pobl fusnes a thrigolion, gan ddarparu profiad uchel ei safon.
Byddai gan Ganolfan Drafnidiaeth y Barri rywfaint o botensial hefyd i fynd i’r afael â heriau lleol, trwy gyflwyno cyfleoedd cyflogaeth drwy ddarparu trafnidiaeth well, a thrwy wella iechyd y boblogaeth os bydd y cynllun yn gallu cefnogi dulliau cynaliadwy o deithio a theithio llesol.
Awgryma adroddiad gan yr Urban Transport Group fod gan drafnidiaeth ran bwysig i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r heriau canlynol, yn enwedig mewn trefi ôl-ddiwydiannol fel y Barri:
- Cyflogau isel a thlodi mewn gwaith
- Diweithdra a diffyg gwytnwch mewn economïau lleol
- Cyrhaeddiad addysgol isel a lefelau sgiliau isel
- Cynhyrchiant isel
- Anawsterau wrth ddenu mentrau newydd, a’r canfyddiad ei bod wedi’i gadael ar ôl
- Cafnu strydoedd mawr
- Tanfuddsoddi mewn seilwaith a’r stoc dai
- Poblogaethau sy’n heneiddio
Byddai’r gyfnewidfa fysiau’n cynnwys 4-5 o gilfachau bws a lle ar gyfer tacsis, a byddai’n ymestyn y safle parcio a theithio sy’n gweithredu ar ei eithaf neu’r tu hwnt iddo ar hyn o bryd. Mae’r rhaglen reilffyrdd bresennol yn cynnwys capasiti ychwanegol ar hyd y rheilffordd, a, cyn y pandemig COVID-19, roedd pob safle parcio a theithio yn y Barri yn gweithio ar ei eithaf neu’r tu hwnt iddo. Mae’n fwriad adfywio i gynnwys darpariaeth aml-ddefnydd rhwng y ddau leoliad a nodwyd ar hyd coridor y rheilffordd, ac mae cynnig Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio wedi’i gyflwyno ar gyfer sicrhau’r ddarpariaeth hon. Gallai darparu gwasanaeth bysiau o ogledd i de’r Barri, a fyddai’n cysylltu â’r rheilffordd, leihau’r tagfeydd ar hyd coridor Port Road / Croes Cwrlwys a choridor Dinas Powys. Câi mannau gwefru trydanol eu cynnwys fel rhan o’r prosiect a gyflwynir.
Buddsoddiad a throsoledd cyllidol y rhaglen Metro Plus
£1.5m
Buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
£3.5m
Cyllid cyfatebol
£tbc
Trosoledd rhagweledig
Pethau allweddol y gellir eu cyflawni
Cyfnewidfa fysiau newydd, gan gynnwys pedwar i bump o gilfachau bws; cyfleusterau a rennir i deithwyr, gan gynnwys swyddfa docynnau; man gollwng i dacsis; seilwaith ar gyfer cerbydau trydanol; eitemau adnewyddadwy; cyfleuster parcio a theithio; cyfleusterau i feiciau (posibilrwydd nextbike); brandio Trafnidiaeth Cymru.